Canllawiau

Sut i brofi eich hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau yn Swyddfa’r Post

Sut i gwblhau eich gwiriad hunaniaeth mewn Swyddfa’r Post, ar ôl i chi nodi manylion eich dogfen adnabod â llun ar-lein.

1. Nodwch fanylion eich dogfen adnabod â llun a dewiswch Swyddfa’r Post

Nodwch y manylion o’ch dogfen adnabod â llun gan ddefnyddio gwasanaeth Cwblhau eich gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau a dewiswch pa Swyddfa’r Post yr hoffech ymweld â hi.

2. Lawrlwythwch eich llythyr cwsmer Swyddfa’r Post

Byddwch yn cael e-bost cadarnhau gyda dolen i lawrlwytho eich llythyr cwsmer i’ch dyfais. Gallwch hefyd ofyn am gopi wedi’i bostio, ond gall gymryd hyd at 6 diwrnod gwaith iddo gyrraedd.

3. Ewch i Swyddfa’r Post gyda’ch llythyr a dogfen adnabod â llun

Ewch â’ch llythyr cwsmer (ar eich dyfais neu wedi’i argraffu) a’ch dogfen adnabod â llun wreiddiol i Swyddfa’r Post sy’n cynnig y gwasanaeth hwn. Gallwch fynd i unrhyw Swyddfa’r Post sy’n cynnig cwblhau gwiriad hunaniaeth yn y gangen, hyd yn oed os nad dyma’r un a ddewisoch ar-lein.

Rhaid i chi:

  • fynd â’ch dogfen adnabod â llun wreiddiol – ni allwch ddefnyddio llungopi na delwedd ddigidol
  • fynd i Swyddfa’r Post erbyn y dyddiad a ddangosir yn eich llythyr cwsmer – fel arfer mae hyn tua 15 diwrnod o’r dyddiad y daeth eich e-bost cadarnhau i law

Os gofynnoch am gopi o’ch llythyr wedi’i bostio, bydd gennych lai o amser i fynd i Swyddfa’r Post cyn y dyddiad a ddangosir. Os byddwch yn methu’r dyddiad ar eich llythyr, bydd angen i chi ddechrau’r broses o brofi eich hunaniaeth eto.

4. Sganiwch eich cod QR 

Bydd aelod o staff Swyddfa’r Post yn sganio’r cod QR ar eich llythyr. Mae hyn yn cadarnhau eich bod yn cwblhau gwiriad hunaniaeth ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau. Mae’r gwasanaeth hwn am ddim.

5. Tynnwch eich llun a sganiwch eich dogfen adnabod 

Bydd aelod o staff Swyddfa’r Post yn tynnu eich llun ac yn sganio eich dogfen adnabod â llun.

6. Arhoswch am eich canlyniad

Byddwch yn cael e-bost gan GOV.UK One Login gyda chanlyniad eich gwiriad hunaniaeth, fel arfer o fewn 1 diwrnod o fynd i Swyddfa’r Post. Bydd yr e-bost yn cynnwys dolen i fewngofnodi i’ch GOV.UK One Login. Ar ôl i chi fewngofnodi, byddwch yn dychwelyd i wasanaeth Tŷ’r Cwmnïau i weld eich canlyniad.

Os oedd eich gwiriad hunaniaeth yn llwyddiannus, byddwch:

  • yn gweld neges sy’n dweud ‘Rydych eisoes wedi profi eich hunaniaeth’
  • angen dewis ‘Parhau’ i weld eich cod personol Tŷ’r Cwmnïau
  • yn gallu gweld eich cod personol yn adran ‘Rheoli cyfrif’ eich cyfrif Tŷ’r Cwmnïau

Os oedd eich gwiriad hunaniaeth yn aflwyddiannus, bydd yr e-bost yn rhoi gwybod beth i’w wneud nesaf.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Tachwedd 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Mawrth 2026 show all updates
  1. Welsh language version added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon