Canllawiau

Gwaddol parhaol: rheolau i elusennau

Pryd gallwch chi wario, gwerthu neu drosglwyddo 'gwaddol parhaol' - arian neu eiddo a roddir i'ch elusen gydag amodau ar sut y gellid ei ddefnyddio.

Applies to England and Wales

Ynghylch gwaddol parhaol

Yn syml, mae gwaddol parhaol yn eiddo y mae’n rhaid i’ch elusen ei gadw yn hytrach na’i wario.

Mae dau brif fath o waddol parhaol:

  • arian neu asedau eraill a roddwyd i’ch elusen i’w buddsoddi. Gellir gwario incwm y buddsoddiad yn unig
  • eiddo a roddwyd i’ch elusen sy’n gorfod cael ei ddefnyddio at ddiben penodol yn unig Er engraifft, tir neu adeiladau a roddwyd i’w defnyddio fel ysgol neu faes hamdden

Sut mae’n rhaid i chi wario incwm buddsoddiad - neu sut mae’n rhaid i chi ddefnyddio eiddo gwaddol parhaol - yw ‘dibenion’ gwaddol parhaol.

Dysgwch os oes gan eich elusen waddol parhaol

Edrychwch ar:

  • ddogfennau sy’n dweud wrthych sut mae eiddo neu asedau eraill yn gorfod cael eu cadw a’u defnyddio
  • ddogfennau a gafodd eu defnyddio i roi eiddo neu asedau eraill i’ch elusen
  • ddogfen lywodraethol eich elusen

Mae’n gallu bod yn anodd i ddweud os yw eiddo neu asedau eraill yn waddol parhaol. Cymerwch gyngor bob amser os ydych yn ansicr.

Gwario, benthyg o, neu drosglwyddo gwaddol parhaol

Gall gweithredu fel hyn eich helpu os yw eich elusen angen

  • arian i weithio mewn ffordd fwy effeithiol
  • arian ar gyfer adeilad gwell neu atgyweiriadau i adeiladau
  • trosglwyddo eich gwaddol parhaol i elusen arall sydd mewn lle gwell i’w reoli

Gallwch weithredu fel hyn mewn amgylchiadau penodol, ac ar gyfer pob cronfa waddol ar wahân sydd gennych.

Ond mae’n rhaid i chi ddilyn y rheolau cywir, a gweithredu bob amser er budd pennaf eich elusen.

Weithiau mae’n rhaid i chi ofyn am awdurdod y Comisiwn Elusennau.

Yn aml nid yw gwaddol parhaol yn cael ei gadw fel arian. Mae hyn yn golygu os ydych chi’n penderfynu gwario neu fenthyg ohono, gall fod angen i chi ei drosi i arian trwy ei werthu.

Nid yw’r rheolau yn y cyfarwyddyd hwn yn gymwys i dir dynodedig. Tir dynodedig yw tir sy’n gorfod cael ei ddefnyddio at ddiben penodol yn unig. Er engraifft, tir neu adeiladau a roddwyd i’w defnyddio fel ysgol neu faes hamdden

Os yw eich elusen yn gorfforedig

Os yw eich elusen yn gorfforedig, disgwylir ei fod yn dal gwaddol parhaol ar ymddiriedaeth. Os ydych yn ansicr sut mae eich elusen yn dal gwaddol parhaol, cymerwch gyngor cyfreithiol.

Mae eich elusen, fel ymddiriedolwr gwaddol parhaol, yn gallu defnyddio’r rheolau a’r opsiynau yn y cyfarwyddyd hwn.

Elusennau corfforedig yw:

  • cwmnïau
  • Sefydliadau Elusennol Corfforedig (CIO)
  • y rheini a sefydlir trwy Siarter Brenhinol neu Batent Llythyrau
  • y rheini a ymgorfforir trwy statud

Gwario gwaddol parhaol

Mae’r adran hon yn amlinellu sut y gallwch wario gwaddol parhaol a’r rheolau sy’n gymwys.

Mae’r mater os oes angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch yn dibynnu ar werth marchnad y gronfa waddol barhaol rydych chi’n gwario ohoni - nid y swm rydych chi’n cynllunio i’w wario.

Rheolau ar gyfer gwario o gronfa gwerth llai

Gallwch wario rhywfaint neu’r cwbl o gronfa waddol barhaol heb awdurdod y Comisiwn os yw pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • mae gwerth marchnad y gronfa yn £25,000 neu lai
  • rydych yn fodlon eich bod yn gallu cyflawni dibenion y gronfa trwy wario’r gronfa ei hun yn hytrach na dim ond gwario’r incwm
  • nid yw’r gwaddol parhaol yn dir dynodedig

Mae’n rhaid i chi:

  • wneud penderfyniad ffurfiol (penderfyniad)
  • dilyn y rheolau yn eich dogfen lywodraethol i basio’r penderfyniad

Cadwch gofnod ysgrifenedig a’ch rhesymau dros benderfynu gwario.

Rheolau ar gyfer gwario o gronfa gwerth uwch

Gallwch wario rhywfaint neu’r cwbl o gronfa wadoll barhaol lle:

  • mae gwerth marchnad y gronfa yn fwy na £25,000
  • nid yw’r gwaddol parhaol yn dir dynodedig

Mae’n rhaid i chi:

  • gymerdawyo penderfyniad eich bod yn fodlon eich bod yn gallu cyflawni dibenion y gronfa trwy wario’r gronfa ei hun yn hytrach na dim ond gwario’r incwm
  • gael awdurdod y Comisiwn cyn i chi wario

Mae’n rhaid i chi anfon copi atom o’ch penderfyniad sy’n gorfod cael ei gymeradwyo’n ddilys, a datganiad o resymau.

Yn eich datganiad rhesymau dywedwch wrthym:

  • os datganodd unrhyw bobl neu sefydliadau a roddodd y gronfa waddol barhaol i’ch elusen am unrhyw ddymuniadau am sut y dylech ei ddefnyddio. Cynhwyswch unrhyw dystiolaeth o hyn
  • sefyllfa ariannol y gronfa
  • anghenion presennol y bobl sy’n gallu elwa o’r gronfa waddol barhaol, a sut mae amgylchiadau wedi newid ers i’r gronfa gael ei sefydlu
  • pam y gallwch gyflawni dibenion y gronfa’n fwy effeithiol trwy ei wario yn hytrach na’i chadw (os nad yw hyn yn cael ei gwmpasu yn y cynnig)
  • gwerth marchnad presennol y gronfa. Edrychwch ar y cyngor prisio yn ddiweddarach yn y cyfarwyddyd hwn

Bydd y Comisiwn yn ymateb o fewn 60 diwrnod i ddarparu awdurdod neu i ofyn i chi:

  • am ragor o wybodaeth, megis manylion neu’r rhesymau dros eich penderfyniad
  • gymryd camau penodol, megis rhoi hysbysiad cyhoeddus i’ch cynlluniau

Ymgeisiwch am awdurdod i wario o gronfa gwerth uwch.

Tir dynodedig

Gall fod gan eich elusen dir dynodedig sy’n waddol parhaol.

Gall fod angen awdurdod y Comisiwn i’w werthu, ei brydlesu neu fel arall gwaredu â thir dynodedig, beth bynnag yw ei werth. Darllenwch ein cyfarwyddyd i ddeall os oes angen ein awdurdod arnoch a sut i ymgeisio amdano.

Benthyg o waddol parhaol

Mae’r adran hon yn amlinellu sut y gallwch fenthyg o gronfa waddol barhaol a’r rheolau sy’n gynnwys.

Mae benthyg o’ch gwaddol parhaol yn gallu helpu i gydbwyso anghenion tymor byr a hir eich elusen trwy eich caniatáu i:

  • godi arian sydd ei angen ar eich elusen nawr
  • gadw’r buddion o gael ased barhaol

Rheolau ar gyfer benthyg symiau llai

Gallwch fenthyg o gronfa waddol barhaol heb awdurdod y Comisiwn os yw pob un o’r canlynol yn gymwys:

  • gallwch fenthyg hyd at 25% o werth marchnad y gronfa. Edrychwch ar y cyngor yn ddiweddarch yn y cyfarwyddyd hwn am gymorth â phrisio
  • nid yw’r gwaddol parhaol yn dir dynodedig
  • nid yw eich dogfen lywodraethol yn dweud unrhyw beth sy’n eich atal rhag defnyddio’r pŵer i fenthyg

Mae’n rhaid i chi:

  • fod yn fodlon fod y benthyg yn fuddiol. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddo ddod â mantais glir, yn hytrach na bod yn gyfleus yn unig. Ystyriwch bwrpasau’r gwaddol parhaol ac (os yn berthnasol) dibenion eich elusen, ac aseswch anghenion tymor hir yn ogystal â rhai tymor byr
  • ad-dalu’r swm a fenthycir o fewn 20 mlynedd
  • osod gynllun i ad-dalu’r swm a fenthycir yn brydlon
  • ddangos y benthyg yng nghyfrifon eich elusen
  • gysylltu â’r Comisiwn os na fyddwch yn gallu gwneud yr ad-daliadau. Byddwn yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf

Cymerwch unrhyw gyngor arbenigol sydd ei angen arnoch cyn i chi fenthyg, i sicrhau bod eich cynllun ad-dalu yn realistig.

Cyn i chi fenthyg, mae’n rhaid i chi:

Cadwch gofnod ysgrifenedig a’ch rhesymau dros fenthyg.

Gallwch benderfynu ad-dalu swm ychwanegol na’r hyn y gwnaethoch ei amlinellu yn eich cynllun ad-dalu. Gall hyn fod i adlewyrchu’r cynnydd yng ngwerth y gwaddol parhaol yn unig os nad oeddech wedi benthyg ohono. Nid oes rhaid i chi wneud hyn.

Darllenwch yr Adran enghreifftiau am wybodaeth ynghylch sut i gyfrifo’r cynnydd mewn gwerth.

Rheolau ar gyfer benthyg symiau mwy

Mae’n rhaid i chi ofyn am awdurdod y Comisiwn i fenthyg mwy na 25% o werth cronfa waddol barhaol.

E-bost: peborrowingapplication@charitycommission.gov.uk

Dywedwch wrthym:

  • gwerth marchnadol y gronfa waddol barhaol
  • faint rydych chi am ei fenthyg
  • eich rhesymau dros fenthyca, a thros fenthyca mwy na 25% o werth y gwaddol parhaol
  • dibenion y gwaddol parhaol
  • opsiynau benthyca neu godi arian eraill yr ydych wedi’u harchwilio a’ch rhesymau dros beidio â’u dewis
  • sut yr ydych wedi cydbwyso anghenion hirdymor yn ogystal ag anghenion tymor byr wrth wneud eich penderfyniad
  • eich cynllun ad-dalu, a sut rydych yn fodlon y gallwch dalu’r ad-daliadau yn y cynllun
  • os ydych wedi cael unrhyw gyngor proffesiynol perthnasol cyn gwneud eich penderfyniad i fenthyca a sefydlu’r cynllun ad-dalu
  • pa wybodaeth neu ffactorau eraill y gwnaethoch eu hystyried pan wnaethoch eich penderfyniadau

I gael rhagor o wybodaeth am sut rydym yn prosesu eich data personol, darllenwch hysbysiad preifatrwydd y Comisiwn.

Mesur gwerth gwaddol parhaol cyn gwario neu fenthyg

Bydd cael eich prisiad yn gywir yn eich helpu i wybod os oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch i wario neu fenthyg. Dylech chi:

  • ddefnyddio gwerth marchnad y gronfa waddol barhaol, wedi’i gofnodi yng nghyfrifon eich elusen am y flwyddyn ariannol ddiwethaf
  • gael prisiad marchnad diweddar os nad oes prisiad wedi’i gofnodi yn eich cyfrifon diweddaraf

Cynhwyswch fenthyg sy’n sefyll yn eich prisiad

Mae’n rhaid i’ch prisiad gynnwys unrhyw fenthyg sy’n sefyll Mae hyn yn golygu symiau mae eich elusen wedi benthyg eisoes o gronfa waddol barhaol ac heb ei had-dalu eto.

Gallwch ddefnyddio’r enghreifftiau hyn i’ch helpu i gynnwys benthyg sy’n sefyll fel nad ydych yn gwario nac yn benthyg mwy nac a ganiateir heb awdurdod.

Cymerwch gyngor os oes angen i chi wneud hynny.

Newid eich dogfen lywodraethol i newid sut rydych yn defnyddio gwaddol parhaol

Mae angen awdurdod y Comisiwn cyn y gallwch newid rheolau eich elusen sy’n dweud sut y gallwch ddefnyddio gwaddol parhaol (ei ddibenion).

Gall y rheolau hyn fod yn:

  • dogfen lywodraethol eich elusen
  • dogfennau a ddefnyddiwyd i roi eiddo neu asedau i’ch elusen

Cymerwch gyngor os oes angen. Dysgwch am newid dogfen lywodraethol eich elusen.

Trosglwyddo gwaddol parhaol

Gallwch drosglwyddo gwaddol parhaol i elusen neu elusennau eraill os yw’ch dogfen lywodraethol yn ei ganiatáu ac rydych yn fodlon y:

  • bydd y trosglwyddiad yn sicrhau y bydd y gwaddol yn ateb ei ddibenion gwreiddiol
  • gall a bydd derbyn elusen yn parhau i gadw’r eiddo fel gwaddol parhaol ar ôl y trosglwyddiad

Darllenwch ganllawiau am drosglwyddo asedau elusen, sy’n cynnwys adran am drosglwyddo gwaddol parhaol.

Buddsoddi gwaddol parhaol

Dysgwch am reolau ar gyfer buddsoddi gwaddol parhaol.

Dysgwch am reolau ar gyfer buddsoddi ar sail cyfanswm elw.

Nodyn cyfreithiol

Daw’r rheolau hyn o Ddeddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd).

Prif adrannau perthnasol y Ddeddf yw 281-284D and section 353.

Enghreifftiau o gyfrifiadau perthnasol

Mae’r adran hon yn cwmpasu’r canlynol:

  • cyflwyniad
  • mesur gwerth eich gwaddol parhaol
  • deall pan fydd angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch
  • cyfrifo’r effaith o fenthyg sy’n sefyll ar wario
  • cyfrifo effaith y benthyg sy’n sefyll ar wario
  • fformiwlâu wedi’u hamlinellu yn y ddeddf

Cyflwyniad

Mae’r adran ‘enghreifftiau’ hon yn ategu’r cyfarwyddyd uchod, y dylech ei ddarllen yn gyntaf.

Yn yr adran hon, rydym wedi defnyddio enghreifftiau syml sy’n gallu’ch helpu i ddeall y prif gyfarwyddyd uchod. Yn benodol, pan fydd angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch a phan na fydd.

Mae Deddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd) yn amlinellu dwy fformiwla sy’n gymwys. Mae’r rhain yn cael eu rhoi ar ddiwedd yr adran hon.

Mesur gwerth eich gwaddol parhaol

Mae’n bwysig i wneud prisiad cywir. Bydd cael eich prisiad yn gywir yn eich helpu i wybod os oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch i wario neu fenthyg o waddol parhaol.

Cymerwch gyngor bob amser os ydych yn ansicr.

Dechreuwch â gwerth marchnad y gronfa waddol barhaol a gofnodir yng nghyfrifon eich elusen am y flwyddyn ariannol ddiwethaf - Os nad oes prisiad wedi’i gofnodi yn eich cyfrifon diweddaraf, ceisiwch brisiad newydd.

Deall pan fydd angen awdurdod y Comisiwn Elusennau arnoch

Enghraifft 1

  • mae gan eich elusen gyfranddaliadau gwerth £100,000 mewn cronfa waddol barhaol
  • nid ydych wedi benthyg o’r gronfa hon o’r blaen

Os oes eisiau gwario £20,000 arnoch o’r gronfa hon:

  • mae’n rhaid i chi wneud cais am awdurdod y Comiswin oherwydd bod gwerth marchnad y gronfa yn fwy na £25,000

Os oes eisiau benthyg £20,000 arnoch o’r gronfa hon:

  • nid oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch gan fod y swm rydych am ei fenthyg yn llai na 25% o werth y gronfa

Cyfrifo’r effaith o fenthyg sy’n sefyll ar wario

Mae benthyg sy’n sefyll yn golygu lle rydych wedi benthyg o’r blaen o’r gronfa waddol barhaol a bod gennych ad-daliadau i’w gwneud o hyd.

Mae enghreifftiau 2 a 3 yn dangos sut mae benthyg sy’n sefyll yn effeithio ar brisiad cyn i chi allu gwario o’r gronfa.

Cofiwch hefyd fod awdurdod y Comisiwn i wario yn dibynnu ar werth marchnad y gronfa dan sylw, ac nid y swm rydych yn gwneud caIs i’w wario.

Enghraifft 2: gan gynnwys benthyg sy’n sefyll yn eich cyfrifiad cyn gwario o gronfa gwerth bach

  • mae’ch elusen wedi benthyg £3,000 o gronfa waddol barhaol gwerth £15,000
  • mae gan y gronfa waddol barhaol asedau sy’n weddill wedi’u prisio ar £12,000, a dyled i’r gronfa o £3,000
  • y gwerth at ddibenion gwario yw £15,000 (£12,000 + £3,000)
  • gan fod gwerth y gronfa o dan £25,000 nid oes angen awdurdod y Comisiwn ar gyfer gwario

Enghraifft 3: gan gynnwys benthyg sy’n sefyll yn eich cyfrifiad cyn gwario o gronfa gwerth uwch

  • mae’ch elusen wedi benthyg £6,000 o gronfa waddol barhaol gwerth £30,000
  • mae gan y gronfa waddol barhaol asedau sy’n weddill wedi’u prisio ar £24,000, a dyled i’r gronfa o £6,000
  • y gwerth at ddibenion gwario yw £30,000 (£24,000 + £6,000)
  • gan fod gwerth y gronfa dros £25,000 mae angen awdurdod y Comisiwn ar gyfer gwario

Cyfrifo effaith y benthyg sy’n sefyll ar wario newydd

Mae benthyg sy’n sefyll yn golygu lle rydych wedi benthyg o’r blaen o’r gronfa waddol barhaol a bod gennych ad-daliadau i’w gwneud o hyd.

Wrth fenthyg, cofiwch fod angen i chi ddeall os byddwch yn benthyg mwy neu lai na 25% o werth y gronfa. Mae benthyg mwy na 25% yn gofyn am awdurdod y Comisiwn.

Enghraifft 4:

  • ar 1 Ionawr benthycodd eich elusen £10,000 o gronfa waddol barhaol gwerth £100,000
  • nid ydych wedi gwneud eich ad-daliad cyntaf, felly mae’r £10,000 cyfan yn ddyledus oddi wrthych o hyd
  • yr Ionawr canlynol mae eisiau cyfrifo arnoch faint yn rhagor y gallech fenthyg o’r gronfa
  • gan ragdybio bod gwerth y gronfa wedi aros yr un peth ers y benthyciad cychwynnol, y swm y gallwch ei fenthyg heb ganiatâd yw £15,000.
  • mae hyn oherwydd 25% o £100,000 = £25,000. Gyda £10,000 wedi’i fenthyg eisoes, mae £15,000 ar gael i’w fenthyg o hyd

Fformiwlâu wedi’u hamlinellu yn y Ddeddf

Mae’r fformiwlâu canlynol yn adrannau 284B and 284C o’r Ddeddf Elusennau 2011(fel y diwygiwyd):

1.Cyfrifo effaith y benthyg sy’n sefyll wrth geisio benthyg rhagor

I gyfrifo’r ‘swm a ganiateir’ gallwch fenthyg o bob cronfa waddol barhaol ar wahan heb awdurdod y Comisiwn:

(V + B) - B lle:

  • V yw gwerth y gronfa ar y dyddiad y mae’r ymddiriedolwyr yn penderfynu benthyg o’r gwaddol parhaol arno, a
  • B yw swm y benthyg sy’n sefyll i ymddiriedolwyr yr elusen o’r gronfa ar yr un dyddiad

Ffordd arall i ddeall y fformiwla yw hyn:

  • V plws B yn hafal i x
  • 0.25 wedi’i luosi gan x yn hafal i Y
  • Y tynnu i ffwrdd B yn hafal i’r swm a ganiateir

Mae’r fformiwla hon yn cael ei ddefnyddio yn enghraifft 4 uchod.

Sylwch i elusennau sydd wedi penderfynu mabwysiadu ymagwedd elw cyfan at fuddsoddi o dan adran 104A(2) mewn perthynas â’r gronfa (neu unrhyw ran o’r gronfa), nid yw V yn cynnwys unrhyw elwau o fuddsoddi’r gronfa (neu ran o’r gronfa) sydd heb gael eu cronni.

Gweler adran 284B o’r Ddeddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd).

2.Cyfrifo faint yn ychwanegol y gallwch ad-dalu, dros y swm yn eich cynllun ad-dalu

Wrth wneud ad-daliadau, gall ymddiriedolwyr ddewis talu swm ychwanegol i adlewyrchu’r cynnydd yng ngwerth y gronfa waddol barhaol os nad ydych wedi benthyg ohoni. Nid yw hyn gallu mynd dros ‘yr uchafswm amcangyfrif codiad cyfalaf’.

Mae’r Ddeddf yn cynnwys fformiwla ar gyfer cyfrifo’r uchafswm hwn.

Bydd angen i chi wybod:

  • y mis y gwnaethoch fenthyg o’r gronfa waddol barhaol ynddo (dyddiad 1) a
  • y mis yn union cyn y mis y mae’r ad-daliad yn ddyledus i’w wneud (dyddiad 2)

Y fformiwla yw ‘R x I’ lle:

  • ‘R’ yw’r swm a fenthycir, a
  • ‘I’ yw cynnydd y ganran yn y ‘mynegai perthnasol’’ rhwng dyddiad 1 a dyddiad 2, neu ddim os nad oes cynnydd

Mae’r Ddeddf yn datgan bod y ‘mynegai perthnasol’ yn golygu un o’r canlynol fel y dewisir gan yr ymddiriedolwyr:

  • y pris mynegai manwerthu
  • y mynegai pris ddefnyddwyr, neu
  • unrhyw fynegai cyffredinol tebyg o brisiau a gyhoeddir gan y Bwrdd Ystadegau

Gweler adran 284C o’r Ddeeddf Elusennau 2011 (fel y diwygiwyd).

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 March 2024 + show all updates
  1. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  2. Guidance updated to reflect changes introduced by the Charities Act 2022.

  3. Clarifications including rules for companies and charitable incorporated organisations (CIOs)

  4. First published.