Pwy all wneud cais i fod yn ddirprwy

Gallwch wneud cais i fod yn ddirprwy os ydych chi’n 18 oed neu’n hŷn. Fel arfer, mae dirprwyon yn berthnasau agos neu’n ffrindiau i’r unigolyn sydd angen help i wneud penderfyniadau.

Os ydych eisiau gwneud cais i fod yn ddirprwy eiddo a materion ariannol, mae angen i chi feddu ar y sgiliau i wneud penderfyniadau ariannol i rywun arall.

Gall y llys benodi 2 ddirprwy neu fwy ar gyfer yr un unigolyn.

Pan fydd mwy nag un dirprwy

Pan fyddwch yn gwneud cais, dywedwch wrth y llys sut byddwch yn gwneud penderfyniadau os nad chi yw’r unig ddirprwy. Bydd hyn naill ai:

  • gyda’ch gilydd (‘dirprwy ar y cyd’), sy’n golygu bod rhaid i’r holl ddirprwyon gytuno ar y penderfyniad
  • ar wahân neu gyda’ch gilydd (‘ar y cyd ac yn unigol’), sy’n golygu y gall dirprwyon wneud penderfyniadau ar eu pen eu hunain neu gyda dirprwyon eraill

Mathau eraill o ddirprwy

Mae rhai pobl yn cael eu talu i weithredu fel dirprwyon, er enghraifft cyfrifwyr, cyfreithwyr neu gynrychiolwyr awdurdod lleol.

Gall y Llys Gwarchod benodi dirprwy arbenigol (a elwir yn ‘ddirprwy panel’) o restr o gwmnïau cyfreithiol ac elusennau cymeradwy os nad oes unrhyw un arall ar gael.