Pecyn croeso ymddiriedolwyr elusen
Fel ymddiriedolwr elusen newydd, bydd y canllaw hwn yn eich helpu yn eich rôl. Gall ymddiriedolwyr presennol ei ddefnyddio hefyd i adnewyddu gwybodaeth a sgiliau.
Applies to England and Wales
Dogfennau
Manylion
Bob blwyddyn mae tua 100,000 o ymddiriedolwyr newydd, wedi’u penodi naill ai fel ymddiriedolwyr elusennau sydd newydd gofrestru neu elusennau sefydledig cyfredol.
Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol sydd ganddynt ac yn croesawu pobl sy’n ymgymryd â swydd fel ymddiriedolwr.
Anfonir y canllaw hwn trwy e-bost at ymddiriedolwyr newydd i’w cyflwyno i’r rôl fel bod ganddynt ddealltwriaeth sylfaenol o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau. Mae’n:
- amlinellu hanfodion ymddiriedolaeth
- crynhoi’r hyn y gallant ei ddisgwyl
- codi ymwybyddiaeth o’u dyletswyddau a’u cyfrifoldebau
- egluro’r hyn y mae angen ei anfon atom
- cyfeirio at ganllawiau a gwybodaeth fanylach
Efallai y bydd y canllaw hefyd yn ddefnyddiol os:
- ydych yn ymddiriedolwr newydd sydd heb dderbyn y canllaw trwy e-bost
- ydych yn ymddiriedolwr cyfredol sy’n dymuno adnewyddu ei wybodaeth
- ydych yn meddwl penodi neu gyflwyno ymddiriedolwr newydd
- oes diddordeb gennych mewn bod yn ymddiriedolwr
Rydym yn anfon y pecyn croesawu at bob ymddiriedolwr newydd i’r cyfeiriad e-bost maent wedi’i roi i ni. Gallwch ddiweddaru manylion eich elusen ar-lein, gan gynnwys cyfeiriadau e-bost.
Dywedodd Helen Stephenson, Prif Weithredwr y Comisiwn Elusennau:
“Fel ymddiriedolwr byddwch yn gallu defnyddio’ch sgiliau a’ch profiad a chael dylanwad uniongyrchol ar achos sy’n bwysig i chi. Mae’n rôl sy’n cynnig boddhad mawr, ond mae cyfrifoldebau sy’n golygu y bydd angen i chi roi digon o amser o’r neilltu i helpu’ch elusen i lwyddo. Dylech ddefnyddio’ch chwe mis cyntaf i wir ddeall eich rôl a’ch cyfrifoldebau. Rydym wedi paratoi’r canllaw byr hwn i’ch helpu i wneud hynny. Mae’n dweud wrthych am yr hyn i’w ddisgwyl yn eich blwyddyn gyntaf a lle gallwch gael cyngor mewn mwy o fanylder.
Mae gan elusennau le arbennig yn ein cymdeithas oherwydd eu bod wedi ymrwymo i helpu eraill. Mae hyn yn creu lefel o ymddiriedaeth gan y cyhoedd y mae’n rhaid i ni ei ddiogelu. Bydd angen i chi helpu i redeg elusen effeithiol sy’n dangos sut mae’n gweithredu er budd eraill, tra byddwn yn darparu canllaw a gwasanaethau i’ch cefnogi i wneud hynny.”
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 May 2018 + show all updates
-
We have added a PDF version of the welcome pack for download.
-
Added translation