Canllawiau

Taliadau Costau Byw 2023 i 2024

Canllawiau ar gael taliadau ychwanegol i helpu gyda chostau byw os oes gennych hawl i fudd-daliadau penodol neu gredydau treth.

Applies to England, Scotland and Wales

Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru pan fydd mwy o wybodaeth ar gael. Gwiriwch am ddiweddariadau neu gofrestrwch am rybuddion e-bost.

Efallai y byddwch yn gallu cael hyd at 5 taliad i helpu gyda chostau byw os ydych yn cael budd-daliadau penodol neu gredydau treth.

Nid oes angen i chi wneud cais. Os ydych yn gymwys, byddwch yn cael eich talu’n awtomatig yn yr un ffordd ag y byddwch fel arfer yn cael eich budd-dal neu gredydau treth. Mae hyn yn cynnwys os canfyddir eich bod yn gymwys yn ddiweddarach .

Os ydych wedi cael neges yn gofyn i chi wneud cais neu gysylltu â rhywun am y taliad, gallai hyn fod yn sgam.

Nid yw’r taliadau hyn yn drethadwy ac ni fyddant yn effeithio ar y budd-daliadau na’r credydau treth a gewch.

Cymhwyster i Daliad Costau Byw i fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth

Efallai bod gennych hawl i gael hyd at 3 Taliad Costau Byw o £301, £300 a £299 os cewch unrhyw un o’r budd-daliadau neu’r credydau treth canlynol ar ddyddiadau penodol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm

  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seliedig ar incwm

  • Cymhorthdal Incwm

  • Credyd Pensiwn

  • Credyd Cynhwysol

  • Credyd Treth Plant

  • Credyd Treth Gwaith

Bydd y taliad yn cael ei wneud ar wahân i’ch budd-dal.

Ni chewch daliad os ydych ond yn cael ESA Dull Newydd, ESA yn seiliedig ar gyfraniadau, neu JSA Dull Newydd .

Os oes gennych gais ar y cyd ar y dyddiadau cymhwyso, bydd taliad sengl o £301, £300 a £299 yn cael ei anfon gan ddefnyddio’r un dull talu a ddefnyddir rhwng y dyddiadau hyn, os ydych yn gymwys.

Cymhwyster am y Taliad Costau Byw o £299

Credyd Cynhwysol

Rydych yn gymwys ar gyfer y Taliad Costau Byw o £299 os oedd gennych hawl i daliad (neu darganfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Gredyd Cynhwysol ar gyfer cyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod o 13 Tachwedd 2023 i 12 Rhagfyr 2023.

JSA yn seiliedig ar incwm, ESA yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn

Rydych yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw cyntaf o £299 os oedd gennych hawl i daliad (neu darganfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod o 13 Tachwedd 2023 i 12 Rhagfyr 2023.

Rydych hefyd yn gymwys os oes gennych hawl i un o’r budd-daliadau hyn am unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod hwn ond nid ydych yn derbyn taliad budd-dal oherwydd bod eich hawl rhwng 1 geiniog a 9 ceiniog.

Credydau Treth

Rydych yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw cyntaf o £299 os cawsoch daliad o gredydau treth ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod o 13 Tachwedd 2023 i 12 Rhagfyr 2023, neu darganfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad am y cyfnod hwn.

Cymhwyster am y Taliad Costau Byw o £300

Credyd Cynhwysol

Rydych yn gymwys ar gyfer y Taliad Costau Byw o £300 os oedd gennych hawl i daliad (neu darganfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Gredyd Cynhwysol ar gyfer cyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod o 18 Awst 2023 i 17 Medi 2023.

JSA yn seiliedig ar incwm, ESA yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn

Rydych yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw cyntaf o £300 os oedd gennych hawl i daliad (neu darganfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod o 18 Awst 2023 i 17 Medi 2023.

Rydych hefyd yn gymwys os oes gennych hawl i un o’r budd-daliadau hyn am unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod hwn ond nid ydych yn derbyn taliad budd-dal oherwydd bod eich hawl rhwng 1 geiniog a 9 ceiniog.

Credydau Treth

Rydych yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw cyntaf o £300 os cawsoch daliad o gredydau treth ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod o 18 Awst 2023 i 17 Medi 2023, neu darganfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad am y cyfnod hwn.

Cymhwyster am y Taliad Costau Byw o £301

Credyd Cynhwysol

Rydych yn gymwys ar gyfer y Taliad Costau Byw cyntaf o £301 os oedd gennych hawl i daliad (neu darganfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Gredyd Cynhwysol ar gyfer cyfnod asesu a ddaeth i ben yn y cyfnod o 26 Ionawr 2023 i 25 Chwefror 2023.

JSA yn seiliedig ar incwm, ESA yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm a Chredyd Pensiwn

Rydych yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw cyntaf o £301 os oedd gennych hawl i daliad (neu darganfyddir yn ddiweddarach bod gennych hawl i daliad) o Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm neu Gredyd Pensiwn ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod o 26 Ionawr 2023 i 25 Chwefror 2023.

Rydych hefyd yn gymwys os oes gennych hawl i un o’r budd-daliadau hyn am unrhyw ddiwrnod yn ystod y cyfnod hwn ond nid ydych yn derbyn taliad budd-dal oherwydd bod eich hawl rhwng 1 geiniog a 9 ceiniog.

Credydau Treth

Rydych yn gymwys i gael y Taliad Costau Byw cyntaf o £301 os cawsoch daliad o gredydau treth ar gyfer unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod o 26 Ionawr 2023 i 25 Chwefror 2023, neu rydych wedi derbyn taliad yn ddiweddarach am unrhyw ddiwrnod yn y cyfnod hwnnw.

Pan na fyddwch yn gymwys: Budd-daliadau DWP

Ni fyddwch yn gymwys i gael taliad Costau Byw os bydd eich budd-dal yn cael ei ostwng i £0 am y cyfnod cymhwyso. Weithiau gelwir hyn yn ‘dim dyfarniad’.

Mae rhesymau y gellir lleihau eich budd-dal i £0 yn cynnwys:

  • cawsoch fwy nag un taliad o enillion yn eich cyfnod asesu Credyd Cynhwysol

  • aeth eich enillion neu enillion eich partner i fyny

  • aeth eich cynilion neu cynilion eich partner i fyny

  • fe wnaethoch chi ddechrau cael budd-dal arall

  • cawsoch ‘sancsiwn’ oherwydd na wnaethoch rywbeth y gwnaethoch gytuno yn eich ymrwymiad hawlydd

Efallai y byddwch yn dal i fod yn gymwys i gael taliad Costau Byw os yw’ch budd-dal yn cael ei ostwng i £0 ac mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • cymerwyd arian oddi ar eich budd-dal am resymau eraill, megis taliadau rhent i’ch landlord neu am arian sy’n ddyledus gennych

  • cawsoch daliad caledi oherwydd ni allech dalu am anghenion rent, gwresogi, bwyd neu anghenion hylendid

Pan na fyddwch yn gymwys:: credydau treth

Ni fyddwch yn gymwys i gael Taliad Costau Byw os bydd eich hawl i gredydau treth am y flwyddyn dreth o dan £26.

Dyddiadau talu ar gyfer Taliad Costau Byw i fudd-daliadau incwm isel a chredydau treth

Swm y taliad Eich budd-dal neu gredydau treth Dyddiadau talu
£301 Credyd Cynhwysol
JSA yn seiliedig ar incwm
ESA yn seiliedig ar incwm
Cymhorthdal Incwm
Credyd Pensiwn
Rhwng 25 Ebrill a 17 Mai 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£301 Credydau treth a dim budd-dal incwm isel arall Rhwng 2 Mai a 9 Mai 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£300 Credyd Cynhwysol
JSA yn seiliedig ar incwm
ESA yn seiliedig ar incwm
Cymhorthdal Incwm
Credyd Pensiwn
Rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£300 Credydau treth a dim budd-dal incwm isel arall Rhwng 10 Tachwedd a 19 Tachwedd 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
£299 Credyd Cynhwysol
JSA yn seiliedig ar incwm
ESA yn seiliedig ar incwm
Cymhorthdal Incwm
Credyd Pensiwn
Rhwng 6 Chwefror a 22 Chwefror 2024 i’r rhan fwyaf o bobl
£299 Credydau treth a dim budd-dal incwm isel arall Rhwng 16 Chwefror a 22 Chwefror 2024 i’r rhan fwyaf o bobl

Os ydych yn cael Credyd Treth Plant a Chredyd Treth Gwaith, byddwch yn derbyn Taliad Costau Byw am Gredyd Treth Plant yn unig, a fydd yn cael ei dalu gan CThEF.

Os ydych chi’n cael credydau treth gan CThEF a budd-dal incwm isel gan DWP, ni allwch gael Taliad Costau Byw gan CThEF a DWP. Fel arfer byddwch yn cael eich talu gan DWP yn unig.

Efallai y bydd eich taliad yn dod yn hwyrach, er enghraifft os ydych yn cael budd-dal cymwys yn ddiweddarach neu os byddwch yn newid y cyfrif y telir eich budd-dal neu gredydau treth iddo. Byddwch yn dal i gael y Taliad Costau Byw yn awtomatig.

Os ydych wedi derbyn Taliad Costau Byw, ond rydym yn ddiweddarach yn gweld nad oeddech yn gymwys i’w dderbyn, efallai y bydd yn rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Caiff y canllawiau hyn eu diweddaru gyda dyddiadau’r taliadau cyn i bob taliad ddechrau.

Cymhwyster am y Taliad Costau Byw i’r Anabl

Efallai y bydd gennych hawl i Daliad Costau Byw i’r Anabl o £150 os ydych yn cael unrhyw rai o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Gweini

  • Lwfans Gweini Cyson

  • Lwfans Byw i’r Anabl i oedolion

  • Lwfans Byw i’r Anabl i blant

  • Taliad Annibyniaeth Personol

  • Taliad Anabledd Oedolion (yn yr Alban)

  • Taliad Anabledd Plant (yn yr Alban)

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog

  • Atodiad Symudedd Pensiwn Rhyfel

Mae rhaid eich bod wedi cael taliad (neu’n cael taliad yn ddiweddarach) o un o’r budd-daliadau hyn ar gyfer 1 Ebrill 2023 i gael Taliad Costau Byw i’r Anabl.

Os oeddech yn cael budd-dal cymhwyso gan y Weinyddiaeth Amddiffyn a budd-dal cymhwyso gan DWP, byddwch yn cael Taliad Costau Byw i’r Anabl gan DWP yn unig.

Os ydych yn cael Taliad Costau Byw i’r Anabl, ond byddwn yn darganfod yn ddiweddarach nad oeddech yn gymwys i’w gael, efallai y bydd rhaid i chi ei dalu’n ôl.

Mae canllawiau ar Daliad Costau Byw i’r Anabl hefyd ar gael mewn fformat hawdd ei ddarllen. Taliad Anabledd Costau Byw hawdd i’w ddarllen (PDF, 2.45 MB, 8 pages)

Dyddiadau talu Taliad Costau Byw i’r Anabl

Cafodd y rhan fwyaf o bobl eu talu’r Taliad Costau Byw i’r Anabl o £150 yn awtomatig rhwng 20 Mehefin 2023 a 4 Gorffennaf 2023.

Gwnaed taliadau i bobl a oedd yn cael budd-dal anabledd cymhwyso gan yr Adran Gwaith a Phensiynau cyn taliadau i bobl a oedd yn cael budd-dal cymhwyso gan y Weinyddiaeth Amddiffyn.

Efallai y daw eich taliad yn ddiweddarach, er enghraifft os dyfernir budd-dal cymhwyso i chi yn ddiweddarach neu os byddwch yn newid y cyfrif y telir eich budd-dal iddo. Byddwch yn dal i gael Taliad Costau Byw yn awtomatig.

Darganfyddwch sut i roi gwybod am Daliad Costau Byw sydd ar goll

Dylai’r rhan fwyaf o bobl wedi cael eu Taliad Costau Byw o £301, £300 neu £299 neu Daliad Costau Byw i’r Anabl o £150 ar gyfer 2023 neu 2024.

Darganfyddwch sut i roi gwybod am Daliad Costau Byw sydd ar goll os ydych yn meddwl y dylech fod wedi cael un o’r taliadau canlynol ond ni allwch ei weld yn eich cyfrif banc, cymdeithas adeiladu neu undeb credyd:

  • £301 wedi’i dalu rhwng 25 Ebrill 2023 a 17 Mai 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
  • £300 wedi’i dalu rhwng 31 Hydref a 19 Tachwedd 2023 i’r rhan fwyaf o bobl
  • £299 wedi’i dalu rhwng 6 Chwefror a 22 Chwefror 2024 i’r rhan fwyaf o bobl
  • Taliad Costau Byw Anabledd o £150 wedi’i dalu rhwng 20 Mehefin a 4 Gorffennaf i’r rhan fwyaf o bobl

Taliad Costau Byw i Bensiynwyr

Os oes gennych hawl i Daliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2023 i 2024, byddwch yn cael £150 neu £300 ychwanegol wedi’i dalu gyda’ch taliad arferol o fis Tachwedd 2023.

Mae swm llawn y Taliad Tanwydd Gaeaf (gan gynnwys y Taliad Costau Byw i Bensiynwr) y byddwch yn ei gael ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 yn dibynnu ar bryd y cawsoch eich geni a’ch amgylchiadau yn ystod y dyddiadau cymhwyso.

Gallwch gael Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer gaeaf 2023 i 2024 os cawsoch eich geni cyn 25 Medi 1957.

Byddwch yn derbyn llythyr ym mis Hydref neu fis Tachwedd yn dweud wrthych faint o Daliad Tanwydd Gaeaf y byddwch yn ei gael os ydych yn gymwys

Taliadau Costau Byw 2022

Mae’r canllawiau hyn yn ymwneud â Thaliadau Costau Byw sy’n cael eu gwneud yn 2023 a 2024. Gallwch ddarllen am y Taliadau Cost Byw yn 2022 mewn canllawiau ar wahân.

Help arall

Darganfyddwch pa fudd-daliadau a chymorth ariannol eraill y gallech chi eu cael i helpu gyda’ch costau byw.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i ddarganfod pa fudd-daliadau y gallech eu cael.

Efallai y byddwch chi’n gallu cael mathau eraill o gefnogaeth, gan gynnwys:

Cyhoeddwyd ar 13 March 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 February 2024 + show all updates
  1. Added guidance on how to report a missing £299 Cost of Living Payment.

  2. Added the qualifying dates and payment dates for the £299 Cost of Living Payment for low income benefits and tax credits.

  3. If you were expecting a £300 Cost of Living Payment (paid between 31 October and 19 November 2023 for most people) and have not received it, you can now report it missing.

  4. Updated timings for the £299 Cost of Living Payment from 'spring 2024' to 'by spring 2024'.

  5. Added the qualifying dates and payment dates for the £300 Cost of Living Payment for low income benefits and tax credits.

  6. You can now report a missing Disability Cost of Living Payment by telephone.

  7. Added guidance on how to report a missing £150 Disability Cost of Living Payment.

  8. Added easy read guidance about the Disability Cost of Living Payment.

  9. Added the qualifying date and payment dates for the Disability Cost of Living Payment.

  10. Added link to report a missing £301 Cost of Living Payment for low income benefits and tax credits.

  11. Clarified that you will not get a Cost of Living Payment for a low income benefit if your benefit is reduced to £0 because you got a ‘sanction’ because you did not do something you agreed in your claimant commitment. But you may get a Cost of Living Payment if you had a 'hardship payment' because you got a 'sanction'.

  12. In the section about the Pensioner Cost of Living Payment, corrected the eligibility date for the Winter Fuel Payment. You can get a Winter Fuel Payment for winter 2023 to 2024 if you were born before 25 September 1957, not 24 September as the guidance previously said.

  13. The £301 Cost of Living Payment for people on tax credits and no other low income benefits will be paid between 2 and 9 May 2023 for most people.

  14. Published the eligibility dates and payment dates for the £301 Cost of Living Payment for people on a low income benefit.

  15. Added translation

  16. First published.