Carchar Lincoln
Mae Lincoln yn garchar a sefydliad troseddwyr ifanc (STI) yn Nwyrain Canolbarth Lloegr ar gyfer dynion 18 oed a throsodd.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Charchar Lincoln
I ymweld â rhywun yng Ngharchar Lincoln, rhaid i chi:
- bod ar restr ymwelwyr cymeradwy’r carcharor
- bwcio eich ymweliad mwy na 3 diwrnod gwaith ymlaen llaw
- bod ag ymweliad wedi’i threfnu ar gyfer y diwrnod y byddwch yn mynychu a bod wedi eich rhestru fel ymwelydd ar yr ymweliad hwnnw
- bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd
Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.
Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall carcharor eu cael.
Help gyda chost eich ymweliad
Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:
- teithio i Lincoln
- rhywle i aros dros nos
- prydau bwyd
Sut i drefnu ymweliadau domestig a chymdeithasol
Ar gyfer ymwelwyr tro cyntaf neu bobl sydd ddim ar restr ymwelwyr cymeradwy’r carcharor, ffoniwch y llinell archebu i gael rhagor o wybodaeth.
Llinell archebu dros y ffôn: 01522 663 172
Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener: 9:30am i ganol dydd, ac eithrio Gwyliau Banc
Gwybodaeth am gostau galwadau
Mae ymwelwyr cymeradwy yn gallu archebu eu hymweliad ar-lein neu dros y ffôn.
Sylwch na fyddwn ni’n ymateb i unrhyw ymholiadau am ymweliadau domestig/cymdeithasol sy’n cael eu hanfon i gyfeiriad e-bost Archebu Ymweliadau Lincoln. Mae’r cyfeiriad e-bost hwn ar gyfer ymholiadau cyfreithiol yn unig.
Amseroedd ymweld:
- Dydd Mawrth 2pm i 4pm
- Dydd Iau 2pm i 4pm
- Dydd Sadwrn 9am i 11am a 2pm i 4pm
- Dydd Sul 9am i 11am a 2pm i 4pm
Sut i archebu ymweliadau swyddogol
I archebu ymweliad fideo swyddogol, gallwch anfon e-bost at Video_Link_Lincoln@justice.gov.uk.
Amseroedd ymweliad fideo swyddogol:
(Mae slotiau awr ar gael.)
- Dydd Llun, 9am i 4pm
- Dydd Mawrth, 2pm i 4pm
- Dydd Mercher, 9am i 4pm
- Dydd Iau, 2pm i 4pm
- Dydd Gwener, 9am i 4pm
- Dydd Sadwrn, 9am i 4pm
- Dydd Sul, 9am i 4pm
I archebu ymweliadau swyddogol wyneb yn wyneb:
- e-bostiwch LincolnVisitsBooking@justice.gov.uk
- ffoniwch y llinell archebu 01522 663 172
Mae’r llinell archebu ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am i hanner dydd, ac eithrio gwyliau banc.
Amseroedd ymweliad wyneb yn wyneb swyddogol:
- Dyddiau Mawrth, 9am i 11am
- Dyddiau Iau, 9am i 11am
Bydd angen awdurdodi offer electronig fel gliniaduron cyn ymweliad.
Rhaid i’r holl offer gael rhif cyfresol gweladwy wedi’i argraffu yn y ffatri er mwyn cael mynediad.
Gallwch ofyn am awdurdodiad gan y tîm archebu drwy e-bost, lle gallwch hefyd godi unrhyw ymholiadau gyda nhw.
Cyrraedd Carchar Lincoln
Mae’r carchar gyferbyn ag Ysbyty Sirol Lincoln. Canol Lincoln yw’r orsaf drenau agosaf. Mae’r carchar 20 munud ar droed o’r orsaf drenau a bysiau.
I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:
- defnyddiwch National Rail Enquiries
- defnyddiwch Traveline ar gyfer amseroedd bysiau lleol
Mae maes parcio Talu ac Arddangos i’r dde o’r carchar a hefyd yn y cefn. Mae parcio Bathodyn Glas yn y blaen a dylid gofyn amdano wrth drefnu ymweliad.
Mynd i mewn i Garchar Lincoln
Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.
Ar gyfer eich ymweliad cyntaf, cyrhaeddwch ar ôl 12:20pm a chadwch lygad am y ‘bobl borffor’ er mwyn i chi gael sesiwn gynefino cyn cofrestru (o 1:30pm ymlaen).
Bydd angen i bob ymwelydd gael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Efallai y cewch eich arogli gan gŵn diogelwch hefyd.
Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Garchar Lincoln. Byddwch chi’n cael allwedd locer pan fyddwch chi’n cofrestru. Cofiwch mai dim ond lle cyfyngedig sydd ar gael ar gyfer eiddo. Gellir gadael cadeiriau gwthio a seddi car gyda’r tîm diogelwch.
Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.
Cod Gwisg Ymwelwyr
Rhaid i ymwelwyr â Charchar Lincoln wisgo’n briodol bob amser, a fydd yn adlewyrchu ein nod o greu awyrgylch teuluol fel rhan o’r agenda Lleihau Aildroseddu a Gweddusrwydd. Mae’r cyfarwyddyd hwn yn berthnasol i bawb sy’n ymweld â’r sefydliad beth bynnag fo’u hoedran a’u rhywedd.
Yng Ngharchar Lincoln, ystyrir ei bod yn amhriodol gwisgo’r mathau canlynol o ddillad:
- Topiau byr/wedi’u torri sy’n datgelu cnawd noeth.
- Topiau neu grysau wedi’u torri’n isel sy’n dangos bronbant neu frest noeth.
- Festiau (fel un dilledyn)
- Sgertiau bach sy’n fyrrach na hyd y pen-glin ac sy’n dangos y cluniau.
- Trowsus byr sy’n fyrrach na hyd y pen-glin ac sy’n dangos y cluniau.
- Pob math o ddillad y gellir gweld trwyddynt.
- Penwisg (ac eithrio at ddibenion crefyddol).
- Dillad sy’n dramgwyddus o ran natur neu sy’n arddangos deunydd sarhaus, gwahaniaethol neu amhriodol.
- Dillad wedi’u rhwygo
- Clogynnau, sgarffiau neu eitemau eraill a allai atal staff rhag arsylwi ymwelwyr a charcharorion yn ddigonol.
Ni fydd unrhyw ymwelydd sydd ddim yn cydymffurfio â’r cod gwisg hwn yn cael mynd i mewn i Garchar Lincoln yn ôl disgresiwn y staff ymweliadau.
Bydd yr hysbysiad hwn yn cael ei arddangos yn y ganolfan ymwelwyr a bydd ar gael fel Atodiad i’r polisi ymweliadau.
Rhaid i ymwelwyr adael unrhyw eiddo yn eu cerbyd neu yn y Ganolfan Ymwelwyr ac eithrio’r eitemau a restrir isod:
- Cerdyn neu arian parod (darnau arian yn unig) ar gyfer prynu lluniaeth
- Meddyginiaeth (i’w gadw gan y staff ymweld at ddefnydd brys yn unig)
- Dymis babanod
- Potel babi gyda llaeth powdr sych (dŵr i gael ei gyflenwi gan y tîm lluniaeth) a jar o fwyd babi heb ei agor (nid gwydr).
- Allwedd Locer
- Yn achos Cynghorwyr Cyfreithiol neu ymwelwyr proffesiynol eraill, dogfennau a phapurau, sy’n cynnwys y dogfennau sydd eu hangen ar gyfer yr ymweliad.
Ni chaniateir mynd ag unrhyw offer recordio i’r ystafell ymweld heb ganiatâd penodol gan y Pennaeth Diogelwch.
Cyfleusterau ymweld
Mae gan Garchar Lincoln siop fach lle gallwch chi brynu bwyd a diod yn ystod ymweliadau penwythnos, neu gallwch chi archebu bwyd o ‘On a Roll’ cyn eich ymweliad a fydd yn cael ei ddanfon i’r carchar. Archebwch eich bwyd o’r wefan hon
Mae cyfleuster hefyd yn y Ganolfan Ymweliadau ar gyfer pryd eistedd i lawr ym mwyty hyfforddi ‘Berties’ yn ystod yr wythnos yn unig. Gall carcharorion uwch wneud cais am hyn. Dim ond gyda cherdyn y mae modd talu am y gwasanaeth hwn.
Mae gwasanaeth cownter hefyd ar gael i bob ymwelydd.
Mae man chwarae’r plant ar gael i’w ddefnyddio.
Diwrnodau teulu
Rydym ni’n cynnig ymweliadau teuluol unwaith y mis, ymweliadau estynedig yw’r rhain sydd yn aml â ffocws penodol ac mae carcharorion yn gwneud cais amdanynt yn fewnol.
I gael rhagor o wybodaeth am ymweliadau teuluol, ffoniwch y llinell archebu ymweliadau neu Ymddiriedolaeth Gweithredu Swydd Lincoln i gael rhagor o wybodaeth.
Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Lincoln
Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Lincoln.
Galwadau fideo diogel
I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:
- Lawrlwytho ap Fideo’r Carchar
- Creu cyfrif
- Cofrestru pob ymwelydd
- Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau
- Bod yn ymwelydd cymeradwy ar restr ymwelwyr y carcharor
Sut i drefnu galwad fideo ddiogel
Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.
Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.
Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio
Sylwch fod rhestr galwadau a rhestr ymwelwyr carcharorion yn wahanol. Bydd angen i chi gael eich ychwanegu at y ddau er mwyn derbyn galwadau ac ymweld â charcharor.
Galwadau ffôn
Nid oes gan garcharorion ffonau yn eu celloedd eto, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn.
Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.
Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.
Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.
E-bost
Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Lincoln drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.
Llythyrau
Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.
Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.
Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Charchar Lincoln.
Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.
Anfon arian a rhoddion
Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.
Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.
Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:
- os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
- os nad oes gennych chi gerdyn debyd
Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.
Rhoddion a pharseli
Mae carcharorion yn cael rhestr o eitemau y gallan nhw eu cael yn y carchar, a elwir yn ‘restr cyfleusterau’.
Ni all carcharorion sydd wedi’u dyfarnu’n euog gael unrhyw eitemau wedi’u postio na’u trosglwyddo a rhaid iddyn nhw gynnilo eu harian a’u prynu o’r catalog cymeradwy.
Gall dynion ar remánd sydd ddim wedi’u dyfarnu’n euog gael dillad wedi’u rhoi i mewn neu eu postio, ond dim ond nifer cyfyngedig. Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel.
Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion. I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Polisi Cymhellion Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF, Atodiad F.
Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion. Cysylltwch â Charchar Lincoln i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.
Bywyd yng Ngharchar Lincoln
Mae Carchar Lincoln wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau, gan gynnwys gweithdai, addysg a chyrsiau galwedigaethol.
Diogelwch a diogelu
Mae gan bob carcharor yng Ngharchar Lincoln hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.
I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Mae Cynllun Gwrandawyr, mentoriaid carchar a chynlluniau cymorth gan gymheiriaid i helpu llesiant. Mae cwnsela ar gael ar gyfer dibyniaeth.
Mae gweithdai elusennau ar gael ac mae llawer o gysylltiadau cymunedol, er enghraifft, gwirfoddolwyr sy’n helpu gydag ymweliadau teuluol.
Cyrraedd a’r noson gyntaf
Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Lincoln am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.
Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.
Cynefino
Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Lincoln yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a chymheiriaid (a elwir yn ‘Breswylwyr’) a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:
- iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
- unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
- datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
- mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd
Mae pob carcharor yn cael swyddog gweithiwr allweddol sy’n cwrdd â nhw bob wythnos i fonitro cynnydd a thrafod unrhyw broblemau. Mae carcharorion hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.
Llety
Mae tua 650 o garcharorion yn byw yng Ngharchar Lincoln ar draws 4 prif adain breswyl. Mae gan adenydd A, B ac C gymysgedd o garcharorion tra bo adain E yn dal unrhyw garcharorion sy’n cael eu hystyried yn agored i niwed.
Mae cawodydd, ffonau, tostwyr a gweithgareddau hamdden, fel pŵl a thenis bwrdd ar gael ym mhob adain.
Addysg a gwaith
Mae Lincoln yn cynnig ystod eang o addysg, gan gynnwys Saesneg a mathemateg, yn ogystal â chyrsiau galwedigaethol mewn peintio ac addurno a gosod brics.
Mae gweithdai teilwra, golchdy a chanolfan ailgylchu lle gall carcharorion ennill cymwysterau cydnabyddedig.
Rhyddhau dros dro
Nid oes rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL) yn Lincoln.
Sefydliadau y mae Carchar Lincoln yn gweithio gyda nhw
Mae Lincoln yn gweithio gyda’r Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), Shelter ac Ymddiriedolaeth Gweithredu Swydd Lincoln sy’n cynnig cefnogaeth ailsefydlu amrywiol. Mae cefnogaeth yn cael ei gynnig gyda chyflogaeth, llety, iechyd meddwl a chorfforol a gwasanaethau cymorth cyffuriau yn y gymuned.
Cefnogaeth yng Ngharchar Lincoln
Rhagor o wybodaeth a chefnogaeth gan Ymddiriedolaeth Gweithredu Swydd Lincoln i blant a theuluoedd person sydd yn y carchar.
Ffôn: 01522 663 355
Pryderon, problemau a chwynion
Mewn argyfwng
Ffoniwch 01522 663 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Trefniadol ac eglurwch fod eich pryder yn argyfwng.
| Categori cyswllt | Rhif ffôn | Gwybodaeth ychwanegol |
|---|---|---|
| Dim brys | 01522 663287 | Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar y wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion. |
| Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff | 0800 917 6877 (peiriant ateb 24 awr) |
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. |
| Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion | 0808 808 2003 | Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol. |
| Cyswllt Digroeso gan Garcharor | 0300 060 6699 | Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn. |
Problemau a chwynion
Os oes gennych chi unrhyw broblem gydag unrhyw agwedd ar y carchar, ysgrifennwch at lywodraethwr y carchar.
Cysylltu â Charchar Lincoln
Llywodraethwr: Colin Hussey
Ffôn: 01522 663 000
24 awr
Ffacs: 01522 663 001
Gwybodaeth am gost galwadau
Dilynwch Garchar Lincoln ar Twitter/X
Cyfeiriad
HMP/YOI Lincoln
Greetwell Road
Lincoln
LN2 4BD
Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.
Updates to this page
-
Updated booking email address for official video visits.
-
Updated visiting times and days for official face to face visits.
-
Official visits - Welsh update added.
-
Booking email and visit times updated for official video visits.
-
How to book official visits section updated.
-
Dress code and refreshment purchases updated.
-
Added Christmas period visiting times
-
Social and legal visits updated.
-
Updated Governor
-
Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes
-
Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.
-
Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.
-
Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.
-
Added link to information about testing for physical contact at visits.
-
New visiting times and booking information added.
-
Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.
-
visit info
-
Updated visit info
-
Updated visit info
-
Updated visit info
-
Updated visiting information in line with new national restrictions in England.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.
-
Updated dress code
-
Updates to entering and visits sections
-
updated survey
-
First published.