15 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim i blant 3 a 4 oed

Gall pob plentyn 3 i 4 oed yn Lloegr gael 570 awr y flwyddyn yn rhad ac am ddim. Fel arfer, mae 15 awr yn cael eu cymryd bob wythnos dros 38 wythnos y flwyddyn, ond gallwch ddewis cymryd llai o oriau dros fwy o wythnosau.

Mae rhai plant 3 i 4 oed yn gymwys i gael 30 awr o ofal plant yn rhad ac am ddim bob wythnos. Edrychwch i weld a ydych yn gymwys a chael gwybod sut i wneud cais (yn agor tudalen Saesneg) .

Mae’r addysg gynnar a gofal plant yn rhad ac am ddim:

  • yn gorfod bod gyda darparwr gofal plant cymeradwy

  • yn stopio pan fydd eich plentyn yn dechrau yn y dosbarth derbyn (neu’n cyrraedd oedran ysgol gorfodol, os yw’n hwyrach)

Efallai y bydd yn rhaid i chi dalu am gostau ychwanegol fel prydau bwyd, clytiau neu deithiau.

Gallwch ei gael o’r tymor ar ôl pen-blwydd eich plentyn yn 3 oed.

Cysylltwch â’ch darparwr gofal plant neu eich cyngor lleol (yn Saesneg) i gael gwybod mwy.

Mae’r canllaw hwn hefyd ar gael yn Saesneg.

Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon

Mae gwahanol gynlluniau yn yr Alban (yn agor tudalen Saesneg), gwahanol gynlluniau yng Nghymru a gwahanol gynlluniau yng Ngogledd Iwerddon (yn agor tudalen Saesneg).