Ffurflen

Gwneud cais am ostyngiad yn y ffi ar gyfer ffioedd dirprwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Gwneud cais i dalu llai am ffioedd goruchwylio ac asesu dirprwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Applies to England and Wales

Dogfennau

Help gyda thalu ffioedd dirprwy OPG (OPG120)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch customerservices@publicguardian.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych chi’n ddirprwy wedi’i benodi gan y Llys Gwarchod a bod angen help ar y person yr ydych yn gweithredu ar ei ran (eich ‘cleient’) gyda chostau ffioedd dirprwy Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus:

  • Ffi asesu dirprwy o £100
  • Ffi goruchwyliaeth gyffredinol o £320
  • Ffi goruchwyliaeth leiaf o £35

Mae canllawiau’r ffurflen hefyd yn esbonio sut a phryd i dalu’r ffioedd.

Gallwch wneud cais am ‘esemptiad’ neu ‘ostyngiad’.

Esemptiad

Os yw eich cleient yn cael budd-daliadau prawf modd penodol, ni fydd yn rhaid i chi dalu unrhyw ffioedd dirprwy - ‘esemptiad’ yw’r enw ar hyn.

Mae’r budd-daliadau’n cael eu rhestru yng nghanllawiau’r ffurflen.

Gostyngiadau

Os yw incwm cyn treth y rhoddwr yn llai na £12,000 y flwyddyn, efallai mai dim ond 50% o ffi dirprwy y bydd yn rhaid i chi ei dalu – ‘gostyngiad’ yw’r enw ar hyn.

Nid oes modd cael ‘gostyngiad’ am ffi goruchwyliaeth leiaf.

Talu eich ffi

Gallwch dalu eich ffi ar-lein, gan ddefnyddio cerdyn credyd neu ddebyd.

Gwybodaeth bersonol

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus wedi ymrwymo i drin a diogelu eich gwybodaeth bersonol yn gyfrifol.

Mae eich preifatrwydd yn bwysig i ni, sy’n cael ei warchod yn gyfreithiol gan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) a Deddf Diogelu Data 2018 (DPA).

Cyhoeddwyd ar 1 October 2011
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 April 2023 + show all updates
  1. Last page of document added. Form now allows customer to fill in table online.

  2. Changed title and added how to pay.

  3. Adding the 'personal information' section to the Welsh translation

  4. Updating the forms to enable digital signatures

  5. Added Welsh translation

  6. Form OPG120 has been updated - now includes guidance about extended awards.

  7. Added 'Personal information' section.

  8. New version of form added.

  9. Added translation

  10. An updated deputy fees form (OPG120) has been added to this page to reflect changes to the Office of the Public Guardian's deputy supervision levels.

  11. First published.