Skip to main content
Canllawiau

Carchar Woodhill

Carchar diogelwch uchel i ddynion a sefydliad troseddwyr ifanc ym Milton Keynes yw Woodhill.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Woodhill

I ymweld â rhywun yn Woodhill, rhaid i chi:

  • fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • archebu eich ymweliad ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Gall uchafswm o 3 o bobl 18 oed neu hŷn ymweld ar yr un pryd, yn ogystal â phlant. Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Gall preswylwyr gael un ymweliad penwythnos a 2 ymweliad yn ystod yr wythnos bob mis, yn ogystal ag ymweliadau ychwanegol yn dibynnu ar lefel eu braint.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld, ffoniwch y llinell archebu ymweliadau ar 01908 722 329.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych chi dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Woodhill
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

I drefnu ymweliad, gallwch wneud y canlynol:

Mae’r llinell ffôn ar gyfer trefnu ymweliadau ar agor:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 11.30am
  • Dydd Llun, dydd Mawrth a dydd Iau rhwng 1pm a 3.30pm
  • Ar gau ar wyliau banc

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth, rhwng 2pm a 3:45pm
  • Dydd Iau, rhwng 2pm a 3:45pm
  • Dydd Sadwrn, rhwng 2pm a 3:45pm
  • Dydd Sul, rhwng 2pm a 3:45pm

Sut i drefnu ymweliadau swyddogol

I drefnu ymweliad fideo swyddogol, e-bostiwch custody.woodhill@justice.gov.uk.

Amseroedd ymweld swyddogol drwy fideo:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am, 10am, 2:15pm a 3:15pm (slotiau un awr)

I drefnu ymweliad wyneb yn wyneb swyddogol, e-bostiwch legalvisits.woodhill@justice.gov.uk.

Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:

  • Dydd Iau, rhwng 9am a 10:30am

Cyrraedd Woodhill

Dod o hyd i garchar Woodhill ar fap

Yr orsaf drenau agosaf yw Milton Keynes Canolog, sydd tua 2.5 milltir i ffwrdd.

Mae bysiau’n pasio’n agos at y carchar. Gallwch gynllunio taith gan ddefnyddio cynllunydd taith Bws Arriva neu mae tua 10 munud mewn tacsi.

Mynediad i Woodhill

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Mae’n amod mynediad bod yn rhaid i staff chwilio ymwelwyr, ac mae pob ymweliad yn digwydd yn ôl disgresiwn y rheolwr ymweliadau.

Mae loceri am ddim ar gael yn y ganolfan ymwelwyr ar gyfer cadw cotiau, eitemau personol ac ati.

Rhaid i ymwelwyr â Charchar Ei Fawrhydi Woodhill wisgo’n briodol bob amser. Mae hyn yn adlewyrchu ein nod o greu awyrgylch teuluol fel rhan o’r agenda lleihau aildroseddu a gwedduster.

Dylai dillad pawb fod yn addas i staff allu eu chwilio’n ddigonol heb anhawster.

Mae’r cod gwisg yn berthnasol i bob ymwelydd.

Ni ddylech wisgo’r mathau canlynol o ddillad:

  • topiau byr/wedi’u torri sy’n dangos croen y bol
  • topiau â gwddf isel neu grysau agored sy’n dangos rhigol y bronnau neu frest noeth
  • unrhyw ddillad nad yw’n gorchuddio croen y cluniau
  • unrhyw fath o ddillad y gellir gweld drwyddynt
  • unrhyw ddillad sy’n cynnwys rhwygiadau
  • crysau timau chwaraeon
  • penwisg gan gynnwys unrhyw ddillad gyda hwd (ac eithrio at ddibenion crefyddol)
  • dillad sy’n cynnwys deunydd tramgwyddus
  • siorts neu drowsus combat/cargo
  • trowsus gyda phocedi ychwanegol a/neu sipiau, gan gynnwys trowsus tracsiwt
  • sliperi, esgidiau agored sy’n dangos bysedd y traed, fflip fflops, sliders, sandalau, Crocs na sodlau uchel sy’n uwch na 4 modfedd
  • esgidiau â blaen esgid amddiffynnol
  • dillad y brand Hoodrich

Yn ogystal â’r uchod, ni chaniateir yr eitemau canlynol yn y sefydliad:

  • unrhyw ddillad sydd â byclau mawr, cadwyni a/neu lawer o sipiau
  • beltiau â byclau mawr (gweler y canllaw gweledol)
  • hetiau
  • sgarffiau
  • menig
  • hancesi poced (mae hancesi papur ar gael yn y Neuadd Ymweliadau)
  • oriawr
  • gormod o emwaith neu dyllau gemwaith na ellir eu dangos yn hawdd i staff chwilio
  • siacedi neu gotiau ‘puffer’/ychwanegol

Fel eithriad, mae gan blant 10 oed ac iau ganiatâd i wisgo dillad â hwd a/neu ddillad â phadin.

Ymweld gyda babi

Ni chaniateir pramiau/teclynnau cario babis yn y sefydliad.

Mae pramiau ar gael cyn i chi fynd i mewn i’r neuadd ymweliadau. Gofynnwch i aelod o staff os oes angen un arnoch.

Gallwch ddod â’r ategolion canlynol i fabis:

  • un dymi
  • un bib
  • un flanced/siôl fach
  • un botel y gellir gweld trwyddi (a ddylai gynnwys llaeth yn unig)

Mae clytiau a weips ar gael yn yr ystafell aros, os bydd eu hangen arnoch.

Ymwelwyr â thagiau electronig

Ni chaniateir i unrhyw ymwelydd ddod i mewn i’r sefydliad gan wisgo tag electronig oni bai bod ganddo awdurdod ysgrifenedig gan y llywodraethwr.

Ni fydd caniatâd llafar yn cael ei roi yn union cyn yr ymweliad.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Woodhill

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â charcharor yn ystod ei amser yn Woodhill.

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd y gallant eu defnyddio ar adegau penodol:

  • 6am a 8am
  • 9am a 1pm
  • 2pm a 11pm

Nid yw’r ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd carcharorion bob amser yn gorfod eich ffonio chi. Rhaid iddyn nhw brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallan nhw ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon ar ôl iddyn nhw gyrraedd, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallan nhw ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth Negeseuon Llais y Carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho’r ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all ofyn am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os yw carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Darllenwch fwy am sut mae’r ap Prison Video yn gweithio

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Woodhall drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu llythyr ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen. Os nad ydych chi’n gwybod rhif y carcharor, cysylltwch â Woodhill.

Bydd pob llythyr drwy’r post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.

Radio Cenedlaethol y Carchardai - Sioe i Deulu a Ffrindiau Ddewis y Caneuon

Mae Radio Cenedlaethol y Carchardai yn darlledu i holl gelloedd y carchardai ledled Cymru a Lloegr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gall teulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn y carchardai trwy anfon ceisiadau am ganeuon, negeseuon ysgrifenedig neu recordiadau llais. Yna bydd y rhain yn cael eu darllen allan ar y radio neu’n cael eu chwarae yn ystod y sioe wythnosol.

Gallwch anfon neges, a chlywed y sioe, yn nationalprisonradio.com

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Bellach, allwch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Nid yw’n bosibl anfon eitemau nac eiddo at garcharorion. Yn lle hynny, gallwch anfon arian at garcharorion y gallant ei ddefnyddio i brynu eitemau drwy system gatalog.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau addysg a llyfrgell y carchar, Atodiad A.

Bywyd yn Woodhill

Mae Woodhill wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion sydd wedi’u cael yn euog o droseddau difrifol wneud defnydd cadarnhaol o ddedfrydau hir.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob unigolyn yn Woodhill hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan y llinell gymorth ar gyfer teuluoedd carcharorion, Prisoners’ Families Helpline.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd carcharorion yn cyrraedd Woodhill am y tro cyntaf, byddan nhw’n gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i siarad â rhywun i weld sut maen nhw’n teimlo ac i holi am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw ar y pryd.

Cynefino

Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Woodhill yn cael sesiwn gynefino sy’n para 5 diwrnod. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 800 o garcharorion yn Woodhill mewn cymysgedd o gelloedd unigol a rhai a rennir. Mae gan bob cell ffôn ar gyfer gwneud galwadau.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu sydd wedi’u cynllunio o amgylch eu nodau cyflogaeth. Mae’r pynciau’n cynnwys:

  • Saesneg
  • mathemateg
  • peintio ac addurno
  • sgiliau lluosog
  • arlwyo
  • technoleg cerdd

Mae gwaith ar gael yn y carchar, ynghyd â’r cyfle i astudio ac ennill cymwysterau proffesiynol. Mae’r meysydd yn cynnwys:

  • gweithdy contract
  • golchi dillad
  • rheoli gwastraff
  • criw garddio
  • gardd farchnad
  • cegin

Gall carcharorion hefyd ymgymryd â rolau mentora i helpu eraill gyda’u dysgu.

Rhyddhau dros dro

Gall carcharorion fod yn gymwys i gael eu rhyddhau ar drwydded dros dro. Gellir defnyddio hyn i gael profiad gwaith yn y gymuned leol a pharatoi ar gyfer cael eu rhyddhau. Gall carcharorion wneud cais am hyn yn y carchar.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Gwybodaeth am linellau cymorth a chyngor i deulu a ffrindiau.

Mae tîm PACT yn darparu amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan PACT.

Gallwch hefyd gael help gan dîm caplaniaeth Woodhill pan fydd angen i chi gael sgwrs anodd neu roi newyddion drwg i garcharor. Cysylltwch â Woodhill a gofyn i gael siarad â’r gaplaniaeth.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01908 722 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01908 722 152 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Woodhill.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Woodhill mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Woodhill

Llywodraethwr: Damian Evans

Ffôn: 01908 722 000

Gwybodaeth am gost galwadau

Dilynwch Woodhill ar Twitter

Cyfeiriad

HMP/YOI Woodhill
Tattenhoe Street
Milton Keynes
Buckinghamshire
MK4 4DA

Gweler map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Tachwedd 2025 Show all updates
  1. Updated official visits information.

  2. Official video visit times updated.

  3. How to book official visits section updated.

  4. Governor updated to Damian Evans.

  5. Social visiting times updated.

  6. Dress code updated to prohibit Hoodrich brand clothing.

  7. Entering Woodhill section updated including dress code and visiting with babies sections.

  8. Social visiting time changes from 15 May 2025.

  9. Added link to the National Prison Radio (NPR) request show for family and friends, under the 'Keep in touch with someone' section.

  10. Added link to online booking and added friends and family visiting time slots.

  11. Secure video calls update.

  12. Updated visiting information

  13. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  14. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  15. Updated visiting information: Visits temporarily suspended

  16. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  17. New visiting times and booking information added.

  18. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  19. Visits update

  20. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  21. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  22. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  23. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  24. Updated visiting times and visiting procedure changes in line with coronavirus restrictions.

  25. Added confirmation of secure video calls made available at this prison.

  26. First published.

Argraffu'r dudalen hon