Canllawiau

Cadarnhau eich cyfrifoldebau treth pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded tacsi, trwydded hurio preifat neu drwydded fetel sgrap

Rhaid i chi gadarnhau eich bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau treth pan fyddwch yn gwneud cais am drwydded gyrrwr tacsi, trwydded gyrrwr hurio preifat, trwydded gweithredwr cerbyd hurio preifat neu drwydded deliwr metel sgrap am y tro cyntaf.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi gwblhau gwiriad treth os ydych yn gwneud cais am un o’r trwyddedi canlynol:

  • gyrrwr tacsi
  • gyrrwr hurio preifat
  • gweithredwr cerbyd hurio preifat (Cymru a Lloegr yn unig)
  • swyddfa archebu (yr Alban yn unig)
  • casglwr metel sgrap symudol (teithiol)
  • safle deliwr metel sgrap

Newidiodd y rheolau ar gyfer cwblhau gwiriad treth ar 4 Ebrill 2022 yng Nghymru a Lloegr, a bydd y rheolau ar gyfer yr Alban a Gogledd Iwerddon yn newid ar 2 Hydref 2023.

Mae’r rheolau newydd yn golygu os ydych yn unigolyn, yn gwmni neu’n unrhyw fath o bartneriaeth, mae’n rhaid i chi gadarnhau eich bod yn ymwybodol o’ch cyfrifoldebau treth os ydych yn gwneud cais am drwydded:

  • am y tro cyntaf
  • sydd yr un fath â’r un a oedd gennych ond nad yw wedi bod yn ddilys am flwyddyn neu fwy

Dylech ddilyn yr arweiniad ar gyfer sut i gwblhau gwiriad treth os ydych:

  • eisoes yn dal yr un math o drwydded ac mae’n dal i fod yn ddilys
  • yn dal yr un math o drwydded a ddaeth i ben lai na blwyddyn yn ôl

Gwirio rhwymedigaeth treth ar gyfer enillion masnach os nad ydych wedi’ch cofrestru gyda CThEF

Gwiriwch a oes rhaid i chi wneud y canlynol:

Os mai dim ond drwy TWE yr ydych yn talu treth, does dim rhaid i chi wirio’ch cofnodion. Dysgwch sut ydych yn talu Treth Incwm.

Mae’n rhaid i’ch gwybodaeth treth fod yn gyfredol

Ni fyddwch yn gallu cwblhau’r gwiriad treth os nad yw’r wybodaeth a rowch am eich materion treth yn cyfateb i’r wybodaeth yng nghofnodion CThEF.

Gallwch wirio bod eich manylion wedi’u diweddaru pan fyddwch yn cael Dynodydd Defnyddiwr (ID) Porth y Llywodraeth, neu drwy fewngofnodi i wasanaethau ar-lein CThEF.

Os oes angen diweddaru’r manylion, gallwch:

Cadarnhau eich bod yn deall eich cyfrifoldebau treth

Bydd eich cais awdurdod trwyddedu yn cynnwys adran a fydd yn cysylltu â chanllawiau CThEF ynghylch eich cyfrifoldebau treth.

Bydd angen i chi gadarnhau eich bod yn ymwybodol o’r arweiniad hyn.

Os ydych yn gwneud cais fel partner mewn partneriaeth, gallwch roi cadarnhad ar ran pob un o’r partneriaid.

Os nad ydych yn cadarnhau eich bod yn ymwybodol o’r canllawiau, ni fyddwch yn cael trwydded.

Cyhoeddwyd ar 10 January 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 September 2023 + show all updates
  1. Information about private hire vehicle operators has been updated.

  2. Guidance has been updated as rules that currently apply in England and Wales will also apply in Scotland and Northern Ireland from 2 October 2023.

  3. Added translation