Skip to main content
Canllawiau

Garth Prison

Garth is a men’s high security prison near Leyland, Lancashire.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Help us to improve this page. Give us your feedback in this 2-minutes survey.

Archebu a chynllunio eich ymweliad â Garth

I ymweld â rhywun yn Garth, rhaid i chi:

  • fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • archebu eich ymweliad o leiaf 2 ddiwrnod ymlaen llaw
  • cael yr ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Gall hyd at 2 oedolyn a 2 blentyn ymweld ar y tro. Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn.

Cysylltwch â Garth os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych chi dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Garchar Garth
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

I drefnu ymweliad, gallwch:

Mae’r llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 12.30pm ac 1.30pm a 4.30pm

Dysgu mwy am gostau galwadau

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Mawrth i ddydd Iau, 2pm i 4pm
  • Dydd Sadwrn a dydd Sul, 2pm i 4pm.

Dylech gyrraedd yn gynnar er mwyn cael digon o amser i fynd drwy’r broses ddiogelwch.

Sut i drefnu ymweliadau swyddogol

I drefnu ymweliad swyddogol, gallwch:

Amseroedd ymweliadau fideo swyddogol ac ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:

  • Dydd Mawrth, 2pm i 4pm
  • Dydd Mercher, 2pm i 4pm
  • Dydd Iau, 2pm i 4pm

Cyrraedd Garth

Dewch o hyd i Garth ar y map

Mae Garth tua 5 milltir o orsaf Leyland. Mae bysiau lleol yn rhedeg tuag at Croston Park ond bydd angen i chi gerdded y ddwy filltir olaf i Garth. Fel arall, gallwch chi gymryd tacsi o’r orsaf.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Os ydych chi’n dod mewn car, defnyddiwch y cod post PR26 8LW ar gyfer llywio â lloeren.

Mae maes parcio i ymwelwr ar gael y tu allan i’r carchar, gan gynnwys llefydd parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas.

Mynd i Garth

Rhaid i bob ymwelydd sy’n 16 oed neu’n hŷn brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i mewn i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID wrth ymweld â charchar.

Bydd angen i bob ymwelydd, gan gynnwys plant, fynd drwy synhwyrydd metel a chael archwiliad ‘patio i lawr’. Mae’n bosibl y bydd cŵn diogelwch yn eich arogli hefyd.

Mae gan Garth bolisi cod gwisg sy’n addas i deuluoedd, sy’n golygu y dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Efallai y cewch eich troi i ffwrdd os byddwch chi’n gwisgo eitemau fel:

  • festiau
  • topiau isel
  • sgertiau neu ffrogiau byr
  • siorts
  • dillad y gellir gweld drwyddynt neu ddillad wedi’u rhwygo
  • fflip-fflops neu wisg pen ar wahân i’r hyn a wisgir am resymau crefyddol

Hefyd, ni chewch wisgo:

  • unrhyw beth sydd â phatrymau neu sloganau sarhaus
  • crysau pêl-droed
  • trowsus cargo neu ‘combat’
  • iwnifform (ac eithrio gwisg ysgol)
  • dillad llachar
  • esgidiau â blaenau dur neu esgidiau pêl-droed
  • hwdis a dillad tebyg i hwdi

Cyn i chi fynd i mewn, bydd angen i chi dynnu:

  • hetiau
  • sgarffiau
  • sbectol haul
  • menig
  • beltiau â bwcl mawr
  • clipiau gwallt metel
  • gormod o emwaith

Ffoniwch y llinell archebu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Bydd lluniaeth ar gael i’w phrynu yn ystod eich ymweliad.

Mae rheolaethau llym ar yr hyn y cewch ddod ag ef i mewn i Garth gyda chi. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer (bydd angen darn £1 arnoch) yn y ganolfan ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae canolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan Bartneriaid Carcharorion (POPS).

Mae’r ganolfan ar agor ar ddiwrnodau ymweld rhwng 11:30am a 4:30pm.

Ffôn: 01772 622 129
Dysgu mwy am gostau galwadau

Mae’r neuadd ymweld ar y llawr gwaelod ac yn hygyrch i gadeiriau olwyn. Mae man chwarae i blant gyda gweithgareddau wedi’u trefnu gan weithiwr chwarae. Mae rhieni a gwarcheidwaid yn parhau i fod yn gyfrifol am eu plant bob amser.

Diwrnodau teulu

Mae Carchar EF Garth yn cynnal 12 ymweliad teulu bob blwyddyn. Mae manylion am sut mae’r ymweliadau hyn yn cael eu cynnal ar gael drwy gysylltu â: FamilySupportCOVID.Garth@justice.gov.uk.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Garth

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Garth.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Gallwch ofyn am alwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn drwy ap Prison Video.

Byddwch yn cael hysbysiad pan fydd eich cais wedi cael ei dderbyn.

Darllenwch fwy am sut mae ap Prison Video yn gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ac maent yn gallu gwneud galwadau bob dydd rhwng 6am a 10pm.

Nid yw ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid iddynt eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddyn nhw brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallan nhw ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon ar ôl iddyn nhw gyrraedd, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallan nhw ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth Negeseuon Llais y Carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Garth drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a chael atebion, yn dibynnu ar y rheolau yn Garth.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu llythyr ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod rhif y carcharor, cysylltwch â Charchar Garth.

Bydd pob llythyr drwy’r post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.

Radio Cenedlaethol y Carchardai - Sioe i Deulu a Ffrindiau Ddewis y Caneuon

Mae Radio Cenedlaethol y Carchardai yn darlledu i holl gelloedd y carchardai ledled Cymru a Lloegr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gall teulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn y carchardai trwy anfon ceisiadau am ganeuon, negeseuon ysgrifenedig neu recordiadau llais. Yna bydd y rhain yn cael eu darllen allan ar y radio neu’n cael eu chwarae yn ystod y sioe wythnosol.

Gallwch anfon neges atom, a gwrando ar y sioe yn nationalprisonradio.com

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Bellach, allwch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Gall carcharorion wneud cais am ganiatâd i dderbyn eitemau gan ffrindiau a theulu. Gellir cyflwyno’r eitemau hyn wrth fynedfa’r ymwelwyr cyn ymweliad rhwng 1:05pm a 1:30pm.

Mae cyfyngiadau ar nifer y parseli y gall carcharor eu cael. Dim ond eitemau penodol a ganiateir. Gofynnwch am fanylion yn y ganolfan ymwelwyr.

Fel arfer, ni dderbynnir eitemau drwy’r post. Fodd bynnag, gall carcharor sy’n wladolyn tramor neu nad yw’n cael ymweliadau wneud cais am ganiatâd i aelod o’r teulu neu ffrind anfon eitemau i mewn.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau addysg a llyfrgell y carchar, Atodiad A.

Bywyd yn Garth

Mae Garth wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion sydd wedi’u cael yn euog o droseddau difrifol wneud defnydd cadarnhaol o ddedfrydau hir.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob unigolyn yng Ngharchar Garth hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan y llinell gymorth ar gyfer teuluoedd carcharorion, Prisoners’ Families Helpline.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Garth am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddant yn cael eu gweld gan aelod o’r tîm nyrsio i siarad am anghenion iechyd uniongyrchol, gan gynnwys meddyginiaeth.

Byddant hefyd yn cael siarad ag aelod o dîm y Noson Gyntaf i drafod unrhyw bryderon a dysgu am fynediad at linell ffôn y Samariaid, cynllun Gwrandawyr y carchar, defnyddio’r gloch argyfwng mewn cell a rheolau’r uned.

Cynefino

Bydd pob carcharor sy’n cyrraedd Garth yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Byddant hefyd yn cwrdd â thîm y gaplaniaeth ac yn cael sesiwn gynefino yn y gampfa.

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 800 o garcharorion yn byw yn Garth. Mae’r rhan fwyaf yn cael eu cell eu hunain.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at raglen eang o gyfleoedd dysgu a ddarperir gan Novus. Mae’r rhain yn cynnwys llythrennedd a rhifedd, sgiliau bywyd, datblygiad personol a chymdeithasol a dysgu o bell. Mae Garth yn rhan o’r Academi TGCh i Garchardai (PICTA) sy’n helpu i baratoi carcharorion ar gyfer gweithio mewn rolau technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh).

Mae hyfforddiant ar gael mewn mecaneg moduron, peirianneg ysgafn, glanhau diwydiannol a gwaith coed.

Mae gwaith ar gael drwy’r carchar, gan gynnwys yn y gegin, yr adran Addysg Gorfforol, ar ffermydd a gerddi a rheoli gwastraff. Mae carcharorion hefyd yn cael eu cyflogi gan nifer o weithdai diwydiannol, gan gynnwys:

  • mowldiau chwistrellu plastig
  • tecstilau
  • DHL (danfon/logisteg)
  • gweithdy clustogwaith niwroamrywiaeth
  • uwchgylchu dodrefn
  • ffitiadau golau a chydosod larymau giât
  • glanhau diwydiannol
  • L.M Barry &Co. (ailgylchu tecstilau)
  • Diwydiannau: cydosod/pacio
  • gweithgynhyrchu gwaith coed adeiladu
  • Diwydiannau: gweithgareddau ar y tir (Gerddi)
  • rheoli gwastraff

Mae’r rhan fwyaf o rolau’n cynnwys y cyfle i astudio ar gyfer cymwysterau.

Mae Garth yn rhedeg cynllun tiwtor cymheiriaid lle mae carcharorion yn cefnogi ei gilydd gyda chyfleoedd cyflogaeth.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Gwybodaeth am linellau cymorth a chyngor i deulu a ffrindiau.

I gysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd yng Ngharchar Garth: familySupportCOVID.Garth@justice.gov.uk

Gall Partneriaid Carcharorion (POPS) ddarparu amrywiaeth o wybodaeth, arweiniad a chefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau carcharorion.

Gallwch ofyn am ragor o wybodaeth yn y ganolfan ymwelwyr neu gysylltu â nhw drwy anfon e-bost a ffonio.

E-bost: garthvc@partnersofprisoners.co.uk
Ffôn: 01772 622 129
Dysgu mwy am gostau galwadau

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01772 443 300 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01772 443 676 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Garth.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Garth mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Garth

Llywodraethwr: Andy Lund

Ffôn: 01772 443 300
Ffacs: 01772 443 301
Gwybodaeth am gost galwadau

Dilyn Garth ar Twitter/X

Cyfeiriad

HMP Garth
Ulnes Walton
Leyland
Preston
PR26 8NE

See map

Help us to improve this page. Give us your feedback in this 2-minutes survey.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Booking details for official visits updated.

  2. How to book official visits section revised.

  3. Updates to the social visits booking line opening times and updates to the booking process for legal and professional visits.

  4. Added link to the National Prison Radio (NPR) request show for family and friends, under the 'Keep in touch with someone' section

  5. Secure video calls update.

  6. Updated Governor

  7. Updated operating times for the social and legal visits booking line.

  8. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  9. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  10. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  11. Updated physical contact guidance

  12. New visiting times and booking information added.

  13. Prison has resumed visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  14. Additional guidance about new COVID-19 variant in the Bolton and Blackburn areas.

  15. Updated visit info

  16. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  17. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  18. Updated visiting restrictions

  19. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  20. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  21. Added confirmation of secure video calls being made available at this prison.

  22. First published.

Argraffu'r dudalen hon