Cyfrifon, rhoddion a threuliau

Rhaid i chi gadw cyfrifon a dilyn y rheolau ar gyfer rhoddion a threuliau os ydych chi’n gweithredu fel dirprwy i rywun arall. Rhaid i chi hefyd gofnodi’r trafodion yn eich adroddiad dirprwy blynyddol.

Cyfrifon

Fel dirprwy eiddo a materion ariannol, rhaid i chi gadw copïau o:

  • gyfriflenni banc
  • contractau ar gyfer gwasanaethau neu grefftwyr
  • derbynebau
  • llythyrau a negeseuon e-bost am eich gweithgareddau fel dirprwy

Rhoddion

Bydd eich gorchymyn llys yn dweud a allwch brynu anrhegion neu roi rhoddion neu arian ar ran yr unigolyn arall, gan gynnwys rhoddion i elusennau. Bydd hefyd yn dweud a oes terfyn blynyddol ar faint o arian y gallwch ei ddefnyddio ar gyfer rhoddion.

Rhaid i roddion fod yn rhesymol. Mae angen i chi sicrhau nad yw unrhyw roddion yn lleihau lefel y gofal y gall yr unigolyn rydych chi’n ddirprwy iddynt ei fforddio.

Rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os ydych eisiau gwneud rhodd mawr untro at ddibenion Treth Etifeddiant, er enghraifft.

Treuliau

Gallwch hawlio treuliau am bethau y mae’n rhaid i chi eu gwneud i gyflawni eich rôl fel dirprwy, er enghraifft galwadau ffôn, costau postio a theithio. Ni allwch hawlio:

  • costau teithio ar gyfer ymweliadau cymdeithasol
  • am yr amser a dreulir yn cyflawni eich dyletswyddau (oni bai eich bod yn ddirprwy proffesiynol, er enghraifft cyfreithiwr)

Efallai y gofynnir i chi baratoi adroddiad manwl o’r hyn y gwnaethoch ei wario. Bydd rhaid i chi dalu’r arian yn ôl os bydd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn canfod bod eich treuliau yn afresymol. Efallai y byddant yn gofyn i’r llys eich atal rhag bod yn ddirprwy os ydynt yn credu eich bod wedi bod yn anonest.