Hawlio grant drwy’r Cynllun Cymhorthdal Incwm Hunangyflogaeth
Dysgwch sut i hawlio’r grant os ydych yn hunangyflogedig neu’n aelod o bartneriaeth a bod coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnoch.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch hawliad ar neu cyn 30 Medi 2021.
Cyn i chi hawlio, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn bodloni’r holl feini prawf cymhwystra.
Yr hyn y bydd ei angen arnoch er mwyn hawlio
Mae’r pumed grant yn wahanol. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi roi dau ffigur trosiant pan gyflwynwch eich hawliad. Byddwn yn defnyddio’r rhain er mwyn cyfrifo faint y byddwch yn ei gael.
Nid oes angen ffigurau trosiant arnoch os gwnaethoch ddechrau masnachu yn 2019 i 2020 ac na wnaethoch fasnachu yn ystod yr holl flynyddoedd treth canlynol:
- 2018 i 2019
- 2017 i 2018
- 2016 i 2017
Gallwch ddysgu sut i gyfrifo’ch ffigurau trosiant.
Pan fyddwch yn hawlio, bydd hefyd angen y canlynol arnoch:
- eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer Hunanasesiad
- eich rhif Yswiriant Gwladol
- eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth
- eich manylion banc yn y DU, gan gynnwys rhif y cyfrif banc, y cod didoli, yr enw ar y cyfrif, a’r cyfeiriad sy’n gysylltiedig â’r cyfrif
Dylech ond rhoi manylion cyfrif banc sy’n gallu derbyn taliad Bacs. Mae’n bosibl y bydd angen i chi hefyd ateb cwestiynau am eich pasbort, eich trwydded yrru neu am wybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich ffeil credyd.
Os nad oes gennych rai o’r pethau hynny
Dysgwch sut i gael eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr neu rif Yswiriant Gwladol.
Os na allwch gofio’ch Dynodydd Defnyddiwr neu’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch geisio eu hadfer. Gallwch wneud hyn wrth gyflwyno’ch hawliad. Mae’n bosibl y bydd angen i chi ateb cwestiynau am eich pasbort, eich trwydded yrru neu am wybodaeth sy’n cael ei chadw ar eich ffeil credyd.
Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID) neu gyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth, gallwch greu un wrth gyflwyno’ch hawliad.
Sut i hawlio
Mae hawliadau ar gyfer y pumed grant bellach wedi cau. Y dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno hawliad oedd 30 Medi 2021.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’r hawliad eich hun. Peidiwch â gofyn i asiant nac ymgynghorydd treth hawlio ar eich rhan – bydd hyn yn sbarduno rhybudd o dwyll a fydd yn oedi’ch taliad.
Bydd CThEM yn gwirio hawliadau. Byddwn yn cymryd camau priodol i atal neu adennill taliadau ar gyfer hawliadau y canfyddir eu bod yn anonest neu’n anghywir. Os ydych yn gwybod nad ydych yn gymwys ar gyfer y grant, ac nad ydych yn rhoi gwybod i ni, efallai y bydd hefyd yn rhaid i chi dalu cosb.
Os bydd diwygiad i’ch Ffurflen Dreth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 yn gostwng swm y grant yr ydych yn gymwys i’w gael, bydd angen i chi roi gwybod i ni cyn pen 90 diwrnod. Efallai y bydd angen i chi ad-dalu’r grant cyfan, neu ran ohono.
Dychwelyd i’ch hawliad
Os oes angen i chi fynd yn ôl i’ch hawliad, gallwch wneud y canlynol:
-
gwirio statws eich taliad
-
diweddaru’ch manylion banc os ydym wedi gofyn i chi wneud hynny
-
gwirio faint a gawsoch ar gyfer grantiau blaenorol
-
gwirio a ydych o’r farn bod swm y grant yn rhy isel
Ar ôl i chi hawlio
Byddwn yn gwirio’ch hawliad ac yn talu’ch grant i’ch cyfrif banc cyn pen 6 diwrnod gwaith. Byddwn yn anfon e-bost atoch pan fydd eich taliad ar y ffordd.
Peidiwch â chysylltu â ni oni bai bod mwy na 10 diwrnod gwaith wedi mynd heibio ers i chi gyflwyno’ch hawliad, a’ch bod heb gael eich taliad yn ystod y cyfnod hwnnw.
Os bydd eich busnes yn cryfhau eto ar ôl i chi hawlio, ni fydd hyn yn effeithio ar eich cymhwystra gan fod hyn yn seiliedig ar eich barn resymol y byddai’ch elw masnachu wedi gostwng yn sylweddol ar yr adeg y gwnaethoch gyflwyno’ch hawliad. Mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth i ategu hyn.
Mae’n rhaid i chi roi gwybod i CThEM os yw’r canlynol yn wir:
- gwnaethoch gyflwyno hawliad drwy gamgymeriad gan nad oeddech yn gymwys i gael grant
- gwnaethoch gamgymeriad wrth roi gwybod am eich trosiant yn eich hawliad sy’n golygu bod gennych hawl i gael grant is nag a gawsoch
- gwnaethoch sylweddoli yn ddiweddarach y dylech fod wedi nodi ffigur trosiant gwahanol yn eich hawliad sy’n golygu bod gennych hawl i grant is na’r hyn a gawsoch
- gwnaethoch ddiwygio unrhyw un o’ch Ffurflenni Treth ar neu ar ôl 3 Mawrth 2021 sy’n golygu nid ydych yn gymwys mwyach neu mae gennych yr hawl i grant sy’n is na’r hyn a gawsoch
- hoffech wneud ad-daliad gwirfoddol
Dysgwch sut i roi gwybod i CThEM a thalu rhywfaint neu’r cyfan o’r grant yn ôl.
Os ydych yn sylweddoli’ch bod wedi gwneud camgymeriad wrth roi gwybod am eich trosiant yn eich hawliad ac yn meddwl y dylech fod wedi cael swm grant uwch, bydd angen i chi gysylltu â CThEM erbyn 30 Medi 2021.
Cofnodion y mae angen i chi eu cadw
Mae’n rhaid i chi gadw copi o’r holl gofnodion yn unol â gofynion cadw cofnodion hunangyflogaeth arferol, gan gynnwys:
- y swm a hawliwyd
- cyfeirnod yr hawliad am grant
Os ydych yn masnachu ar hyn o bryd ond yn wynebu llai o alw
Dylech gadw unrhyw dystiolaeth sy’n dangos bod eich busnes wedi wynebu llai o weithgarwch, gallu neu alw oherwydd coronafeirws ar yr adeg y gwnaethoch gyflwyno’ch hawliad, megis:
- cyfrifon busnes sy’n dangos gostyngiad mewn gweithgarwch o gymharu â blynyddoedd blaenorol
- cofnodion sy’n dangos bod llai o gontractau neu apwyntiadau, neu eu bod wedi’u canslo
- cofnod o ddyddiadau pan wnaethoch brofi llai o alw neu gapasiti oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth
Os yw’ch busnes yn methu â masnachu dros dro
Mae’n rhaid i chi gadw tystiolaeth os nad yw’ch busnes wedi gallu masnachu oherwydd coronafeirws, megis:
- cofnod o ddyddiadau pan fu’n rhaid i chi gau oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth
- gohebiaeth profi ac olrhain y GIG – os ydych wedi cael gwybod y dylech hunanynysu yn unol â chanllawiau’r GIG ac na allwch weithio gartref
- llythyr neu e-bost oddi wrth y GIG sy’n gofyn i chi ddilyn mesurau gwarchod
- canlyniadau prawf os ydych wedi cael diagnosis o goronafeirws
- llythyrau neu e-byst oddi wrth ysgol eich plentyn gyda gwybodaeth am gau’r ysgol neu leihau’r oriau agor
Cysylltu â CThEM
Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Fodd bynnag, gallwch gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.
Updates to this page
-
Claims for the fifth grant have now closed. The last date for making a claim was 30 September 2021.
-
The online service for the fifth grant is now available. Guidance on what to do after you have applied has also been updated.
-
This guidance has been updated with information about the fifth SEISS grant.
-
Claims for the fourth grant have now closed. The last date for making a claim was 1 June 2021.
-
The online service for the fourth grant is now available.
-
This guidance has been updated with information about the fourth SEISS grant.
-
Claims for the third grant have now closed. The last date for making a claim for the third grant was 29 January 2021. Details about the fourth grant will be announced on 3 March 2021.
-
Added translation
-
Added translation
-
The online service for the third grant is now available.
-
This page has been updated with the information for the third grant of the Self Employed Income Support Scheme.
-
The service is now closed for the Self-Employment Income Support Scheme. You can no longer make a claim for the second grant.
-
The Self-Employment Income Support Scheme claim service is now open.
-
Information about what to do if you were not eligible for the grant or have been overpaid has been added.
-
Updated to confirm that the online service for the first grant is closed.
-
Added translation
-
The scheme has now been extended. A second and final grant will be available when the scheme opens again in August 2020. If you’re eligible and want to claim the first grant you must make your claim on or before 13 July 2020.
-
First published.