Sut i wneud cwyn diogelu data i Gofrestrfa Tir EF
Mae Cofrestrfa Tir EF yn parchu eich preifatrwydd ac yn cydymffurfio â chyfreithiau diogelu data. Os ydych yn anfodlon â sut rydym wedi trin eich data personol, dywedwch wrthym.
Sut i gwyno
Llenwch ein ffurflen gwyno diogelu data ar-lein neu os yw’n well gennych, gallwch ein ffonio neu ysgrifennu atom.
Trwy ffurflen gwyno ar-lein
Wrth lenwi’r ffurflen gwyno diogelu data ar-lein ceisiwch ddarparu cymaint o fanylion ag y gallwch i’n helpu i ymchwilio i’ch cwyn. Er enghraifft:
-
cyfeirnod Hawliau Gwybodaeth (os yw’n berthnasol)
-
rhif teitl
-
cyfeiriad neu ddisgrifiad eiddo
-
unrhyw gyfeirnod Cofrestrfa Tir EF
-
unrhyw ddogfennau neu dystiolaeth yn ymwneud â’ch cwyn
Dros y ffôn
Lle bynnag bo modd, bydd ein harbenigwyr cymorth i gwsmeriaid yn ceisio datrys eich pryderon dros y ffôn ond os bydd angen ymchwilio ymhellach i’r mater, caiff eich cwyn ei throsglwyddo i’r Tîm Hawliau Gwybodaeth.
Mae ein llinellau ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, o 8.00am i 4.30pm (ac eithrio gwyliau banc).
Gwasanaeth Cymraeg: 0300 006 0422
Gwasanaeth Saesneg: 0300 006 0411
Trwy’r post
Gallwch argraffu’n ffurflen gwyno diogelu data ar-lein:
Neu gallwch ysgrifennu atom am eich cwyn a’i hanfon atom trwy’r post i:
Information Rights Team
Trafalgar House
1 Bedford Park
Croydon
CR0 2AQ
United Kingdom
Trwy ebost
dataprotection@landregistry.gov.uk
Yr hyn fydd yn digwydd nesaf
Ein nod yw cydnabod eich cwyn diogelu data o fewn 5 niwrnod gwaith ac ymateb o fewn 20 niwrnod gwaith. Byddwn yn ysgrifennu atoch os na allwn gyflawni hyn. Byddwn yn cysylltu â chi hefyd os bydd angen tystiolaeth o’ch hunaniaeth arnom neu wybodaeth yn ymwneud â’ch cais.
Efallai bydd angen inni gysylltu â chydweithwyr ar draws y sefydliad i ymchwilio i’ch cwyn.
Os oes gennych anghenion cyfathrebu penodol, rhowch wybod inni a byddwn yn gwneud addasiadau rhesymol lle bo modd.
Rôl y Tîm Hawliau Gwybodaeth
Mae’r Tîm Hawliau Gwybodaeth yn cynorthwyo Cofrestrfa Tir EF i reoli gwybodaeth yn unol â’i chyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth. Mae hyn yn cynnwys:
- Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000
- Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004
- Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol y Deyrnas Unedig
- Deddf Diogelu Data 2018
Ni all y Tîm Hawliau Gwybodaeth ymateb i unrhyw ymholiadau cyffredinol, cwynion neu geisiadau’n ymwneud â cheisiadau eiddo.
Defnyddiwch ffurflen gysylltu Cofrestrfa Tir EF ar gyfer ymholiadau cyffredinol. Os ydych yn anhapus â’n gwasanaethau, dywedwch wrthym gan ddefnyddio’n ffurflen gwyno.
Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth
Os ydych yn anfodlon â’n hymateb i’ch cwyn, gallwch gwyno i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Awdurdod goruchwylio’r DU ar gyfer materion diogelu data yw Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth. Darllenwch ragor ar wefan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth.
Mae cyfeiriad a rhif ffôn Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth i’w gweld isod:
The Information Commissioner’s Office
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gallwch geisio gorfodi eich hawliau hefyd trwy gymryd camau cyfreithiol, megis rhwymedi barnwrol.
Sut byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Byddwn yn defnyddio’r manylion cyswllt a roddwch inni i ddiweddaru ac ymateb i’ch cwyn. Efallai byddwn yn ei defnyddio hefyd i ofyn am ragor o wybodaeth i’n helpu i ddatrys eich cwyn.
Caiff eich manylion cyswllt, eich cwyn a’r holl ohebiaeth sy’n gysylltiedig â’r gŵyn eu storio yn ein system cofnodion cwynion cwsmeriaid am hyd at 7 mlynedd.
Darllenwch ragor yn ein siarter gwybodaeth bersonol.
I gael gwybodaeth am sut y byddwn yn ymdrin â’ch cwyn, darllenwch ein gweithdrefn gwyno.