Hysbysu twyll budd-daliadau

Hysbysu am rywun rydych yn credu sy’n cyflawni twyll budd-daliadau.

Mae’r dudalen hon ar gael hefyd yn Saesneg (English).

Rhowch cyn gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y person rydych yn hysbysu amdanynt.

Gallai hyn gynnwys:

  • eu henw
  • eu cyfeiriad
  • y math o dwyll rydych yn credu maent yn ei gyflawni

Mae pob hysbysiad yn anhysbys - nid oes angen i chi roi eich enw neu fanylion cyswllt.

Dylech ond hysbysu am rywun unwaith.

Er eich diogelwch eich hun, ni ddylech geisio darganfod mwy na rhoi gwybod i unrhyw un eich bod chi’n gwneud hysbysiad.

Rhoi gwybod am fathau eraill o dwyll neu drosedd

Mae ffordd wahanol o hysbysu:

Os ydych mewn perygl neu os yw’n argyfwng, deialwch 999 a gofynnwch am yr heddlu.

Beth sy’n digwydd ar ôl i chi hysbysu twyll budd-dal

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn edrych ar y wybodaeth a roddwch. Efallai y bydd yn cymryd peth amser i ymchwilio i’ch hysbysiad.

Ni fyddant yn gallu dweud wrthych beth fydd canlyniad eu hymchwiliad.

Bydd DWP ond yn gweithredu os ydynt yn darganfod bod y person wedi cyflawni twyll budd-daliadau. Gall camau gynnwys diddymu budd-daliadau’r unigolyn, eu cael i ad-dalu arian a mynd â hwy i’r llys.

Weithiau ni fydd unrhyw gamau yn cael eu cymryd. Efallai bod y person wedi datgan newid yn eu hamgylchiadau neu efallai na chaiff eu budd-dal ei effeithio gan yr hyn rydych yn ei hysbysu.

Hysbysu twyll budd-daliadau ar-lein

Dechrau nawr

Hysbysu twyll budd-daliadau dros y ffôn

Yng Nghymru a Lloegr

Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Cenedlaethol (NBFH) Ffôn: 0800 854 440 Llinell Gymraeg: 0800 678 3722 Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 6pm Darganfyddwch am gostau galwadau

Relay UK (os na allwch glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 854 440

Gwasanaeth ‘video relay’ Iaith Arwyddion Prydain (BSL) os ydych ar gyfrifiadur – darganfyddwch sut i ddefnyddio’r gwasanaeth ar ffôn symudol neu dabled

Yng Ngogledd Iwerddon

Defnyddiwch y rhif hwn i hysbysu am bobl sy’n:

  • byw yng Ngogledd Iwerddon
  • byw yn rhywle arall ond eich bod yn meddwl eu bod yn cyflawni twyll budd-daliadau yn erbyn budd-daliadau a thaliadau a wneir gan y ‘Department for Communities’ yng Ngogledd Iwerddon

Llinell Gymorth Twyll Budd-daliadau Gogledd Iwerddon
Ffôn: 0800 975 6050
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 4pm
Darganfyddwch am gostau galwadau

Hysbysu twyll budd-daliadau trwy’r post

Mail Handling Site A
Wolverhampton
WV98 2BP