Canllawiau

Help i ddod o hyd i waith i hawlwyr Credyd Cynhwysol 16 i 24 oed

Darganfyddwch am y cymorth i hawlwyr Credyd Cynhwysol rhwng 16 a 24 oed i ddod o hyd i swydd, hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith neu brentisiaeth trwy'r Cynnig Ieuenctid.

Applies to England, Scotland and Wales

Gall llawer o bobl rhwng 16 a 24 oed sydd ar Gredyd Cynhwysol gael cymorth ychwanegol i ddod o hyd i waith drwy Gynnig Ieuenctid yr Adran Gwaith a Phensiynau. Gofynnwch i’ch anogwr gwaith weld a ydych yn gymwys.

Tra byddwch ar y Cynnig Ieuenctid, byddwch yn parhau i dderbyn Credyd Cynhwysol yn unol â’r cytundebau a wnaed yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Mae gan y Cynnig Ieuenctid 3 math gwahanol o gymorth:

  • Rhaglen Cyflogaeth Ieuenctid
  • Canolfanau Ieuenctid
  • Hyfforddwyr Cyflogadwyedd Ieuenctid

Byddwch yn cytuno ar yr opsiwn gorau i chi gyda’ch anogwr gwaith ar ddechrau eich cais neu’n nes ymlaen wrth i’ch anogwr gwaith ddod i’ch adnabod.

Rhaglen Cyflogaeth Ieuenctid

Nod y Rhaglen Cyflogaeth Ieuenctid yw helpu i’ch paratoi ar gyfer gwaith, cynyddu eich siawns o symud i swydd a’ch cyfeirio at y gefnogaeth fwyaf priodol. Gallai hyn gynnwys:

Mae’r rhaglen yn para am 13 wythnos a chewch eich cefnogi gan eich anogwr gwaith yn eich canolfan waith.

Yr Alban

Gwasanaethau cyflogadwyedd yn yr Alban:

Cymru

Cynlluniau cyflogadwyedd a sgiliau Llywodraeth Cymru:

  • Y Warant i Bobl Ifanc Cymru – cyfleoedd addysg a hyfforddiant i helpu a chefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed i fynd i mewn i waith neu hunangyflogaeth. Mae hyn yn dwyn ynghyd sectorau cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector a’r DWP i ddarparu’r cynnig gorau posibl.
  • Twf Swyddi Cymru Plws – rhaglenni hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16 i 19 oed yng Nghymru
  • Cymunedau dros Waith a Mwy, Cyru’n Gweithio – ar gyfer pobl 20 oed a throsodd. Mae’n darparu cymorth cynghori cyflogaeth arbenigol i’r di-waith hirdymor neu bobl â rhwystrau cymhleth, gan gynnwys lefelau sgiliau isel, cymhlethdodau iechyd a chyflyrau sy’n cyfyngu ar waith.
  • ReAct Plws, Cymru’n Gweithio – rhaglen grant ar gyfer y rhai sydd mewn perygl o gael eu diswyddo neu sydd wedi cael eu diswyddo

Adolygiad Cyflogaeth a Sgiliau

Yn dilyn eich cyfarfod Ymrwymiad Hawlydd, byddwch yn cael adolygiad Cyflogaeth a Sgiliau gyda’ch anogwr gwaith. Yn yr adolygiad, byddwch yn:

  • cael cymorth i ddatblygu a gwella eich CV
  • cael help i ddeall sut mae chwilio am swyddi yn rhithiol a gwneud ceisiadau yn gweithio
  • nodi unrhyw hyfforddiant sy’n gysylltiedig â gwaith rydych ei angen
  • nodi os ydych angen unrhyw gymorth gyda’ch Saesneg, Mathemateg neu TG
  • gweld pa gyfleoedd sy’n seiliedig ar waith sydd ar gael i chi yn ystod y 13 wythnos
  • sefydlu unrhyw rwystrau presennol a allai eich atal rhag cymryd rhan mewn cyfleoedd yn y gwaith

Apwyntiadau gydag anogwr gwaith

Yn ystod eich amser ar y Rhaglen Cyflogaeth Ieuenctid, byddwch yn cael adolygiadau gyda’ch anogwr gwaith dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu ar-lein i gael cefnogaeth a hyfforddiant parhaus.

Byddwch yn cael cymorth i ddiwallu eich anghenion unigol a delio ag unrhyw rwystrau personol i waith sydd gennych. Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at gymorth lleol eraill a chyfleoedd gwaith lleol, er enghraifft:

Canolfanau Ieuenctid DWP

Efallai bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at gymorth ychwanegol am hyd at 6 mis gan anogwr gwaith Canolfan Ieuenctid.

Mae Canolfanau Ieuenctid wedi’u lleoli gyda sefydliadau eraill i ddarparu mynediad at fwy o wasanaethau mewn un lleoliad. Maent yn eich cefnogi i chwilio am waith drwy eich helpu i ddatblygu eich sgiliau a gweithgareddau eraill fel ysgrifennu CV a sgiliau cyfweld.

Mae Canolfanau Ieuenctid yn gweithredu ledled Cymru, Lloegr a’r Alban mewn amrywiaeth o leoliadau, o ganol dinasoedd i ardaloedd gwledig ac arfordirol, gan ganiatáu i’r gwasanaethau a ddarperir gael eu targedu at anghenion lleol.

Mae rhai Canolfanau Ieuenctid yn cynnig gwasanaeth galw heibio i bob person ifanc sydd angen cymorth i ddod o hyd i waith, gan gynnwys y rhai sydd ddim yn hawlio Credyd Cynhwysol.

Cysylltwch â’ch canolfan gwaith leol i ddod o hyd i’ch Canolfanau Ieuenctid agosaf.

Hyfforddwyr Cyflogadwyedd Ieuenctid

Efallai y bydd eich anogwr gwaith yn eich cyfeirio at Hyfforddwr Cyflogadwyedd Ieuenctid os oes gennych rwystrau eraill sy’n eich atal rhag dod o hyd i swydd. Maent wedi’u lleoli mewn canolfannau gwaith ac yn darparu cefnogaeth am hyd at 6 mis i’ch helpu i symud i mewn i waith.

Gallant hefyd ddarparu cefnogaeth 6 wythnos tra byddwch mewn gwaith pan fyddwch wedi dechrau swydd.

Costau teithio a gofal plant

Os byddwch yn mynychu hyfforddiant neu brofiad gwaith, efallai y gallwch hawlio costau teithio a gofal plant. Siaradwch â’ch anogwr gwaith am hyn.

Help i ddod o hyd i waith ar-lein

Mae gan gwefan helpu swyddi wybodaeth am chwilio am swyddi, help gyda CVs, ceisiadau a chymorth gyda chyfweliad. Mae’n cynnwys dolenni i rai ymarferion recriwtio cenedlaethol a gwybodaeth i helpu pobl o dan 25 oed i ddod o hyd i waith.

Yn yr Alban, mae gan My World of Work wybodaeth a chefnogaeth am swyddi, gyrfaoedd a hyfforddiant. Mae’n canolbwyntio’n benodol ar hyfforddiant ieuenctid a chyflogaeth.

Yng Nghymru, gellir dod o hyd i gymorth chwilio am swyddi a hyfforddiant ar Wefannau Swyddi.

Cyhoeddwyd ar 8 January 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 March 2024 + show all updates
  1. Added information on Scottish and Welsh programmes for young people.

  2. Update to reflect that from 25 September certain young people will be invited to join the Youth Offer on a voluntary basis.

  3. From 1 December 2021 the help to find a job, work-related training or an apprenticeship though the 'Youth Offer' has been extended to Universal Credit claimants aged 16 and 17.

  4. First published.