Canllawiau

Beth i'w anfon at y Comisiwn Elusennau a sut i gael help

Dysgwch am yr hyn sy’n rhaid i’ch elusen ei anfon at y Comisiwn a pha wasanaethau i'w defnyddio i’ch helpu i gael pethau’n iawn.

Applies to England and Wales

Beth i’w anfon at y Comisiwn Elusennau a sut i gael help

Manylion cofrestru’r elusen (ar gyfer ymddiriedolwyr elusennau cofrestredig yn unig)

Mae cofnod eich elusen ar y gofrestr yn wybodaeth gyhoeddus. Mae’n rhaid ei fod wedi’i ddiweddaru ar bob adeg – gallwch sicrhau yn hawdd ei fod. Rydych chi a’r ymddiriedolwyr eraill yn gyfrifol am sicrhau bod cofnod eich elusen wedi’i ddiweddaru, hyd yn oed os byddwch yn gofyn i rywun arall wneud hyn ar eich rhan. Os oes unrhyw newidiadau ym:

  • manylion yr ymddiriedolwyr
  • enw’r elusen neu ddogfennau llywodraethu
  • manylion cyswllt yr elusen

Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod yr holl newidiadau i ddweud wrthym amdanynt a sut i wneud hyn.

Datganiad Blynyddol, adroddiad a chyfrifon

Mae angen i chi wybod os oes rhaid i’ch elusen anfon y rhain at y Comisiwn a phryd maent yn ofynnol. Mae gwahanol elusennau’n wynebu gofynion gwahanol. Defnyddiwch y wybodaeth hon i ddod o hyd i’r manylion a sicrhau a yw eich elusen yn gwneud pethau’n iawn. Gallwch chi a’r ymddiriedolwyr eraill ofyn i rywun ddarparu’r wybodaeth i ni, ond mae’r holl ymddiriedolwyr yn gyfrifol am sicrhau yr anfonir y wybodaeth gywir atom mewn pryd.

Delio â phroblemau difrifol ac adrodd amdanynt wrthym

Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le dylech chi a’r ymddiriedolwyr eraill ystyried os bydd y broblem wedi achosi (neu gallai achosi) niwed neu golled sylweddol i’ch elusen neu’r bobl mae’n eu helpu.

Os felly, sicrhewch fod eich elusen yn adrodd wrthym am y broblem ar unwaith fel digwyddiad difrifol, hyd yn oed os byddwch yn gofyn i rywun wneud hyn ar eich rhan. Byddwn yn defnyddio’r adroddiad i sicrhau eich bod yn cymryd y camau gweithredu cywir ac a oes angen i ni gymryd camau dilynol gyda’r elusen. Mae hefyd yn ein helpu i sylwi ar dueddiadau y gallwn rybuddio elusennau eraill amdanynt.

Dysgwch fwy am yr hyn rydym yn ei olygu wrth niwed neu golled sylweddol ac am adrodd am ddigwyddiadau difrifol.

P’un ai bod angen adrodd am y broblem wrthym ai peidio dylech chi a’r ymddiriedolwyr eraill:

  • weithredu’n gyflym i atal niwed, colled neu ddifrod ychwanegol
  • cynllunio’r hyn rydych yn dymuno ei ddweud a phwy i gyfathrebu â nhw, megis staff, codwyr arian a chyfranwyr
  • adolygu’r sefyllfa a dysgu sut i’w hatal rhag digwydd eto
  • gadael i’r bobl iawn wybod, er enghraifft cysylltu â’r heddlu hefyd os bu trosedd a amheuir

Help, gwybodaeth a gwasanaethau y gallwch eu cael oddi wrthym yn rhad ac am ddim (ar gyfer pob elusen)

Yr help rydym yn ei ddarparu

Rydym yn darparu amrywiaeth eang o ganllawiau. Mae hyn i’ch helpu i ddeall eich rôl fel ymddiriedolwr a sut i gael pethau’n iawn ac osgoi camsyniadau.

Os na allwch ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn ein canllawiau neu os bydd angen help arnoch ynghylch beth i’w anfon atom neu gael ein caniatâd, gallwch:

  • ein ffonio: 0300 066 9197 ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm, neu

Gwybodaeth y byddwn yn ei hanfon atoch

Byddwn yn anfon:

  • pecyn croeso atoch pan fyddwch yn dod yn ymddiriedolwr am y tro cyntaf
  • rhybuddion rheoleiddiol i’r e-bost cyswllt ar gyfer eich elusen ynghylch risgiau a allai effeithio ar eich elusen

Gallwch hefyd:

Gwybod pryd bydd angen caniatâd ar eich elusen gan y Comisiwn Elusennau i wneud rhywbeth

Y pethau mwyaf cyffredin y gallai elusen fod ag angen caniatâd amdanynt yw:

  • newid ei dogfen lywodraethol
  • talu ymddiriedolwr neu rywun cysylltiedig â nhw (heb gynnwys treuliau)
  • prynu, gwerthu,neu brydlesu tir gan / i rywun sy’n gysylltiedig â’r elusen
  • gwario arian neu werthu tir (heb rywbeth yn eu lle) y dylai’r elusen eu cadw am byth (‘gwaddol parhaol’)

Mae’r ymddiriedolwyr i gyd yn eich elusen yn gyfrifol am gael y caniatâd cywir. Defnyddiwch ein gwasanaethau a ffurflenni ar-lein i:

  • ddysgu os oes angen caniatâd ar eich elusen
  • gwneud cais am ganiatâd
  • derbyn canllawiau i helpu eich elusen i gael hyn yn gywir

Ffynonellau eraill o help

Yn ogystal â’r gwasanaethau a help rydym eu darparu, mae sawl sefydliad arall a all eich cefnogi. Mae rheoleiddwyr eraill a all eich cefnogi’n cynnwys:

Os nad oes gennych chi a’r ymddiriedolwyr eraill y wybodaeth arbenigol sydd ei hangen i wneud penderfyniad, mynnwch gyngor gan ffynhonnell addas - er enghraifft, cyfreithiwr, cyfrifydd neu syrfëwr. Dylech sicrhau eich bod yn cael y cyngor iawn o’r man iawn pan fydd ei angen arnoch.

Gwybodaeth ychwanegol ynghylch sut mae’r Comisiwn Elusennau’n cefnogi ac yn rheoleiddio elusennau

Mae cefnogaeth, gwybodaeth a gwasanaethau’r Comisiwn yn helpu ymddiriedolwyr i lwyddo ac i redeg eu helusennau’n unol â’r gyfraith. Dyma ran bwysig o sut rydym yn rheoleiddio elusennau. Lle byddwn yn nodi bod elusen mewn risg, rydym yn gallu ymchwilio ac, os bydd angen, defnyddio ein pwerau i’w diogelu rhag niwed. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am sut rydym yn cefnogi ac yn rheoleiddio elusennau.

Rydym wedi ymrwymo i roi’r gwasanaeth gorau y gallwn i chi. Ond mae’n bosibl y bydd adeg pan fydd angen i chi gwyno am wasanaeth rydym wedi’i ddarparu. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth sut i gwyno am wasanaeth.

Cyhoeddwyd ar 2 November 2020