Canllawiau

Sut mae’ch amgylchiadau’n effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer y Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth, dewch o hyd i enghreifftiau o sut y gall eich amgylchiadau effeithio ar eich cymhwystra ar gyfer y cynllun.

This guidance was withdrawn on

Claims for the fifth SEISS grant have now closed. The last date for making a claim was 30 September 2021.

You can:

If you received a grant payment, you must report this on your tax return. Find out how to report SEISS grants.

Os yw’ch Ffurflen Dreth yn hwyr, yn destun ymchwiliad neu wedi’i diwygio

Os yw’ch Ffurflen Dreth yn hwyr

Os gwnaethoch gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021, ni fyddwch yn gallu hawlio.

Wrth bennu’ch cymhwystra neu gyfrifo swm y grant y byddwch yn ei gael, ni fydd CThEM yn ystyried Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer blynyddoedd treth 2016 i 2017, 2017 i 2018 na 2018 i 2019 os cawsant eu cyflwyno ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021.

Os yw’ch Ffurflen Dreth yn destun ymchwiliad

Byddwn yn defnyddio’r wybodaeth yn eich Ffurflen Dreth wreiddiol os yw:

  • yn destun ymchwiliad
  • wedi bod yn rhan o setliad contract

Os ydych wedi diwygio’ch Ffurflen Dreth

Wrth bennu’ch cymhwystra neu gyfrifo’r swm y byddwch yn ei gael, ni fyddwn yn ystyried unrhyw ddiwygiadau a wnaed i Ffurflenni Treth a gyflwynwyd ar gyfer blynyddoedd treth 2016 i 2017, 2017 i 2018, 2018 i 2019 a 2019 i 2020 os cafodd y diwygiadau eu cyflwyno ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021.

Os bydd diwygiad i’ch Ffurflen Dreth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 yn gostwng swm y grant yr ydych yn gymwys i’w gael, bydd angen i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod. Efallai y bydd angen i chi ad-dalu’r grant cyfan, neu ran ohono.

Os ydych yn aelod o bartneriaeth

Bydd angen i bob partner yn eich partneriaeth wneud hawliad ar sail ei amgylchiadau ei hun. Byddwn yn pennu’ch cymhwystra ar sail eich cyfran o elw masnachu’r bartneriaeth.

Os yw rheolau’r bartneriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i grant gael ei dalu i mewn i gronfa’r bartneriaeth, dylai’r bartneriaeth roi’r grant llawn yn ôl i chi. Dylai hyn gael ei drin fel incwm y bartneriaeth yn yr un modd ag unrhyw incwm arall.

Enghraifft o sut rydym yn pennu cymhwystra eich partneriaeth.

Os gwnaeth cael plentyn newydd effeithio ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cyflwyno hawliad os gwnaeth cael plentyn newydd effeithio ar eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020.

Ar gyfer y cynllun hwn, mae cael plentyn newydd yn golygu:

  • bod yn feichiog
  • rhoi genedigaeth (gan gynnwys marw-enedigaeth ar ôl mwy na 24 wythnos o feichiogrwydd) a’r 26 wythnos ar ôl rhoi genedigaeth
  • gofalu am blentyn o fewn 12 mis i’w enedigaeth os oes gennych gyfrifoldeb rhiant
  • gofalu am blentyn o fewn 12 mis i’r lleoliad mabwysiadu Os ydych wedi cael plentyn newydd, mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio os yw’r canlynol yn wir:
  • mae’r elw masnachu a chyfanswm yr incwm y rhoesoch wybod amdano yn eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020 yn golygu nad ydych yn bodloni’r meini prawf cymhwystra ar gyfer y grant
  • ni wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020

Cyn cyflwyno hawliad, mae’n rhaid i chi gysylltu â ni i gadarnhau bod cael plentyn newydd wedi effeithio ar eich cymhwystra.

Er mwyn cyflwyno hawliad, mae’n rhaid i chi fod wedi cyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer 2018 i 2019 ac mae’n rhaid i chi fodloni’r holl feini prawf cymhwystra eraill.

Sut y byddwn yn pennu’ch cymhwystra ac yn cyfrifo swm eich grant

Byddwn yn pennu’ch cymhwystra ar sail eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer un o’r canlynol:

  • cyfartaledd blynyddoedd treth 2016 i 2017, 2017 i 2018 a 2018 i 2019
  • cyfartaledd blynyddoedd treth 2017 i 2018 a 2018 i 2019, os na wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth yn 2016 i 2017
  • blwyddyn dreth 2018 i 2019, os na wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth yn 2017 i 2018

Byddwn yn pennu’ch grant gan ddefnyddio hyd at 3 blynedd o elw masnachu ar gyfartaledd. Byddwn yn ystyried elw masnachu o flynyddoedd treth 2016 i 2017, 2017 i 2018 a 2018 i 2019.

Os oes gennych fwlch yn y blynyddoedd yr ydych wedi masnachu, byddwn ond yn defnyddio’ch Ffurflenni Treth diweddaraf ar ôl y bwlch i bennu’ch cymhwystra a chyfrifo swm eich grant.

Os oes gennych fenthyciadau sydd wedi’u cwmpasu gan y tâl ar fenthyciad ac nad ydych wedi cytuno ar setliad gyda CThEM

Os ydych wedi cael taliad am waith neu wasanaethau ar ffurf benthyciad neu fath arall o gredyd a gwmpesir gan y tâl ar fenthyciad, efallai y gallwch hawlio grant os oeddech yn hunangyflogedig a gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer 2017 i 2018.

I fod yn gymwys ar gyfer y grant, mae’n rhaid i chi hefyd fod wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020 ar neu cyn 2 Mawrth 2021 ac mae’n rhaid i’r canlynol fod yn wir:

  • gwnaethoch barhau i fasnachu yn ystod blynyddoedd treth 2020 i 2021
  • rydych yn bwriadu parhau i fasnachu yn 2021 i 2022

Byddwn yn pennu’ch cymhwystra ac yn cyfrifo’ch elw masnachu cyfartalog ar sail naill ai:

  • cyfartaledd blynyddoedd treth 2016 i 2017 a 2017 i 2018
  • blwyddyn dreth 2017 i 2018, os nad oeddech yn hunangyflogedig yn ystod blwyddyn dreth 2016 i 2017

Nid yw’r arweiniad uchod yn berthnasol os yw’ch benthyciadau wedi’u dileu o’r tâl ar fenthyciad oherwydd y newidiadau a wnaed gan y llywodraeth yn Neddf Cyllid 2020 yn dilyn yr adolygiad annibynnol o’r tâl ar fenthyciad neu os ydych wedi cytuno ar setliad contract. Dylech ddilyn yr arweiniad arferol.

Os ydych yn hawlio rhyddhad cyfartalu

Os ydych yn ffermwr neu’n arddwr marchnad hunangyflogedig, neu’n awdur creadigol neu’n artist hunangyflogedig, bydd CThEM yn defnyddio swm yr elw cyn effaith yr hawliadau cyfartalu i bennu:

  • p’un a allwch hawlio grant
  • faint o grant y byddwch yn ei gael

Os ydych yn filwr wrth gefn

Mae gweithgareddau penodol milwyr wrth gefn yn cynnwys:

  • ymrwymiad gwasanaeth amser llawn
  • ymrwymiad dyletswyddau ychwanegol
  • bod ar alw

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu cyflwyno hawliad os gwnaethoch weithgareddau penodol milwr wrth gefn am o leiaf 90 diwrnod ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, ac os gwnaethant effeithio ar eich elw masnachu neu gyfanswm eich incwm ar gyfer y flwyddyn honno. Mae’n rhaid i un o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn 2019 i 2020
  • ni wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020 ond gwnaethoch gyflwyno un ar gyfer 2018 i 2019

Byddwn yn pennu’ch cymhwystra ar sail eich Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer un o’r canlynol:

  • cyfartaledd blynyddoedd treth 2016 i 2017, 2017 i 2018 a 2018 i 2019
  • cyfartaledd blynyddoedd treth 2017 i 2018 a 2018 i 2019, os na wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth yn 2016 i 2017
  • blwyddyn dreth 2018 i 2019, os na wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth yn 2017 i 2018

Byddwn yn pennu’ch grant gan ddefnyddio hyd at 3 blynedd o elw masnachu ar gyfartaledd. Byddwn yn ystyried elw masnachu o flynyddoedd treth 2016 i 2017, 2017 i 2018 a 2018 i 2019.

Os oes gennych fwlch yn y blynyddoedd yr ydych wedi masnachu, byddwn ond yn defnyddio’ch Ffurflenni Treth diweddaraf ar ôl y bwlch i bennu’ch cymhwystra a chyfrifo swm eich grant.

Wrth bennu’ch cymhwystra, ni fyddwn yn cynnwys unrhyw incwm a gewch gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n deillio o fod yn filwr wrth gefn. Mae’n rhaid i chi fodloni’r holl feini prawf cymhwystra eraill.

Os gwnaethoch ddechrau hunangyflogaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2019

Mae’n bosibl y byddwch hefyd yn gymwys i gyflwyno hawliad os gwnaethoch ddechrau hunangyflogaeth ar neu ar ôl 6 Ebrill 2019 a’ch bod wedi cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020 ar neu cyn 2 Mawrth 2021.

Byddwn yn cyfrifo’ch cymhwystra ar sail yr wybodaeth yn eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2019 i 2020. Wrth bennu’ch cymhwystra, ni fyddwn yn cynnwys unrhyw incwm a gewch gan y Weinyddiaeth Amddiffyn sy’n deillio o fod yn filwr wrth gefn.

Os ydych yn ddibreswyl neu wedi dewis y sail trosglwyddo

Gallech fod yn gymwys i gael y grant os ydych yn hunangyflogedig a bod y naill neu’r llall o’r canlynol yn berthnasol:

Mae’n rhaid i’ch elw masnachu yn y DU ar gyfer 2019 i 2020 fod yn llai na £50,000 ac o leiaf yn gyfartal â’ch incwm byd-eang arall yn ystod y flwyddyn dreth honno.

Os nad ydych yn gymwys ar sail eich Ffurflen Dreth ar gyfer 2019 i 2020, byddwn wedyn yn bwrw golwg dros eich elw masnachu cyfartalog yn y DU a’ch incwm byd-eang ar gyfer blynyddoedd treth 2016 i 2017, 2017 i 2018, 2018 i 2019 a 2019 i 2020.

Os oes gennych fwlch yn y blynyddoedd yr ydych wedi masnachu, byddwn ond yn defnyddio’ch Ffurflenni Treth diweddaraf ar ôl y bwlch i bennu’ch cymhwystra a chyfrifo swm eich grant.

Os nad ydych yn breswyl yn y DU, neu os ydych wedi dewis y sail trosglwyddo a’ch bod yn agored i’r tâl ar fenthyciad, bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r naill neu’r llall o’r canlynol i CThEM:

  • os gwnaethoch fasnachu yn ystod blynyddoedd treth 2016 i 2017 a 2017 i 2018, nid yw’ch elw masnachu cyfartalog yn y DU ar gyfer y blynyddoedd treth hynny’n fwy na £50,000, ac mae cyfanswm yr elw masnachu hwnnw o leiaf yn gyfartal â chyfanswm eich incwm byd-eang arall yn ystod y blynyddoedd treth hynny
  • os na wnaethoch fasnachu yn ystod blwyddyn dreth 2016 i 2017, nid yw’ch elw masnachu yn y DU ar gyfer blwyddyn dreth 2017 i 2018 yn fwy na £50,000, ac mae’ch elw masnachu yn y DU o leiaf yn gyfartal â’ch incwm byd-eang arall ar gyfer y flwyddyn dreth honno

Cymorth Gwladwriaethol

Mae Protocol Gogledd Iwerddon yn nodi y bydd rheolau cymorth gwladwriaethol yr UE yn gymwys mewn rhai amgylchiadau cyfyngedig sy’n berthnasol i fasnach rhwng Gogledd Iwerddon a’r UE.

Mae’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth yn gymorth gwladwriaethol sy’n bodloni’r meini prawf yn Fframwaith Dros Dro (paragraff 3.10) y Comisiwn Ewropeaidd, ac a gynlluniwyd i ymateb i goronafeirws (COVID-19).

Cyhoeddwyd ar 1 May 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 July 2021 + show all updates
  1. This guidance has been updated with information about the fifth SEISS grant.

  2. This guidance has been updated with information about the fourth SEISS grant.

  3. Update to provide clarity on verifying your eligibility with HMRC after having a new child.

  4. This page has been updated with the information for the third grant of the Self Employed Income Support Scheme.

  5. The service is now closed for the Self-Employment Income Support Scheme. You can no longer make a claim for the second grant.

  6. Added translation

  7. Information about how to ask HMRC to verify you had a new child which affected your eligibility for the Self-Employment Income Support Scheme before you make a claim has been added.

  8. The Self-Employment Income Support Scheme claim service is now open.

  9. Added details about how to ask HMRC to verify if having a new child affected your eligibility for the Self-Employment Income Support Scheme.

  10. Added translation

  11. Added details about what supporting evidence you may be asked for if having a new child affected the trading profits you reported for the tax year 2018 to 2019.

  12. Information for military reservists has been added. More information about if having a new child affected the trading profits you reported for the tax year 2018 to 2019 has been added. Included another example on how your business could be adversely affected by coronavirus.

  13. Examples added to show when the ‘adversely affected’ criteria for the first and second grants will be met.

  14. A Welsh version of the page has been added.

  15. More information has been added about what you must confirm to HMRC if you’re non-resident or have chosen the remittance basis.

  16. First published.