Skip to main content

Dirprwyon: gwneud penderfyniadau dros rywun sydd heb allu

Sgipio cynnwys

Pan gewch eich penodi

Anfonir ‘gorchymyn llys’ atoch yn dweud wrthych beth y gallwch ac na allwch ei wneud fel dirprwy. Pan fyddwch wedi’i gael, gallwch ddechrau gweithredu ar ran yr unigolyn.

Anfonir y gorchymyn llys atoch:

  • cyn gynted ag y cewch eich penodi
  • os ydych chi’n ddirprwy lles personol
  • ar ôl i chi sefydlu bond diogelwch
  • os ydych chi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol a bod y llys wedi gofyn i chi wneud hyn

Bydd angen gorchymyn llys ar wahân arnoch cyn y gallwch:

Gwiriwch y gorchymyn llys. Os oes unrhyw gamgymeriadau, lawrlwythwch a llenwch ffurflen COP9 gyda’r manylion a’i hanfon i’r llys cyn pen 21 diwrnod ar ôl ichi gael y gorchymyn llys. Nid oes unrhyw ffi i’w thalu.

Dweud wrth bobl a sefydliadau eich bod yn ddirprwy

Efallai y bydd angen prawf ar rai unigolion a sefydliadau eich bod yn gweithredu ar ran y person arall.

Gallwch gael copïau swyddogol o’r gorchymyn llys i’w hanfon at sefydliadau fel:

  • banciau a chymdeithasau adeiladu
  • yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), os yw’r person yn derbyn budd-daliadau neu Bensiwn y Wladwriaeth
  • cyfreithwyr
  • cartrefi gofal neu nyrsio
  • awdurdodau lleol

Pan fyddwch chi’n anfon copi swyddogol, gofynnwch iddo gael ei ddychwelyd.

Gallwch archebu copïau ychwanegol o’r gorchymyn llys trwy ysgrifennu at y Llys Gwarchod. Maent yn costio £8 yr un.

Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
London
WC1A 9JA

Dechrau rheoli cyfrif banc

Cyn y gallwch reoli cyfrif, rhaid i chi ddangos i’r banc:

  • y gorchymyn llys gwreiddiol, neu gopi swyddogol ohono
  • prawf o’ch enw, er enghraifft eich pasbort neu’ch trwydded yrru
  • prawf o’ch cyfeiriad, er enghraifft bil nwy, trydan neu dreth y cyngor, neu lythyr gan adran o’r llywodraeth
  • prawf o enw neu gyfeiriad yr unigolyn rydych chi’n gwneud cais i fod yn ddirprwy iddynt - os nad yw’r manylion yr un fath â manylion y cyfrif banc

Cyfrifon Swyddfa Cronfeydd Llys

Os oes gan yr unigolyn rydych chi’n dirprwy ar ei gyfer arian mewn cyfrif Swyddfa Cronfeydd Llys, anfonir gwybodaeth atoch ynglŷn â sut i gael mynediad ato.

Gallwch hefyd wneud cais i agor cyfrif gyda’r Swyddfa Cronfeydd Llys os ydych chi’n ddirprwy eiddo a materion ariannol a’i fod er budd gorau’r unigolyn.

Cofnodi eich penderfyniadau a’ch trafodion

Gallwch gychwyn eich adroddiad dirprwy blynyddol i gofnodi eich penderfyniadau a’ch trafodion, fel talu biliau.