Ffioedd

Mae’n rhaid ichi dalu:

  • ffi i wneud cais i fod yn ddirprwy
  • ffi oruchwylio bob blwyddyn ar ôl i chi gael eich penodi

Efallai y bydd rhaid i chi hefyd dalu i sefydlu ‘bond diogelwch’ cyn y gellir eich penodi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol.

Pan fyddwch chi’n gwneud cais

Rhaid i chi dalu ffi gwneud cais o £408.

Os ydych yn cyflwyno’ch ffurflenni drwy’r post, dylech gynnwys siec yn daladwy i ‘Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’.

Os ydych yn cyflwyno’ch ffurflenni ar-lein, gallwch dalu gyda cherdyn debyd neu gredyd.

Bydd angen i chi dalu’r ffi gwneud cais ddwywaith os ydych yn gwneud cais i ddod yn ddau fath o ddirprwy.

Bydd angen i chi hefyd dalu £494 os bydd y llys yn penderfynu bod angen i’ch achos gael ei wrando mewn gwrandawiad. Bydd y llys yn dweud wrthych pa bryd fydd angen i chi dalu’r ffi hon.

Bondiau diogelwch ar gyfer dirprwyon eiddo a materion ariannol

Efallai y bydd rhaid i chi dalu i sefydlu ‘bond diogelwch’ cyn y gellir eich penodi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol. Mae hwn yn fath o yswiriant sy’n amddiffyn arian yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt.

Nid oes rhaid i chi sefydlu bond os yw un o’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych yn cynrychioli awdurdod lleol
  • mae’r llys yn penderfynu nad yw’n angenrheidiol, er enghraifft os yw gwerth ystad yr unigolyn yn isel

Os oes angen i chi sefydlu un, fe gewch lythyr gan y llys yn dweud hyn wrthych. Bydd y llythyr yn egluro beth i’w wneud nesaf.

Byddwch yn sefydlu’r bond gyda darparwr bond diogelwch. Bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar:

  • werth ystad yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt
  • faint o’u hystad rydych chi’n ei reoli

Gallwch ei dalu naill ai:

  • gan ddefnyddio arian yr unigolyn
  • eich hun - gallwch gael yr arian yn ôl o ystad yr unigolyn ar ôl i chi gael mynediad iddo

Efallai y cewch eich erlyn os byddwch yn camddefnyddio arian yr unigolyn.

Ar ôl i chi gael eich penodi

Rhaid i chi dalu ffi oruchwylio flynyddol yn dibynnu ar ba lefel o oruchwyliaeth sydd ei hangen ar eich dirprwyaeth. Bydd angen ichi dalu:

  • £320 am oruchwyliaeth gyffredinol
  • £35 am oruchwyliaeth is - mae hyn yn berthnasol i rai dirprwyon eiddo a materion ariannol sy’n rheoli llai na £21,000

Bydd eich ffi oruchwylio flynyddol ar gyfer y flwyddyn flaenorol yn ddyledus ar 31 Mawrth.

Bydd angen i chi hefyd dalu ffi asesu o £100 os ydych chi’n ddirprwy newydd.

Bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn dweud wrthych sut a phryd i dalu’ch ffioedd asesu a goruchwylio.

Efallai y gallwch hawlio ad-daliad o’ch ffioedd mewn rhai sefyllfaoedd.

Cael help gyda’ch ffi gwneud cais

Efallai na fydd rhaid i chi dalu ffi gwneud cais yn dibynnu ar:

  • y math o ddirprwy rydych chi’n gwneud cais i fod
  • faint o arian sydd gennych chi neu’r unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt
Math o ddirprwy Arian pwy fydd yn cael ei asesu
Eiddo a materion ariannol Nhw
Lles personol Chi

Mae’r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am gael help gyda’ch ffioedd.

Gallwch hawlio’r ffi yn ôl o gronfeydd yr unigolyn rydych am fod yn ddirprwy iddynt os ydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol.

Ad-delir y ffi os bydd yr unigolyn yn marw cyn pen 5 diwrnod ar ôl i’r Llys Gwarchod dderbyn y cais.

Help gyda’ch ffioedd goruchwylio

Gallwch wneud cais am esemptiad neu ostyngiad yn y ffi os yw’r unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt yn cael budd-daliadau penodol neu os yw ei incwm yn llai na £12,000. Darllenwch y canllawiau a ddaw gyda’r ffurflen a gwnewch gais os yw’r unigolyn yn bodloni’r gofynion. Mae’r cyfeiriad ar y ffurflen.

Os bydd yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt yn marw, byddwch yn talu’r ffi oruchwylio am y rhan o’r flwyddyn pan wnaethoch weithredu fel dirprwy. Er enghraifft, bydd rhaid i chi dalu £17.50 os daw eich dirprwyaeth oruchwylio is i ben ar ôl 6 mis.