Canllawiau

Carchar Elmley

Mae Elmley yn un o 3 charchar i ddynion sy’n rhan o Glwstwr Sheppey yng Nghaint, a’r ddau arall yw CEF Standford Hill a CEF Swaleside.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad ag Elmley

I ymweld â rhywun yn Elmley, rhaid i chi:

  • bod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • archebu eich ymweliad ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Gall carcharorion ar remand gael ymweliad bob dydd, os oes lle. Ar ôl cael eu dedfrydu, bydd angen gorchymyn ymweld (VO) ar ymwelwyr a byddant yn cael 2 bob 14 diwrnod. Bydd carcharorion sydd â mwy o freintiau yn cael 2 ymweliad ychwanegol bob mis.

Cysylltwch ag Elmley os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Elmley
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein.

Gallwch drefnu eich ymweliad dros y ffôn.

Llinell archebu: 03000 606 605

Dydd Llun i ddydd Gwener, 0900 i 1600

Gwybodaeth am gost galwadau

Ar gyfer ymholiadau am ymweliadau ffoniwch 01795 802 195

Amseroedd ymweld

  • Dydd Llun i ddydd Sul: 1:45pm i 4pm

Wrth gyrraedd gallwch gofrestru yn y ganolfan ymwelwyr, mae cofrestru’n agor o 11am ymlaen bob dydd, nid oes mynediad ar ôl 2:45pm.

Mae’r ganolfan ymwelwyr ar agor rhwng 10am a 4:30pm, mae cyfleusterau ar y safle.

Penwythnosau a gwyliau banc:

  • Mae’r ganolfan ymwelwyr yn agor am 11am
  • Mae cofrestru’n agor am 11am

Mae’r terfyn amser ar gyfer mynediad a’r amser cau yn aros yr un fath.

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol drwy fideo

Gallwch drefnu eich ymweliad cyfreithio drwy fideo dros y ffôn.

Llinell archebu: 01795 802 373

Amserau sesiynau fideo cyfreithiol (slotiau bob awr):

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 12pm a 2pm i 5pm

Sut i drefnu ymweliadau cyfreithiol a phroffesiynol

Dim ond drwy e-bost y gellir trefnu ymweliadau cyfreithiol, at  legalvisits.elmley@justice.gov.uk

Amseroedd ymweld cyfreithiol a phroffesiynol:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener: 9am i 11:30am

Mynd i Elmley

Dod o hyd i Elmley ar fap

Wrth deithio i Elmley, ceisiwch osgoi mynd trwy Warchodfa Natur Elmley.

Os ydych chi’n teithio ar yr M2

  • gadewch y draffordd wrth gyffordd pump
  • ymunwch â’r A249 tuag at Sheerness/Sheppey
  • unwaith y byddwch chi wedi croesi Croesfan Sheppey, dilynwch yr arwyddion tuag at Eastchurch a Leysdown
  • yn Eastchurch dilynwch yr arwyddion lleol i CEF Elmley

Sheerness yw’r orsaf drenau agosaf. O’r fan honno gallwch gael tacsi neu fynd ar y bws,

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus defnyddiwch:

Mae maes parcio rhad ac am ddim i ymwelwyr.

Cyrraedd Elmley

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyw cyn mynd i Elmley. Darllenwch y rhestr o ddulliau adnabod derbyniol wrth ymweld â charchar.

Gallwch gofrestru yn swyddfa’r ymwelwyr hyd at hanner awr cyn eich slot amser ymweld. Mae’r swyddfa ar agor rhwng 10am a 4pm.

  • Mae pob ymwelydd yn mynd trwy ein EGS (Diogelwch Giât Manylach) mae’r broses hon yn debyg i ddiogelwch maes awyr (pelydr-x ar gyfer bagiau a phyrth metel).
  • Gall pob ymwelydd gael ei chwilio’n ofalus, gan gynnwys plant.
  • Efallai y byddwch hefyd yn cael eich arogli gan gŵn diogelwch.
  • Rhaid i ymwelwyr gadw at god gwisg y carchar sy’n berthnasol wrth fynd i mewn i Elmley, gweler y cod gwisg isod.
  • Mae rheolaethau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Elmley. Bydd yn rhaid i chi adael yr holl bethau sydd gennych gyda chi mewn locer, ar wahân i eitemau sydd eu hangen ar gyfer babanod ac mae meddyginiaeth yn amodol ar yr unigolyn dan sylw ac ar ein prosesau diogelwch. Arian parod yn unig sy’n cael ei dderbyn yn Elmley a gall pob ymwelydd sy’n oedolyn gymryd hyd at £60 yr un i’w wario ar luniaeth poeth ac oer drwy gydol eich ymweliad.
  • Ffoniwch y llinell archebu neu 01795 802 195 os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymweld.

Cod gwisg

Fyddwch chi ddim yn cael dod i mewn i Garchar Elmley yn gwisgo unrhyw un o’r canlynol:

  • esgidiau â blaenau dur neu esgidiau â rhannau metel agored
  • esgidiau seiclo neu feicio modur
  • menig, hetiau, sgarffiau nac unrhyw orchudd pen oni bai ei fod yn un crefyddol. (Mae bonet babi yn iawn ond bydd yn rhaid i riant ei thynnu i ffwrdd i’w harchwilio)
  • sbectol haul (oni bai ei bod yn un presgripsiwn)
  • oriorau clyfar o unrhyw fath, gan gynnwys tracwyr ffitrwydd
  • dillad sydd â logos, geiriau neu luniau sarhaus, hiliol neu rywiaethol
  • dillad gan Hoodrich, Criminal Damage neu AYEgear
  • dillad sy’n dangos gormod, hynny yw: sgertiau/ffrogiau byr iawn gan gynnwys siorts, topiau gallwch chi weld drwyddyn nhw, topiau byr a thopiau heb strapiau, siwt undarn unitard/siwt undarn tynn
  • dillad isaf o unrhyw fath mae modd eu gweld (ac eithrio strapiau bra o amgylch yr ysgwydd)
  • dillad wedi’u rhwygo i ddangos y torso
  • chewch chi ddim gwisgo jîns sydd wedi’u rhwygo uwchben y pen-glin
  • ategolion gwallt rhy fawr wedi’u gwneud o fetel
  • unrhyw fath o helmed (oni bai fod rheswm meddygol)
  • crysau pêl-droed a chrysau chwaraeon sy’n dangos enw tîm

Chewch chi ddim tynnu dillad yn ystod yr ymweliad.

Rhaid i’r ymwelwyr wneud yn siŵr eu bod wedi gwisgo’n gyfforddus cyn mynd i mewn i’r ardal archwilio ymwelwyr.

Dydy’r rhestr hon ddim yn gyflawn.

Dylid gofyn unrhyw gwestiwn i staff y ganolfan ymwelwyr neu’r uwch swyddog ymweliadau.

Cyfleusterau ymweld

  • Mae peiriannau gwerthu bwyd a diod ar gael yn y ganolfan ymweld.
  • Mae stondin te sy’n gwerthu diodydd poeth ac oer yn neuadd ymweliadau’r carchar
  • Mae toiledau dynion / menywod / anabl a chyfleusterau newid babanod yn y ganolfan ymweld ac yn y neuadd ymweliadau
  • Mae’r ganolfan ymwelwyr yn cynnwys ardal heb ei goruchwylio sydd â gweithgareddau i blant, ac yn y carchar mae gennym ni ardal Chwarae Meddal wedi’i goruchwylio. (mae’r telerau ac amodau ar gael wrth gyrraedd). Mae cyfyngiadau taldra a bydd y plant sy’n cael mynd mewn yn cael band garddwrn, ni cheir gwisgo esgidiau ond bydd pob plentyn yn gwisgo sanau wrth chwarae
  • Mae mynediad i bobl anabl i’r carchar, gan gynnwys parcio

Diwrnodau teulu

Mae Elmley yn cynnal 12 ymweliad teulu bob blwyddyn. Mae manylion am sut mae’r ymweliadau hyn yn cael eu cynnal ar gael yn y ganolfan ymwelwyr neu drwy ofyn i’r staff yn y neuadd ymweliadau.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Elmley

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Elmley.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Rhagor o wybodaeth am sut mae’n gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu hystafelloedd ond dim ond galwadau allan y gallant eu gwneud felly bydd yn rhaid iddyn nhw eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddynt brynu credydau ffôn i wneud hyn. Gellir eu defnyddio rhwng 6am a 10:30pm.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Caiff y rhestr hon ei gwirio gan y staff diogelwch pan fyddant yn cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallant ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Elmley drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yn Elmley.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch ag Elmley.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’i gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Llyfrau yw’r unig eitemau y gellir eu hanfon i’r carchar. Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel. Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

Ar gyfer y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau addysg a llyfrgell y Carchar, Atodiad A.

Cysylltwch ag Elmley i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Parseli

Bydd carcharorion yn cael derbyn dillad, hyd at y terfyn a ganiateir, yn ystod eu 50 diwrnod cyntaf. Ar yr amod bod yr eitemau’n addas.

Byddwn yn sicrhau bod yr eitemau hyn yn cael eu selio, eu cofnodi ar y cerdyn eiddo ac eir â nhw i’r giât ymweliadau.

Bydd yr eitemau’n cael eu rhoi i’r ymwelwyr a byddant yn llofnodi’r ffurflen Trosglwyddo Eiddo cyn dechrau’r ymweliad, ac yn gallu casglu eitemau sydd o fewn y broses gyfnewid / lwfans 50 diwrnod.

Rhaid i’r staff gymeradwyo pob cais i dderbyn eiddo.

Ar ôl i’r eiddo gael ei anfon, bydd yn mynd i’r brif giât ar ddiwrnod ymweliad ar yr amod bod ymweliad wedi’i drefnu i’r carcharor.

Mae modd cyflwyno eiddo: Dydd Llun i ddydd Sul 11:15am tan 12:15pm.

Bywyd yn Elmley

Mae Elmley wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall dynion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob person yn Elmley hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan llinell gymorth Teuluoedd Carcharorion.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Elmley am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw’n cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a llesiant sydd ganddyn nhw bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Elmley yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos.

Byddant yn cael dillad gwely, nwyddau ymolchi a phecyn lles ar gyfer y dyddiau cynnar.

Byddant hefyd yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a lles, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae 6 uned sy’n dal tua 1,150 o garcharorion.

Ceir unedau ar gyfer carcharorion agored i niwed, dinasyddion tramor, carcharorion noson gyntaf, adsefydlu cyffuriau ac alcohol ac unedau cymysg.

Addysg a gwaith

Yn Elmley, rhaid i bob carcharor weithio tuag at Lefel 2 mewn Saesneg a mathemateg. Mae cynorthwywyr dosbarth ar gael i helpu gyda dysgu.

Ochr yn ochr â hyn, rhaid i ddinasyddion tramor geisio gwella eu Saesneg. Ceir TGCh, tystysgrifau adeiladu City and Guilds, cymwysterau Cydraddoldeb ac Amrywiaeth a dysgu arall seiliedig ar ddiwydiant.

‘In House Records’ yw label recordiau cyntaf Carchar EF i annog carcharorion i ddysgu sut i chwarae, creu, cymysgu a rheoli cerddoriaeth.

Cynigir cyrsiau cymorth cyntaf, diet, maeth a hyfforddiant personol yn y gampfa. Gall carcharorion hefyd hyfforddi i fod yn ‘fentor’ er mwyn iddyn nhw allu ymgymryd â rolau gweithwyr allweddol. Mae un o’r unedau’n cynnal prosiect celf gymunedol.

Mae cynghorydd gyrfaoedd yn helpu gyda llythyrau cais a CVs. Bob 3 mis, mae detholiad o gyflogwyr yn dod i’r carchar i gynnig swyddi gwag, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi i garcharorion sydd bron yn barod i gael eu rhyddhau.

Ar ôl cael eu hachredu, mae’r cyrsiau mewn gyrru wagenni fforch godi, gwaith stryd a rheoli traffig yn gwarantu cyfweliad drwy’r grŵp Prif Ffrwd.

Mae cyflogaeth ddyddiol ar gael ym meysydd garddio, gwasanaethau amgylcheddol, ailgylchu, glanhau, golchi dillad a gwaith cegin.

Mae gweithwyr Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT) yn cynnig amrywiaeth eang o gyrsiau i annog carcharorion i ddechrau o’r newydd, fel ymwybyddiaeth ac empathi â dioddefwyr, lleihau trais, rheoli pryder, deall sbardunau ar gyfer aildroseddu, ymwybyddiaeth ofalgar, sgiliau cyfathrebu ac ariannol a rhianta.

Rhyddhau dros dro

Nid yw Elmley yn cynnig rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL) ar hyn o bryd.

Sefydliadau mae Elmley yn gweithio gyda nhw

Mae Elmley yn gweithio gyda CGL sy’n cynnig llawer o gyrsiau ar iechyd, llesiant a chymhelliant, yn ogystal â rhaglenni triniaeth cyffuriau ac alcohol.

Mae rhaglenni perthnasoedd a ‘meddwl’ ar gael i garcharorion hefyd, yn ogystal â chymorth gyda materion adsefydlu fel llety, bancio, cardiau adnabod dinasyddion, tystysgrifau geni a chyflogaeth gan Seetec.

Mae Elmley hefyd yn gweithio gyda’r elusen PACT sy’n helpu gyda diwrnodau ymweliadau teulu.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Darperir gwasanaethau teulu yn Elmley gan PACT.

Er mwyn cysylltu â’n pennaeth darpariaeth i deuluoedd, y Pennaeth Lleihau Aildroseddu yn Elmley: businesshubelmleycorrespondence@justice.gov.uk

Mae staff y ganolfan ymwelwyr yn cynnig cyngor a chefnogaeth gyfeillgar i bob teulu a gallant eu cyfeirio at asiantaethau eraill, megis gwasanaethau cam-drin domestig neu reoli dyledion.

Maent hefyd yn helpu gyda cheisiadau am achosion teulu ac mae ganddynt fynediad at Relate, sy’n cynnig cwnsela rhianta am ddim i garcharor sydd yn agosáu at gael ei ryddhau, os oes ganddo ef a’i bartner blant oed ysgol.

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01795 802 000 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01795 802 433 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Elmley.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Elmley mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu ag Elmley

Llywodraethwr: Gary Price

Ffôn (24 awr): 01795 802 000
Ffacs: 01795 802 001

Gwybodaeth am gost galwadau

E-bost: businesshubelmleycorrespondence@justice.gov.uk

Cyfeiriad

HMP/YOI Elmley
Church Road
Eastchurch
Sheerness
Kent
ME12 4DZ

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Ebrill 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Welsh translation sections updated - Cod gwisg, Cyfleusterau ymweld, Parseli a Sefydliadau mae Elmley yn gweithio gyda nhw.

  2. Dress code for visiting updated.

  3. Official visits details updated.

  4. Updated Governor name to, Gary Price

  5. Updated legal/professional and legal video visits information.

  6. Secure video calls update - new phone provider.

  7. Updated Governor

  8. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  9. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  10. Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.

  11. Updated visiting information: Reduced visit schedule and testing for visitors aged 12 and over.

  12. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  13. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  14. Added link to information about testing for physical contact at visits.

  15. New visiting times and booking information added.

  16. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  17. Updated visit info

  18. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  19. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  20. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  21. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  22. Added confirmation of secure video calls being made available at this prison.

  23. Updated safer custody hotline details

  24. added survey link

  25. First published.

Argraffu'r dudalen hon