Canllawiau

Hawlio Treth Incwm yn ôl pan fyddwch wedi rhoi’r gorau i weithio (P50)

Sut i hawlio ad-daliad yn ystod y flwyddyn dreth bresennol os nad ydych yn cael budd-daliadau trethadwy neu bensiwn gan eich cyflogwr, ac os nad ydych wedi dechrau swydd newydd (P50).

Mae’n bosibl y byddwch yn gallu hawlio Treth Incwm yn ôl os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio’n ddiweddar, er enghraifft os:

Ni allwch hawlio ad-daliad os ydych yn dal i fod wedi’ch cofrestru gydag asiantaeth gyflogaeth. Bydd yn rhaid i chi gysylltu â nhw i ofyn iddynt anfon eich tâl olaf a’ch manylion treth at CThEF.

Dysgwch ragor am Dreth Incwm a Lwfansau Personol.

Gwirio cyfanswm eich incwm, gan ei fod yn bosibl y bydd yn rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad yn lle llenwi’r ffurflen hon.

Cyn i chi ddechrau

  1. Gwirio eich bod wedi cael eich tâl olaf gan eich cyflogwr cyn gwneud cais am ad-daliad.

  2. Gwirio a ydych yn cael incwm trethadwy arall, neu fudd-daliadau trethadwy eraill, cyn diwedd y flwyddyn dreth — mae hyn hefyd yn cynnwys pensiwn gwaith gan eich cyn-gyflogwr.

  3. Gwirio a ydych yn cael pensiwn gwaith — gall eich darparwr pensiwn ad-dalu unrhyw swm sy’n ddyledus i chi.

  4. Gwirio a oes gennych Rhan 2 a Rhan 3 o’ch P45 — os nad ydynt gennych, bydd yn rhaid i chi esbonio pam.

Adegau pan na ddylech ddefnyddio’r ffurflen hon

Does dim rhaid i chi hawlio ar P50 os:

Os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio, a daeth eich tâl olaf i law cyn 5 Ebrill gallwch ddysgu sut i hawlio ad-daliad treth ar gyfer y flwyddyn dreth flaenorol.

Hawlio ar-lein

Y ffordd gyflymaf o wneud hawliad yw ar-lein. I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.

Hawlio nawr

Llenwch y ffurflen hon ar-lein os na allwch fewngofnodi

Gallwch ddefnyddio ein harweiniad rhyngweithiol. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Dechrau eich hawliad ar-lein.

  2. Argraffu’r ffurflen.

  3. Llofnodi’r datganiad.

  4. Anfon y ffurflen at CThEF.

Talu Wrth Ennill
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF
HMRC
BX9 1AS

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Unwaith i ni gael eich hawliad wedi’i gwblhau, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Gall ymateb gan CThEF gymryd 14 diwrnod i’ch cyrraedd. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwn i weld hynt eich hawliad.

Os nad oes gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, rhowch enw a chyfeiriad rhywun sydd ag un (rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo) er mwyn i ni allu anfon y taliad ato.

Byddwn yn anfon archeb talu atoch chi neu’ch enwebai.

Ni ellir gwneud ad-daliadau drwy gyfrwng Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr).

Cael gwybod pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF ynghylch ymholiad neu gais rydych wedi’i wneud.

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni os ydych wedi cael unrhyw incwm ers i chi adael eich cyflogaeth diwethaf.

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • cyfeirnod TWE y Cyflogwr — os yw hwnnw gennych
  • rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 — os nad ydynt gennych, bydd yn rhaid i chi esbonio pam
  • elw a wnaed o hunangyflogaeth yn ystod y flwyddyn dreth hon — os o gwbwl

Mae’ch P45 yn dangos faint o dreth rydych wedi’i thalu ar eich cyflog hyd yma yn ystod y flwyddyn dreth (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Bydd yn rhaid i chi gadarnhau os ydych wedi cael unrhyw un o’r canlynol:

  • pensiynau gan gyflogwr blaenorol
  • pensiynau gwasanaethau cyhoeddus
  • pensiynau y lluoedd arfog
  • blwydd-dal pensiwn personol
  • pensiynau bach a delir fel cyfandaliadau (cymudiad pitw)
  • Pensiwn y Wladwriaeth
  • budd-daliadau trethadwy ers 6 Ebrill o’r flwyddyn dreth bresennol

Dylech hefyd wirio a ydych wedi cael unrhyw incwm o’r canlynol:

  • eiddo
  • ymddiriedolaethau
  • comisiynau
  • cildyrnau
  • incwm tramor
  • elw a delir ar bolisïau yswiriant bywyd y DU
  • unrhyw incwm arall nad ydych wedi’i nodi ar y ffurflen
Cyhoeddwyd ar 13 July 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 October 2023 + show all updates
  1. The planned downtime for the print and post claim form that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.

  2. Due to planned downtime, the print and post claim form will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.

  3. Added translation