Canllawiau

Taliad Costau Byw 2022

Canllaw ar gael taliad ychwanegol i helpu gyda chostau byw os oedd gennych hawl i fudd-daliadau neu gredydau treth penodol yn 2022.

Applies to England, Scotland and Wales

Taliadau Costau Byw 2023 i 2024

Darllenwch am y Taliadau Costau Byw pellach sydd i gael eu gwneud rhwng gwanwyn 2023 a gwanwyn 2024.

Dylai’r rhan fwyaf o bobl wedi cael eu Taliad Costau Byw 2022.

Os oeddech yn gymwys, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig yn yr un ffordd rydych yn cael eich budd-dal neu gredydau treth fel arfer. Mae hyn yn cynnwys os canfyddir eich bod yn gymwys i gael Taliad Costau Byw neu Daliad Costau Byw i’r Anabl yn ddiweddarach.

Os ydych wedi cael neges yn gofyn i chi wneud cais neu gysylltu â rhywun am y taliad, gallai hyn fod yn sgam.

Gallech gael hyd at 3 math gwahanol o daliad yn dibynnu ar eich amgylchiadau ar ddyddiad penodol neu yn ystod cyfnod penodol:

  • Taliad Costau Byw, os oeddech yn cael budd-dal incwm isel cymwys neu gredydau treth
  • Taliad Costau Byw i’r Anabl, os oeddech yn cael budd-dal anabledd cymwys
  • Taliad Costau Byw i Bensiynwyr, os oes gennych hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2022 i 2023

Nid yw’r taliadau hyn yn drethadwy ac ni fyddant yn effeithio ar y budd-daliadau na’r credydau treth a gewch.

Budd-daliadau incwm isel a chredydau treth

Efallai y gallwch gael taliad o £650 wedi’i dalu mewn 2 lwmp swm o £326 a £324 os oeddech yn cael taliadau o unrhyw un o’r canlynol:

  • Credyd Cynhwysol
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant
  • Credyd Treth Gwaith

Bydd y taliad yn cael ei wneud ar wahân i’ch budd-dal.

Ni fyddwch yn cael taliad os oeddech yn cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar gyfraniadau, neu Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd, oni bai roeddech yn cael Credyd Cynhwysol.

Os oedd gennych gais ar y cyd â phartner, byddwch yn cael un taliad o £326 ac un taliad o £324 ar gyfer eich cais ar y cyd, os ydych yn gymwys.

Credyd Cynhwysol

Roeddech yn gymwys ar gyfer y Taliad Costau Byw cyntaf o £326 os oedd gennych hawl i daliad (neu y canfuwyd yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Gredyd Cynhwysol ar gyfer cyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod o 26 Ebrill 2022 i 25 Mai 2022.

Roeddech yn gymwys i gael yr ail Daliad Costau Byw o £324 os oedd gennych hawl i daliad (neu y canfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Gredyd Cynhwysol ar gyfer cyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod o 26 Awst 2022 i 25 Medi 2022.

Bydd y taliad yn cael ei wneud ar wahân i’ch budd-dal.

‘Dyfarniadau dim’ Credyd Cynhwysol

Ni fyddwch yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw os caiff eich Credyd Cynhwysol ei ostwng i £0 ar gyfer y cyfnod asesu cymhwyso. Weithiau gelwir hyn yn ‘dim dyfarniad’. Mae’r rhesymau y gall eich Credyd Cynhwysol gael ei ostwng i £0 am gyfnod asesu yn cynnwys cael mwy nag un taliad o enillion, eich enillion chi neu’ch partner yn cynyddu, eich cynilion chi neu’ch partner yn cynyddu, rydych yn dechrau cael budd-dal arall.

Os didynnwyd arian hefyd am resymau eraill (fel taliadau rhent i’ch landlord neu arian sy’n ddyledus gennych), efallai y byddwch yn gymwys o hyd.

JSA yn seiliedig ar incwm, ESA yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn

Roeddech yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw cyntaf o £326 os oedd gennych hawl i daliad (neu y canfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn ar gyfer unrhyw ddiwrnod. yn y cyfnod o 26 Ebrill 2022 i 25 Mai 2022.

Roeddech yn gymwys i gael yr ail Daliad Costau Byw o £324 os oedd gennych hawl i daliad (neu y canfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod o 26 Awst 2022 i 25 Medi 2022.

Bydd y taliad yn cael ei wneud ar wahân i’ch budd-dal.

Credydau treth

Roeddech yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw cyntaf o £326 os cawsoch, neu’n ddiweddarach yn ei gael, ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod o 26 Ebrill 2022 i 25 Mai 2022 naill ai:

  • taliad o gredydau treth ar gyfer y flwyddyn dreth 2022 i 2023
  • yfarniad blynyddol o £26 o leiaf o gredydau treth ar gyfer y flwyddyn dreth 2022 i 2023

Roeddech yn gymwys i gael yr ail Daliad Costau Byw o £324 os cawsoch, neu’n ddiweddarach yn ei gael, ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod rhwng 26 Awst 2022 a 25 Medi 2022 naill ai:

  • taliad o gredydau treth ar gyfer y flwyddyn dreth 2022 i 2023
  • dyfarniad blynyddol o £26 o leiaf o gredydau treth ar gyfer y flwyddyn dreth 2022 i 2023

Os oeddech yn cael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith, byddwch ond yn cael Taliad Costau Byw ar gyfer Credyd Treth Plant, a fydd yn cael ei dalu gan CThEM.

Os oeddech yn cael credydau treth gan HMRC a budd-dal incwm isel gan DWP, byddwch ond yn cael Taliad Costau Byw gan DWP.

Dyddiadau taliadau 2022 am fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth

Budd-dal neu gredydau treth Taliad Costau Byw Pryd fyddwch yn cael eich talu
Credyd Cynhwysol £326 Rhwng 14 a 31 Gorffennaf 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
  £324 Rhwng 8 a 23 Tachwedd 2022 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl
JSA yn seiliedig ar incwm £326 Rhwng 14 a 31 Gorffennaf 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
  £324 Rhwng 8 a 23 Tachwedd 2022 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl
ESA yn seiliedig ar incwm £326 Rhwng 14 a 31 Gorffennaf 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
  £324 Rhwng 8 a 23 Tachwedd 2022 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl
Cymhorthdal Incwm £326 Rhwng 14 a 31 Gorffennaf 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
  £324 Rhwng 8 a 23 Tachwedd 2022 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl
Credyd Pensiwn £326 Rhwng 14 a 31 Gorffennaf 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
  £324 Rhwng 8 a 23 Tachwedd 2022 ar gyfer y rhan fwyaf o bobl
Credydau Treth £326 Rhwng 2 a 7 Medi 2022 i’r rhan fwyaf o bobl
  £324 Rhwng 23 a 30 Tachwedd 2022i’r rhan fwyaf o bobl

Os oedd gennych gais ar y cyd rhwng 26 Ebrill a 25 Mai 2022, anfonir taliad sengl o £326 drwy ddefnyddio’r un dull talu a ddefnyddiwyd rhwng y dyddiadau hyn, os ydych yn gymwys.

Os oedd gennych gais ar y cyd rhwng 26 Awst a 25 Medi 2022, anfonir taliad sengl o £324 gan ddefnyddio’r un dull talu a ddefnyddiwyd rhwng y dyddiadau hyn, os ydych yn gymwys.

Efallai y daw eich taliad yn ddiweddarach, er enghraifft os dyfernir budd-dal cymhwyso i chi yn ddiweddarach neu os byddwch yn newid y cyfrif y telir eich budd-dal neu gredydau treth iddo. Byddwch yn dal i gael Taliad Costau Byw yn awtomatig ac nid oes angen i chi gysylltu â DWP na HMRC.

Os ydych wedi derbyn Taliad Costau Byw, ond byddwn yn canfod yn ddiweddarach nad oeddech yn gymwys i’w gael, efallai y bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Mae DWP a HMRC yn defnyddio rhaglen gyfrifiadurol i nodi’r rhai sy’n gymwys i gael Taliad Costau Byw. Os nad ydych yn fodlon â hyn gallwch gysylltu â’r swyddfa sy’n talu eich budd-dal neu gredydau treth i’w drafod.

Taliad Costau Byw i’r Anabl

Efallai y gallwch gael taliad lwmp swm o £150 os oeddech yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Lwfans Gweini
  • Lwfans Gweini Cyson
  • Lwfans Byw i’r Anabl i oedolion
  • Lwfans Byw i’r Anabl i blant
  • Taliad Annibyniaeth Personol
  • Taliad Anabledd Oedolion (yn yr Alban)
  • Taliad Anabledd Plant (yn yr Alban)
  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog
  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Cymhwysedd

Mae’n rhaid eich bod wedi cael taliad (neu wedi cael taliad yn ddiweddarach) o un o’r budd-daliadau cymhwyso hyn ar gyfer 25 Mai 2022 i gael y taliad.

Os oeddech yn cael budd-dal anabledd cymwys gan y Weinyddiaeth Amddiffyn (MOD) a budd-dal anabledd cymwys gan DWP, byddwch yn cael Taliad Costau Byw i’r Anabl gan DWP yn unig.

Os ydych yn derbyn Taliad Costau Byw i’r Anabl, ond y byddwn yn canfod yn ddiweddarach nad oeddech yn gymwys i’w gael, efallai y bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Dyddiadau taliadau 2022 am fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth

Cafodd y rhan fwyaf o bobl ei dalu’r Taliad Costau Byw i’r Anabl £150 rhwng 20 Medi 2022 a dechrau mis Hydref 2022.

Bydd taliadau’n cael eu gwneud i bobl a oedd yn cael budd-dal anabledd cymhwyso gan DWP cyn taliadau i bobl a oedd yn cael budd-dal cymwys gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Rhoi gwybod am Daliad Costau Byw sydd ar goll

Dylai’r rhan fwyaf o bobl fod wedi cael eu Taliad Costau Byw 2022.

Cysylltwch â’r swyddfa sy’n talu’ch budd-dal neu gredydau treth os ydych yn credu y dylech fod wedi cael un o’r taliadau canlynol ond ni allwch ei weld yn eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd:

  • £326 neu £324 Taliad Costau Byw am fudd-dal incwm isel neu gredydau treth
  • £150 Taliad Cost Byw i’r Anabl

Taliad Costau Byw i Bensiynwyr

Os ydych yn gymwys i Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2022 i 2023, byddwch yn cael £150 neu £300 ychwanegol gyda’ch taliad arferol o fis Tachwedd 2022. Mae hwn yn ychwanegol i unrhyw Daliad Costau Byw rydych yn cael gyda’ch budd-dal neu gredydau treth.

Mae’r swm llawn o’r Taliad Tanwydd Gaeaf y byddwch yn ei gael am aeaf 2022 i 2023 yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Mae’r symiau hyn ar gyfer gaeaf 2022 i 2023 yn unig.

Help arall

Darganfyddwch pa fudd-daliadau eraill a chymorth ariannol y gallech eu cael i helpu gyda’ch costau byw.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i gael gwybod pa fudd-daliadau y gallech eu cael.

Efallai y gallwch gael mathau eraill o gymorth, gan gynnwys:

Cyhoeddwyd ar 26 May 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 January 2023 + show all updates
  1. Added link to information about Cost of Living Payments during 2023 and 2024.

  2. Updated for people to report a missing Cost of Living Payment of £324 if they get Universal Credit, income-based Jobseeker’s Allowance (JSA), income-related Employment and Support Allowance (ESA), Income Support or Pension Credit. Clarified that the Pensioner Cost of Living Payment will be £150 or £300, depending on your circumstances.

  3. Clarified that you will not be eligible for the Cost of Living Payment if your Universal Credit is reduced to £0 for the qualifying assessment period. This is sometimes called a ‘nil award’. Reasons your Universal Credit may be reduced to £0 for an assessment period include getting more than one payment of earnings, your or your partner’s earnings go up, your or your partner’s savings go up, you start getting another benefit.

  4. The second Cost of Living Payment of £324 for people on tax credits will be paid between 23 and 30 November 2022 for most people.

  5. Published the qualifying dates and payment dates for the second Cost of Living Payment of £324 for people on low income benefits and tax credits.

  6. Updated guidance to enable people to report a missing £150 Disability Cost of Living Payment if they cannot see it in their bank, building society or credit union account.

  7. Tax credits claimants can now let HMRC know if they think they should have had the £326 Cost of Living Payment, but cannot see it in their bank, building society or credit union account,

  8. Updated guidance to explain you’ll be paid the £150 Disability Cost of Living Payment automatically from 20 September 2022. Most people will receive their payment by the beginning of October 2022.

  9. Updated the table showing when you'll be paid to say that most people getting tax credits will be paid the first Cost of Living Payment of £326 between 2 and 7 September 2022.

  10. Clarified that for tax credits claimants to get the first Cost of Living Payment of £326, they must have been entitled, or later found to be entitled, to tax credits for any day in the period 26 April 2022 to 25 May 2022, rather than they received a payment between those dates.

  11. [1] Updated the table showing when you'll be paid to say that most tax credits claimants will get the first Cost of Living Payment of £326 in September 2022. [2] Added that if you receive a Cost of Living Payment, but are later found not to be eligible for it, you may have to pay it back.

  12. Added link to online form to report a missing Cost of Living Payment for Universal Credit, income-based Jobseeker’s Allowance, income-related Employment and Support Allowance, Income Support or Pension Credit.

  13. Added a warning about scams - you do not need to apply and you’ll be paid automatically. Added clarification about payments for joint claims.

  14. Added a table to show the amount of the Cost of Living Payment you'll get and when you'll be paid if you are on a low income benefit from DWP or tax credits from HMRC. Made other amendments to improve clarity.

  15. Added that DWP is using a computer program to identify who should be paid and what to do if you disagree with this.

  16. Find out what other benefits and financial support you might be able to get to help with your living costs.

  17. Clarified the Winter Fuel Payment amounts if you live with someone and either of you gets certain benefits.

  18. Added that if you're on a low income benefit from DWP, most of the first Cost of Living Payments of £326 will be made between 14 July 2022 and the end of July 2022.

  19. Updated the guidance to to clarify qualifying dates, payment dates, how the payments will be made and how the payments to people on low income benefits and tax credit will be split.

  20. In the sections on low income benefits and tax credits, clarified when you will not get a Cost of Living Payment. Added how much Winter Fuel payment you could get for winter 2022 to 2023.

  21. First published.