Canllawiau

Defnyddio meddalwedd i ffeilio gwybodaeth eich cwmni

Sut i anfon gwybodaeth at Dŷ'r Cwmnïau gan ddefnyddio meddalwedd masnachol.

O 1 Ebrill 2027, rhaid i bob cwmni ffeilio eu cyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd masnachol.

Gwybodaeth am ffeilio gan ddefnyddio meddalwedd

Mae pecynnau ffeilio meddalwedd yn caniatáu ichi anfon gwybodaeth at Dŷ’r Cwmnïau trwy ein porth iaith arwyddnodi estynadwy (XML). 

Mae rhai o fanteision defnyddio meddalwedd i ffeilio yn cynnwys:

  • dim costau postio
  • mae’n rhatach ffeilio dogfennau sydd â ffi
  • cyflwyno cyflymach, mwy diogel gyda chydnabyddiaeth o dderbyniad ar unwaith
  • cadarnhad awtomatig pan fydd eich ffeilio yn cael ei dderbyn neu ei wrthod
  • llai o siawns o wallau a ffeilio yn cael eu gwrthod
  • llai o risg o gosbau ffeilio’n hwyr

Pan fyddwch chi’n  ffeilio cyfrifon cwmni gyda meddalwedd masnachol, rydym yn eu derbyn a’u prosesu mewn iXBRL. Mae hon yn safon dechnegol fyd-eang sy’n cyfuno HTML â ‘thagiau’ darllenadwy gan beiriant. Mae’n caniatáu i ddogfennau gael eu darllen gan beiriannau a phobl.

Ffeilio gwybodaeth am gwmni gan ddefnyddio meddalwedd

Beth fydd ei angen arnoch

I ffeilio dogfennau’r cwmni gan ddefnyddio meddalwedd, byddwch  angen:

Os oes angen i chi ffeilio dogfennau arwystl (morgais) ar gyfer cwmnïau eraill, rhaid i chi gofrestru fel benthyciwr.

Y wybodaeth y gallwch eu ffeilio

Gallwch ffeilio’r rhan fwyaf o wybodaeth statudol gyda Thŷ’r Cwmnïau gan ddefnyddio meddalwedd. Er enghraifft, gallwch:

  • ffeilio eich cyfrifon blynyddol
  • cofrestru (corffori) cwmni
  • newid enw eich cwmni
  • penodi, dileu neu wneud newidiadau i gyfarwyddwyr ac ysgrifenyddion eich cwmni
  • newid cyfeiriad swyddfa gofrestredig eich cwmni
  • ffeilio eich datganiadau cadarnhau
  • diweddaru cyfalaf cyfrannau eich cwmni
  • cofrestru gwybodaeth am arwystl (morgais)
  • gwneud newidiadau i bobl eich cwmni gyda rheolaeth arwyddocaol(PRhA)
  • newid diwedd blwyddyn eich cwmni (dyddiad cyfeirnod cyfrifeg)
  • newid lle mae cofrestrau eich cwmni yn cael eu cadw

Gallwch hefyd ffeilio gwybodaeth debyg ar gyfer partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC), megis diweddaru eich aelodau PAC.

Ffeilio cyfrifon blynyddol gan ddefnyddio meddalwedd

O 1 Ebrill 2027, rhaid i bob cwmni ffeilio eu cyfrifon gan ddefnyddio meddalwedd masnachol. Mae hyn yn berthnasol i gyfarwyddwyr sy’n ffeilio cyfrifon eu hunain, a chwmnïau sy’n defnyddio gweithiwr proffesiynol (fel cyfrifydd) i ffeilio eu cyfrifon.

O 1 Ebrill 2027, bydd ein gwasanaethau ar y we a phapur ar gau ar gyfer ffeilio cyfrifon. Byddwch yn dal i allu defnyddio ein gwasanaethau gwe i ffeilio gwybodaeth statudol arall ar gyfer eich cwmni.

Darllenwch fwy am newidiadau eraill i gyfrifon sy’n cael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2027.

Llogi gweithiwr proffesiynol i ffeilio ar eich rhan

Os nad ydych am brynu meddalwedd masnachol, gallwch logi gweithiwr proffesiynol (fel cyfrifydd) i ffeilio ar eich rhan. Gall gweithiwr proffesiynol eich helpu i ffeilio a chadw cydymffurfiaeth - ond rydych chi’n dal i fod yn gyfreithiol gyfrifol am gyfrifon, cofnodion a pherfformiad eich cwmni.

Os ydych eisoes yn defnyddio gweithiwr proffesiynol, gwiriwch eu bod yn barod ar gyfer y newidiadau sydd i ddod i gyfrifon.

Ffeilio eich cyfrifon eich hun

Bydd angen i chi:

  • gwybod pa fath o gyfrifon rydych chi’n eu ffeilio - gallwch ofyn i weithiwr proffesiynol am gyngor
  • dod o hyd i feddalwedd addas ar gyfer y math o gyfrifon y mae angen i chi eu ffeilio
  • cysylltu â’ch darparwyr meddalwedd dewisol ac ystyriwch newid i ffeilio meddalwedd cyn gynted â phosibl
  • gwneud yn siŵr bod eich meddalwedd ddewisol yn ei le cyn 1 Ebrill 2027

Os ydych chi’n defnyddio meddalwedd ar gyfer proses fusnes arall, fel cyflogres, efallai y byddwch yn gallu ychwanegu opsiwn i ffeilio’ch cyfrifon gyda Thŷ’r Cwmnïau. Bydd rhai meddalwedd masnachol hefyd yn caniatáu ichi ffeilio gyda CThEF ar yr un pryd. Cysylltwch â’ch darparwr meddalwedd am ragor o wybodaeth.

Efallai y bydd gennych ddyddiadau cau gwahanol  ar gyfer anfon eich cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau a’ch Ffurflen Dreth y Cwmni i CThEF.

Os oes gennych unrhyw bryderon am ddiogelu data wrth ddefnyddio meddalwedd masnachol, gwiriwch bolisïau preifatrwydd eich darparwr a chysylltwch â nhw’n uniongyrchol i gael rhagor o wybodaeth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Tachwedd 2019
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 Ionawr 2026 show all updates
  1. Changes to accounts filing will not be introduced in April 2027. The reforms are still under review and a final decision will be announced shortly. Companies will receive at least 21 months’ notice to prepare.

  2. Guidance updated with information on how to prepare for changes to accounts software filing. Guidance on developing software removed to be published as a separate guide.

  3. Added 2025 taxonomies and entry points.

  4. Accounts taxonomies – added 2024 taxonomy entry points

  5. Removed 2019 taxonomy entry points - taxonomy retired.

  6. A new validator link for previewing your submission has been added.

  7. You can file accounts using the 2023 FRC suite of taxonomies from 5 April 2023.

  8. Users can now file iXBRL accounts using the FRC 2022 suite of taxonomies.

  9. The FRC published the 2022 suite of taxonomies on 8 October 2021. We are currently working to update our systems and you’ll be able to file accounts using these taxonomies from April 2022.

  10. New 2021 taxonomies added, and older 2014 taxonomies deleted.

  11. From 13 October 2020, the note 'Average number of employees during the period' will become a compulsory field and will be validated.

  12. Added translation

Argraffu'r dudalen hon