Cyfrifoldebau

Fel dirprwy, rydych chi’n gyfrifol am helpu rhywun i wneud penderfyniadau neu wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Rhaid i chi ystyried lefel gallu meddyliol rhywun bob tro y byddwch yn gwneud penderfyniad drostyn nhw - ni allwch dybio ei fod yr un peth bob amser ac ar gyfer pob math o bethau.

Fe gewch orchymyn llys gan y Llys Gwarchod yn dweud beth allwch a beth na allwch ei wneud. Mae yna hefyd reolau ac enghreifftiau cyffredinol yng Nghod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005, a bydd angen ichi fodloni’r safonau i ddirprwyon.

Canllawiau i bob dirprwy

Pan fyddwch yn gwneud penderfyniad, rhaid i chi:

  • wneud yn siŵr ei fod er budd gorau’r unigolyn arall
  • ystyried beth maent wedi’i wneud yn y gorffennol
  • defnyddio gofal o safon uchel - gallai hyn olygu cynnwys pobl eraill, er enghraifft cael cyngor gan berthnasau a gweithwyr proffesiynol fel meddygon
  • gwneud popeth o fewn eich gallu i helpu’r unigolyn arall i ddeall y penderfyniad, er enghraifft esbonio beth fydd yn digwydd gyda chymorth lluniau neu iaith arwyddion
  • cynnwys manylion y penderfyniadau yn eich adroddiad dirprwy blynyddol

Rhaid i chi beidio ag:

  • atal yr unigolyn, oni bai ei fod i’w atal rhag cael niwed
  • atal triniaeth feddygol sy’n cynnal bywyd
  • manteisio ar sefyllfa’r unigolyn, er enghraifft eu cam-drin neu elwa o benderfyniad rydych wedi’i wneud ar eu rhan
  • gwneud ewyllys i’r unigolyn, neu newid ei ewyllys bresennol
  • rhoi rhoddion oni bai bod y gorchymyn llys yn dweud y gallwch wneud hyn
  • cadw unrhyw arian neu eiddo yn eich enw eich hun ar ran yr unigolyn

Dirprwyon eiddo a materion ariannol

Rhaid i chi sicrhau:

  • bod eich eiddo a’ch arian eich hun ar wahân i eiddo ac arian yr unigolyn arall
  • eich bod yn cadw cofnodion o’r materion ariannol rydych yn eu rheoli ar eu rhan yn eich adroddiad dirprwy blynyddol

Efallai y bydd angen i chi reoli cyfrif Swyddfa Cronfeydd y Llys ar ran yr unigolyn arall.

Gallech gael dirwy neu eich anfon i’r carchar am hyd at 5 mlynedd (neu’r ddau) os ydych yn cam-drin neu’n esgeuluso’r unigolyn ar bwrpas.