Canllawiau

Sut mae CThEM yn cyfrifo elw masnachu ac incwm anfasnachol ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth

Dysgwch sut mae’ch elw masnachol a’ch incwm anfasnachol yn cael eu defnyddio i gyfrifo’ch cymhwystra ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth ac i gyfrifo swm y grant.

This guidance was withdrawn on

Claims for the fifth SEISS grant have now closed. The last date for making a claim was 30 September 2021.

You can:

If you received a grant payment, you must report this on your tax return. Find out how to report SEISS grants.

Mae CThEM yn edrych ar eich elw masnachol a’ch incwm anfasnachol ar eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad i wirio a ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y pumed grant.

Rydym hefyd yn defnyddio’ch elw masnachu cyfartalog i gyfrifo faint o grant a gewch.

Elw masnachu

Dangosir hyn ar eich cyfrifiad treth fel elw o’r naill neu’r llall o’r canlynol:

Byddwn yn cyfrifo cyfanswm eich elw masnachu ar ôl didynnu unrhyw dreuliau caniataol, megis:

Os yw’ch incwm masnachu gros blynyddol o un neu fwy o fasnachau neu fusnesau yn fwy na £1,000, mae’n bosibl eich bod wedi defnyddio’r lwfansau rhydd o dreth, yn lle didynnu treuliau neu lwfansau eraill.

Byddwn yn cyfrifo’ch elw masnachu ar ôl didynnu unrhyw lwfansau rhydd o dreth.

Ni fyddwn yn didynnu oddi wrth eich elw masnachu:

  • unrhyw golledion a ddygwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol
  • eich lwfans personol

Elw o hunangyflogaeth

Byddwn yn cyfrifo’ch elw masnachu ar ôl treuliau busnes caniataol drwy adio unrhyw golledion a ddygwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol at y swm a ddangosir ar eich Ffurflen Dreth fel ‘Cyfanswm elw trethadwy y busnes hwn’.

Elw o bartneriaethau

Byddwn yn cyfrifo’ch cyfran o elw’r bartneriaeth ar ôl addasiadau drwy adio unrhyw golledion a ddygwyd ymlaen o flynyddoedd blaenorol at y swm a ddangosir fel ‘Eich cyfran chi o gyfanswm yr elw trethadwy o fusnes y bartneriaeth’.

Bydd unrhyw incwm anfasnachol, megis incwm buddsoddi, yn cael ei ddidynnu oddi wrth gyfanswm incwm y bartneriaeth cyn i ni gyfrifo’ch cyfran chi o’r elw.

Ffurflen Dreth bapur (fer)

Dangosir eich elw masnachu ar ôl treuliau busnes caniataol ar eich Ffurflen Dreth fel ‘elw’.

Elw masnachu os ydych wedi hawlio’r lwfans masnachu

Enghraifft

2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020
Incwm masnachu £21,000 £26,000 £16,000 £21,000
Lwfans masnachu wedi’i hawlio 0 £1,000 £1,000 £1,000
Elw masnachu £21,000 £25,000 £15,000 £20,000

Os oes gennych fwy nag un fasnach yn yr un flwyddyn dreth

Byddwn yn adio’r holl elw at ei gilydd ac yn didynnu unrhyw golledion ar gyfer yr holl fasnachau hyn er mwyn cyfrifo’ch elw masnachu.

Enghraifft

2019 to 2020
Elw masnach 1 £60,000
Colled masnach 2 £20,000
Elw masnachu £40,000

Incwm anfasnachol

Dyma’r swm a gofnodir fel ‘Cyfanswm yr incwm a gafwyd’ ar eich cyfrifiad treth papur neu ar-lein, llai eich incwm masnachu.

Nid yw’r ffigur hwn yn cynnwys colledion.

Byddwn yn cyfrifo’ch incwm anfasnachol drwy adio at ei gilydd eich holl:

  • incwm o enillion
  • incwm o eiddo
  • difidendau
  • incwm o gynilion
  • incwm o bensiwn
  • incwm o dramor
  • incwm amrywiol (gan gynnwys incwm trethadwy o nawdd cymdeithasol)

Sut rydym yn cyfrifo’ch cymhwystra ar gyfer elw masnachol ac incwm anfasnachol

Gall y ffordd yr ydym yn pennu’ch cymhwystra ddibynnu ar sawl blwyddyn yr ydych wedi bod yn masnachu.

Os oes gennych amgylchiadau gwahanol, gallai hynny effeithio ar eich cymhwystra.

I fod yn gymwys ar gyfer grant, mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir am eich elw masnachu:

  • rhaid iddo beidio â bod yn fwy na £50,000
  • rhaid iddo fod yn hafal i neu’n fwy na’ch incwm anfasnachol

Os gwnaethoch ddechrau masnachu yn 2019 i 2020

Byddwn ond yn defnyddio’ch elw masnachu a’ch incwm anfasnachol o’ch Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020 i bennu a ydych yn gymwys.

Os gwnaethoch ddechrau masnachu yn 2019 i 2020

Byddwn ond yn defnyddio’ch elw masnachu a’ch incwm anfasnachol o’ch Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020 i bennu a ydych yn gymwys.

  • blwyddyn dreth 2019 i 2020
  • cyfartaledd o flynyddoedd treth 2016 i 2017, 2017 i 2018, 2018 i 2019 a 2019 i 2020 – os nad ydych yn gymwys yn seiliedig ar 2019 i 2020 yn unig

Os oes gennych fwlch yn y blynyddoedd yr ydych wedi masnachu, byddwn ond yn defnyddio’ch Ffurflenni Treth diweddaraf ar ôl y bwlch i bennu’ch cymhwystra.

Enghraifft – os nad ydych yn gymwys ar sail eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020

Yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2019 i 2020, gwnaethoch golled o £10,000 a’ch incwm anfasnachol oedd £15,000.

Ni fyddech yn gymwys ar sail eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020 yn unig oherwydd bod eich incwm anfasnachol yn fwy na’ch elw masnachu.

Byddwn yn bwrw golwg dros eich Ffurflenni Treth blaenorol i bennu a ydych yn gymwys.

2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020 Elw masnachu cyfartalog (4 blynedd dreth) Cyfanswm
Elw masnachu £50,000 £50,000 £36,000 -£10,000 £31,500 £126,000
2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020 Cyfanswm
Incwm anfasnachol £15,000 £15,000 £16,000 £15,000 £61,000

Yn yr enghraifft hon, byddech yn dal yn gymwys oherwydd:

  • mae’ch elw masnachu cyfartalog ar gyfer y 4 blynedd dreth yn £31,500 – sydd yn llai na £50,000
  • swm eich elw masnachu ar gyfer y 4 blynedd dreth yw £126,000 – sy’n fwy na swm eich incwm anfasnachol o £61,000 ar gyfer y blynyddoedd hynny

Sut rydym yn cyfrifo cymhwystra partneriaeth

Pe bai partneriaeth yn dechrau masnachu ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ac yn gwneud £100,000 mewn elw masnachu, a bod yr elw’n cael ei ddosbarthu fel a ganlyn:

Enghraifft

Elw masnachu a gafwyd Incwm anfasnachol
Partner A £25,000 0
Partner B £75,000 0

Byddai Partner A yn gymwys ar gyfer y grant, gan nad yw’r elw masnachu a gafwyd yn fwy na £50,000.

Ni fyddai Partner B yn gymwys ar gyfer y grant, gan fod yr elw masnachu a gafwyd yn fwy na £50,000.

Os yw rheolau’r bartneriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i Bartner A dalu’r grant i mewn i gronfa’r bartneriaeth, dylai’r bartneriaeth roi’r grant llawn yn ôl i Bartner A.

Sut rydym yn cyfrifo’ch elw masnachu cyfartalog a swm y grant

Os ydych yn gymwys, byddwn yn defnyddio cyfartaledd eich elw masnachu gan ddefnyddio Ffurflenni Treth a gyflwynwyd dros gyfnod o hyd at 4 blynedd i gyfrifo’ch grant.

Os oes gennych fwlch yn y blynyddoedd yr ydych wedi masnachu, byddwn ond yn defnyddio’ch Ffurflenni Treth diweddaraf ar ôl y bwlch i gyfrifo’r grant.

Mae pumed grant SEISS yn cael ei gyfrifo yn y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • 80% o elw masnachu cyfartalog 3 mis, wedi’i gyfyngu i £7,500
  • 30% o elw masnachu cyfartalog 3 mis, wedi’i gyfyngu i £2,850

Os gwnaethoch ddechrau masnachu yn 2019 i 2020

Os mai dim ond ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 y gwnaethoch fasnachu, byddwn ond yn defnyddio’r elw masnachu hwnnw i gyfrifo’ch grant.

Os ydych wedi masnachu yn ystod pob un o’r 4 blynedd dreth

I gyfrifo’ch elw masnachu cyfartalog, rydym yn adio elw a cholledion ar gyfer pob un o’r 4 blynedd dreth at ei gilydd, ac yna’n rhannu’r cyfanswm â 4.

Enghraifft

2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020 Elw masnachu cyfartalog ar gyfer y 4 blynedd dreth
Elw neu golled masnachu £60,000 £60,000 -£30,000 loss £10,000 £25,000

Os na wnaethoch fasnachu yn ystod blwyddyn dreth 2016 i 2017

Er mwyn cyfrifo’ch elw masnachu cyfartalog, rydym yn adio at ei gilydd yr holl elw a cholledion ar gyfer y blynyddoedd treth 2017 i 2018, 2018 i 2019 a 2019 i 2020, ac yna’n rhannu’r cyfanswm â 3.

Enghraifft

2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020 Elw masnachu cyfartalog ar gyfer y 3 blynedd dreth
Elw masnachu Did not trade £25,000 £45,000 £47,000 £39,000

Os na wnaethoch fasnachu yn ystod blwyddyn dreth 2017 i 2018

Byddwn yn cyfrifo’ch elw masnachu cyfartalog yn seiliedig ar flynyddoedd treth 2018 i 2019 a 2019 i 2020, hyd yn oed os gwnaethoch fasnachu yn ystod blwyddyn dreth 2016 i 2017.

Enghraifft

2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020 Elw masnachu cyfartalog ar gyfer 2 flynedd
Elw masnachu £25,000 Did not trade £45,000 £49,000 £47,000

Os na wnaethoch fasnachu yn ystod blwyddyn dreth 2018 i 2019

Byddwn yn cyfrifo’ch elw masnachu cyfartalog yn seiliedig ar flwyddyn dreth 2019 i 2020, hyd yn oed os gwnaethoch fasnachu yn ystod blynyddoedd treth 2016 i 2017 a 2017 i 2018.

Enghraifft

2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020 Elw masnachu cyfartalog
Elw masnachu £25,000 £45,000 Did not trade £30,000 £30,000

Os na wnaethoch fasnachu mewn 2 flynedd dreth olynol

Byddwn yn cyfrifo’ch elw masnachu cyfartalog yn seiliedig ar eich Ffurflenni Treth diweddaraf.

Enghraifft 1

2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020 Elw masnachu cyfartalog
Elw neu golled masnachu - £2,000 loss Heb fasnachu Heb fasnachu £35,000 £35,000

Enghraifft 2

2016 to 2017 2017 to 2018 2018 to 2019 2019 to 2020 Elw masnachu cyfartalog ar gyfer 2 flynedd
Elw neu golled masnachu Heb fasnachu Heb fasnachu - £3,000 loss £40,000 £18,500
Cyhoeddwyd ar 14 April 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 July 2021 + show all updates
  1. This guidance has been updated with information about the fifth SEISS grant.

  2. This guidance has been updated with information about the fourth SEISS grant.

  3. Claims for the third grant have now closed. The last date for making a claim for the third grant was 29 January 2021. Details about the fourth grant will be announced on 3 March 2021.

  4. This page has been updated with the information for the third grant of the Self Employed Income Support Scheme.

  5. The service is now closed for the Self-Employment Income Support Scheme. You can no longer make a claim for the second grant.

  6. Added translation

  7. The Self Employment Income Support Scheme claim service is now open.

  8. Added information to confirm that losses are not included in your non-trading income calculation. Also added an example to show how HMRC will work out the amount of the second and final grant.

  9. Welsh translation added.

  10. Additional examples have been added to show how HMRC works out total income and trading profits for different trading circumstances, and examples have been added to show how we work out partnership eligibility and how much grant you will get.

  11. First published.