Canllawiau

Hawlio treth yn ôl ar ordaliad pensiwn a gyrchir yn hyblyg (P55)

Sut i hawlio ad-daliad yn y flwyddyn dreth gyfredol ar ordaliad treth pan fyddwch wedi cyrchu rhan o’ch cronfa bensiwn yn hyblyg.

Os ydych wedi talu gormod o Dreth Incwm ar daliad pensiwn a gyrchir yn hyblyg, gallwch hawlio ad-daliad os yw’r canlynol i gyd yn berthnasol:

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth, nid oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen hon. Gallwch wirio sut i wneud hawliad o dan gytundeb trethiant dwbl (yn Saesneg).

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen i ni wybod am yr incwm rydych yn disgwyl ei gael yn y flwyddyn dreth y cawsoch eich taliad pensiwn y mae modd ei gyrchu’n hyblyg (6 Ebrill i 5 Ebrill).

Dylech wneud y canlynol:

  • rhoi gwybod i ni am unrhyw incwm arall yr ydych yn disgwyl ei gael

  • defnyddio’r ffigurau wedi’u hamcangyfrif i ni os nad oes gennych y ffigurau terfynol

  • defnyddio rhifau cyfan, wedi eu talgrynnu i lawr i’r bunt agosaf

Byddwn yn cynnal gwiriadau ar ddiwedd y flwyddyn dreth, ac yn cysylltu â chi os yw’r swm yn wahanol.

Cadw unrhyw waith papur sy’n ymwneud â’ch hawliad nes ein bod wedi cwblhau’r gwiriadau hyn.

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad:

  • peidiwch â chynnwys incwm Hunanasesiad sydd wedi’i amcangyfrif yn yr hawliad hwn, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo’ch ad-daliad

  • bydd yn dal i fod yn rhaid i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy’n ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw’r amser i’w talu — gallwch ofyn i ni ddefnyddio’ch ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif

  • dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi’i gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf

  • rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach

Os oes gennych incwm Talu Wrth Ennill (TWE) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo’ch ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Hawlio ar-lein

I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth:

Dechrau nawr

Llenwch y ffurflen hon ar-lein os na allwch fewngofnodi

Gallwch ddefnyddio ein harweiniad rhyngweithiol. Mae’n rhaid i chi wneud y canlynol:

  1. Dechreuwch eich hawliad ar-lein.

  2. Argraffu’r ffurflen.

  3. Llofnodwch y datganiad.

  4. Anfon y ffurflen at CThEF.

Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein


Ffurflen P55

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.
  1. Argraffu’r ffurflen.

  2. Llenwch y ffurflen â llaw.

  3. Anfonwch y ffurflen at CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwn yn gyfrifo unrhyw ad-daliad y dylech ei gael. Byddwn yn gwneud yr ad-daliad trwy Daliadau Cyflymach i gyfrif banc yn eich enw chi neu eich enwebai.

Ar ddiwedd y flwyddyn dreth byddwn yn gwirio eto i sicrhau ein bod wedi ad-dalu’r swm cywir a byddwn yn cysylltu â chi os yw hyn yn wahanol.

Dysgwch pryd i ddisgwyl ymateb gan CThEF ynghylch ymholiad neu gais rydych wedi’i wneud.

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio

Ar gyfer y flwyddyn dreth rydych yn hawlio ar ei gyfer, bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • enw, cyfeiriad a chyfeirnod TWE eich cyflogwr — os ydych chi’n disgwyl cael incwm o gyflogaeth am dâl

  • enw, cyfeiriad a chyfeirnod TWE eich darparwr pensiwn

Ar gyfer yr un flwyddyn, bydd angen i chi roi gwybod i ni faint rydych yn disgwyl ei gael gan:

  • incwm o gyflogaeth

  • buddiannau trethadwy gan eich cyflogwr (yn Saesneg)

  • unrhyw incwm o bensiwn y DU

  • unrhyw gyfandaliadau taliadau pensiwn hyblyg

  • elw a wnaed o’ch hunangyflogaeth — os oes elw o gwbl

  • llog wedi’i drethu a heb ei drethu ar incwm o gynilion a buddsoddiadau yn y DU

  • budd-daliadau trethadwy’r wladwriaeth — megis Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Lwfans Gofalwr, Budd-dal Analluogrwydd, Lwfans Ceisio Gwaith, Pensiwn y Wladwriaeth

  • incwm o ddifidendau o gwmnïau yn y DU

  • unrhyw incwm arall — gan gynnwys eiddo, ymddiriedolaethau, comisiynau

  • Taliadau Rhodd Cymorth

  • unrhyw incwm arall

Os nad ydych yn siŵr beth yw swm y buddiant trethadwy y byddwch yn ei gael, gallwch ofyn i’ch cyflogwr am amcangyfrif o’r swm ar gyfer y flwyddyn dreth.

Os ydych yn berson hŷn ar incwm isel, gallwch ffonio’r elusen annibynnol, Tax Help for Older People (yn Saesneg) i gael cyngor am dreth yn rhad ac am ddim.

Cyhoeddwyd ar 20 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2024 + show all updates
  1. The P55 form has been updated for the 2023 to 2024 tax year.

  2. Information about if you can claim a refund has been amended to confirm the 3 requirements.

  3. The planned downtime for our interactive guidance that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.

  4. Due to planned downtime, our interactive guidance will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.

  5. Added translation