Canllawiau

Hawlio ad-daliad treth os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio ac wedi cyrchu’ch holl bensiwn yn hyblyg (P50Z)

Sut i hawlio ad-daliad yn ystod y flwyddyn dreth bresennol os ydych wedi rhoi’r gorau i weithio, wedi cyrchu’ch holl gronfa bensiwn yn hyblyg, a’i gwacáu, ac mae gennych P45 o’ch darparwr pensiwn.

Gallwch hawlio yn ôl y dreth sydd arnom i chi ar daliad pensiwn hyblyg diweddar (yn Saesneg) os ydych wedi gwacáu’ch cronfa bensiwn ac mae’r canlynol yn berthnasol:

  • rydych wedi rhoi’r gorau i weithio ac nid ydych yn disgwyl dychwelyd i’r gwaith

  • rydych wedi cyrchu’ch holl bensiwn yn hyblyg, ac mae gennych P45 o’ch darparwr pensiwn

  • nid ydych yn cael budd-dal trethadwy’r wladwriaeth

Gallwch hefyd hawlio os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych wedi ymddeol yn barhaol ac nid ydych yn cael pensiwn gan eich hen gyflogwr

  • rydych wedi dychwelyd i addysg amser llawn ac nid ydych yn cael unrhyw incwm

Cyn i chi ddechrau

Arhoswch 4 wythnos ar ôl i’r dyddiad y gwnaethoch roi’r gorau i weithio, neu’r dyddiad pan ddaeth eich pensiwn i ben, cyn anfon y ffurflen hon.

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU at ddibenion treth, nid oes angen i chi lenwi’r ffurflen hon. Gallwch wirio sut i wneud hawliad o dan gytundeb trethiant dwbl (yn Saesneg).

Adegau pan na ddylech ddefnyddio’r ffurflen hon

Peidiwch â llenwi’r ffurflen hon os yw’r canlynol yn wir:

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth:

  • peidiwch â chynnwys unrhyw incwm Hunanasesiad sydd wedi’i amcangyfrif yn eich hawliad, oni bai eich bod am i ni ei gynnwys wrth gyfrifo’ch ad-daliad

  • bydd dal angen i chi dalu unrhyw daliadau mantoli sy’n ddyledus, a thaliadau ar gyfrif pan ddaw’r amser i’w talu — gallwch ofyn i ni ddefnyddio’ch ad-daliad i ostwng eich taliadau ar gyfrif

  • dylech gynnwys unrhyw ad-daliad yr ydych wedi’i gael ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad nesaf

  • mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni pan nad oes angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad mwyach

Os oes gennych incwm Talu Wrth Ennill (TWE) ac incwm Hunanasesiad, ni fyddwn yn cynnwys incwm Hunanasesiad wrth gyfrifo’ch ad-daliad, oni bai eich bod yn gofyn i ni wneud hynny.

Hawlio ar-lein

Y ffordd gyflymaf o wneud hawliad yw ar-lein. I ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth:

Hawlio nawr

Llenwch y ffurflen hon ar-lein os na allwch fewngofnodi

I ddefnyddio’r ffurflen hon, bydd angen i chi:

  1. Dechrau eich hawliad ar-lein.

  2. Argraffu’r ffurflen.

  3. Llofnodi’r datganiad.

  4. Anfon y ffurflen drwy’r post i CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Os nad ydych am ddechrau eich hawliad ar-lein


Ffurflen P50Z

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

5 o dudalennau. Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar gyfer defnyddwyr technoleg gynorthwyol. wneud cais am fformat hygyrch.

  1. Argraffwch y ffurflen.

  2. Llenwch y ffurflen â llaw.

  3. Anfonwch y ffurflen drwy’r post i CThEF (mae’r cyfeiriad ar ddiwedd y ffurflen).

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Unwaith i ni gael eich hawliad wedi’i gwblhau, byddwn yn cadarnhau os yw ad-daliad yn ddyledus i chi. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom, byddwn yn cysylltu â chi.

Gall gymryd 14 diwrnod i gael ymateb. Peidiwch â chysylltu â ni yn ystod y cyfnod hwnnw i weld hynt eich hawliad.

Os nad oes gennych gyfrif banc neu gymdeithas adeiladu, rhowch enw a chyfeiriad rhywun sydd ag un (rhywun rydych chi’n ymddiried ynddo) er mwyn i ni allu anfon y taliad ato.

Byddwn yn anfon archeb talu atoch chi neu’ch enwebai.

Ni ellir gwneud ad-daliadau drwy gyfrwng Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr).

Yr wybodaeth sydd ei hangen arnoch er mwyn hawlio

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol

  • eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr — os yw hwnnw gennych

  • rhan 2 a rhan 3 o’ch P45 — os nad oes gennych hyn, bydd yn rhaid i chi esbonio pam (er enghraifft, efallai eich bod wedi ymddeol neu’n un o weision y Goron yn y DU a gyflogir dramor)

Bydd yn rhaid i chi gadarnhau’r canlynol hefyd:

  • swm y taliad pensiwn hyblyg, a swm y dreth a ddidynnir oddi arno

  • manylion unrhyw incwm rydych wedi’i gael ers i chi roi’r gorau i weithio, ac unrhyw dreth a dalwyd

  • manylion unrhyw fudd-daliadau trethadwy rydych wedi’u cael ers dechrau’r flwyddyn dreth

  • os oes gennych ran 2 a rhan 3 o’ch P45, swm y cyflog a gawsoch a’r dreth a dalwyd

  • eich manylion talu, neu fanylion talu eich enwebai, os oes ad-daliad yn ddyledus i chi

Cyhoeddwyd ar 29 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 October 2023 + show all updates
  1. The planned downtime for our interactive guidance that started at 2pm on Friday 6 October 2023 will now end at 3pm on Friday 13 October 2023. We apologise for any inconvenience this may cause.

  2. Due to planned downtime, our interactive guidance will be unavailable from 2pm on Friday 6 October 2023 to 10am on Tuesday 10 October 2023.

  3. Added translation

  4. Added translation