Canllawiau

Cyfrifo’ch trosiant fel y gallwch hawlio’r pumed grant SEISS

Darganfyddwch y ffigurau trosiant y bydd eu hangen arnoch cyn i chi hawlio, ble i ddod o hyd iddynt a sut maen nhw’n effeithio ar swm eich grant.

This guidance was withdrawn on

Claims for the fifth SEISS grant have now closed. The last date for making a claim was 30 September 2021.

You can:

If you received a grant payment, you must report this on your tax return. Find out how to report SEISS grants.

Bydd yn rhaid i chi roi gwybod i ni am eich trosiant os gwnaethoch fasnachu yn 2019 i 2020 yn ogystal ag unrhyw un o’r blynyddoedd treth canlynol:

  • 2018 i 2019
  • 2017 i 2018
  • 2016 i 2017

Mae trosiant yn cynnwys y derbyniadau, y ffioedd, y gwerthiannau neu’r arian a enillwyd gan eich busnes neu a ddaeth i law eich busnes.

Cyn i chi hawlio

Mae’n rhaid:

  1. Cyfrifo’ch trosiant ar gyfer mis Ebrill 2020 i fis Ebrill 2021.

  2. Dewch o hyd i’ch trosiant o naill ai 2019 i 2020 neu 2018 i 2019 i’w ddefnyddio fel blwyddyn gyfeirio.

Bydd angen i chi gael y ddau ffigur yn barod pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad.

Sut i gyfrifo’ch trosiant ar gyfer mis Ebrill 2020 i Ebrill 2021

Mae’n rhaid i chi gyfrifo’ch trosiant am gyfnod o 12 mis, gan ddechrau ar unrhyw ddyddiad o 1 i 6 Ebrill 2020.

Gallwch ddefnyddio un o’r cyfnodau canlynol:

  • 1 Ebrill 2020 i 31 Mawrth 2021
  • 2 Ebrill 2020 i 1 Ebrill 2021
  • 3 Ebrill 2020 i 2 Ebrill 2021
  • 4 Ebrill 2020 i 3 Ebrill 2021
  • 5 Ebrill 2020 i 4 Ebrill 2021
  • 6 Ebrill 2020 i 5 Ebrill 2021

Dylech wirio bod eich ffigur yn gywir. Bydd CThEM yn gallu gwirio’ch ffigurau ar ôl i chi gyflwyno’ch Ffurflen Dreth ar gyfer y cyfnod hwn.

Mae’n rhaid i’ch ffigur gynnwys trosiant pob un o’ch busnesau.

Ble i ddod o hyd i’ch ffigurau trosiant

Gallwch wneud y canlynol:

  • cyfeirio’n ôl at eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer 2020 i 2021, os ydych wedi’i llenwi
  • gwirio’ch meddalwedd gyfrifyddu (os ydych yn defnyddio un)
  • mynd trwy’ch cofnodion cadw cyfrifon neu gofnodion taenlen sy’n cwmpasu’ch anfonebau hunangyflogaeth a’ch taliadau a ddaeth i law
  • gwirio’r cyfrif banc rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer eich busnes i roi cyfrif am arian sy’n dod i mewn gan gwsmeriaid
  • gofyn i’ch cyfrifydd neu ymgynghorydd treth (os oes gennych un)

Beth i beidio â’i gynnwys

Unrhyw beth a nodwyd fel unrhyw incwm arall ar eich Ffurflen Dreth. Ni ddylech ychwaith gynnwys unrhyw daliadau cymorth yn sgil coronafeirws (COVID-19), er enghraifft:

  • grantiau SEISS blaenorol
  • taliadau’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan
  • grantiau awdurdodau lleol neu weinyddiaethau datganoledig

Os gwnaethoch ddechrau neu roi’r gorau i fusnes yn 2020 i 2021

Dylech gynnwys y trosiant a ddaeth i law rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021, hyd yn oed os yw hyn yn cwmpasu llai na 12 mis.

Os oes gennych fwy nag un busnes fel unig fasnachwr

Mae’n rhaid i’ch ffigur gynnwys cyfanswm trosiant pob un o’ch busnesau. Mae hyn yn cynnwys unrhyw fusnes newydd a ddechreuoch rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021.

Os ydych yn is-gontractiwr o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)

Mae’n rhaid i’ch trosiant gynnwys symiau llawn eich anfonebau, cyn unrhyw ddidyniadau mae contractwyr wedi’u gwneud yn y maes ‘Didyniadau CIS’.

Os ydych yn aelod o bartneriaeth

Mae sut rydych yn cyfrifo’ch trosiant yn dibynnu ar ba pryd y dechreuoch fod yn rhan o’r bartneriaeth ac a oes gennych fusnesau eraill.

Os oeddech yn aelod o’r un bartneriaeth yn eich blwyddyn gyfeirio ac ym mis Ebrill 2020 i fis Ebrill 2021 ac nad oedd gennych unrhyw fusnesau eraill yn yr un o’r blynyddoedd hynny, bydd angen i chi gyfrifo a defnyddio cyfanswm trosiant y bartneriaeth.

Os oeddech yn aelod o’r un bartneriaeth ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020 ac yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021, a bod gennych hefyd fusnesau eraill ar unrhyw adeg yn y naill gyfnod neu’r llall, bydd angen i chi gyfrifo a chynnwys eich cyfran ganrannol o drosiant y bartneriaeth. Bydd hyn yr un fath â chanran yr elw a gymerwyd gennych o’r bartneriaeth yn eich blwyddyn gyfeirio, hyd yn oed pe bai canran eich cyfran elw wedi newid ar ôl eich blwyddyn gyfeirio. Dylech ychwanegu hyn at y trosiant o’ch busnesau eraill.

Os ymunoch â phartneriaeth rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021, bydd angen i chi gyfrifo’ch cyfran o drosiant y bartneriaeth. Bydd yr un ganran o’r elw ag y gwnaethoch ei chymryd o’r bartneriaeth yn y cyfnod o 12 mis, Ebrill 2020 i Ebrill 2021. Os oes gennych fusnesau eraill, dylech ychwanegu hyn at y trosiant o’ch busnesau eraill.

Os oes gennych incwm Lloyd’s

Os oes gennych incwm Lloyd’s yn ogystal ag incwm o fusnes arall, dylech ddefnyddio’r trosiant o’ch busnes arall.

Os mai dim ond incwm Lloyds’s sydd gennych cysylltwch â ni.

Dewch o hyd i drosiant blwyddyn flaenorol i’w ddefnyddio fel blwyddyn gyfeirio

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r trosiant a nodwyd yn eich Ffurflen Dreth 2019 i 2020 fel blwyddyn gyfeirio. Mae’n rhaid i’r ffigur:

  • bod yn seiliedig ar gyfnod o 12 mis
  • cynnwys cyfanswm y trosiant ar gyfer eich holl fusnesau

Nid oes rhaid i’ch cyfnod o 12 mis ddechrau ym mis Ebrill.

Os nad oedd 2019 i 2020 yn flwyddyn arferol i’ch busnes, gallwch ddefnyddio’r trosiant a nodwyd yn eich Ffurflen Dreth 2018 i 2019. Dylai’ch cofnodion ddangos ym mha ffordd nad oedd 2019 i 2020 yn flwyddyn arferol i chi. Er enghraifft, os yw’r canlynol yn wir:

  • roeddech ar absenoldeb gofalwyr, absenoldeb salwch tymor hir neu wedi cael plentyn newydd
  • gwnaethoch ddyletswyddau milwr wrth gefn
  • gwnaethoch golli contract mawr
  • rydych yn gymwys i gael y pumed grant ond ni wnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth 2019 i 2020

Dysgwch ragor o wybodaeth am sut mae’ch amgylchiadau yn effeithio ar eich cymhwystra.

Ble i ddod o hyd i’ch trosiant ar eich Ffurflen Dreth

Mae blwch ar gyfer trosiant ar eich Ffurflen Dreth. Os ydych yn cyflwyno Ffurflen Dreth bapur, mae’r blwch yn wahanol yn dibynnu ar ba adrannau Hunanasesiad rydych yn eu llenwi. Ar gyfer adran:

  • SA200 mae’n flwch 3.6
  • SA103S mae’n flwch 9
  • SA103F mae’n flwch 15
  • SA800 mae’n flwch 3.24 neu 3.29 (ar gyfer partneriaethau)

Gallwch ddod o hyd i Ffurflenni Treth blaenorol trwy wneud y canlynol:

  • mewngofnodi i’ch cyfrif treth personol i’w gweld ar-lein
  • gwirio’ch cofnodion busnes
  • gofyn i’ch cyfrifydd (os oes gennych un)

Dylech wirio bod y ffigur rydych yn ei ddefnyddio yn gywir cyn i chi gyflwyno’ch hawliad.

Os ydych o’r farn nad yw’n gywir, er enghraifft mae’n cynnwys incwm busnes arall, dylech sicrhau’ch bod yn defnyddio’r ffigur cywir wrth hawlio a diwygio’ch Ffurflen Dreth.

Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy’n hirach na 12 mis

Bydd angen i chi gyfrifo beth oedd eich trosiant 12 mis.

Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy’n fyrrach na 12 mis oherwydd i chi newid eich dyddiad cyfrifyddu

Bydd angen i chi gyfrifo beth oedd eich trosiant 12 mis.

Os gwnaethoch ddechrau neu roi’r gorau i fusnes yn eich blwyddyn gyfeirio

Dylech gynnwys y trosiant a ddaeth i law yn eich blwyddyn gyfeirio, hyd yn oed os yw hyn yn para llai na 12 mis.

Os oes gennych fwy nag un busnes fel unig fasnachwr

Mae’n rhaid i’ch ffigur gynnwys cyfanswm y trosiant ar gyfer eich holl fusnesau.

Os ydych yn is-gontractiwr o dan Gynllun y Diwydiant Adeiladu (CIS)

Mae’n rhaid i’ch trosiant gynnwys symiau llawn eich anfonebau, cyn unrhyw ddidyniadau mae contractwyr wedi’u gwneud yn y maes ‘Didyniadau CIS’.

Os ydych yn aelod o bartneriaeth

Mae sut rydych yn cyfrifo’ch trosiant yn dibynnu ar ba pryd yr oeddech yn y bartneriaeth ac a oes gennych fusnesau eraill. 

Os oeddech yn aelod o’r un bartneriaeth yn eich blwyddyn gyfeirio ac ym mis Ebrill 2020 i fis Ebrill 2021 ac nad oedd gennych unrhyw fusnesau eraill yn yr un o’r blynyddoedd hynny, bydd angen i chi gyfrifo a defnyddio cyfanswm trosiant y bartneriaeth ar gyfer y flwyddyn gyfeirio. 

Os oeddech yn aelod o’r un bartneriaeth ym mlwyddyn dreth 2019 i 2020, a bod gennych fusnesau eraill yn y flwyddyn honno neu yn y cyfnod rhwng mis Ebrill 2020 a mis Ebrill 2021, bydd angen i chi gyfrifo a chynnwys eich cyfran ganrannol o drosiant y bartneriaeth. Bydd hyn yr un peth â chanran yr elw a gymerwyd gennych o bob partneriaeth yn eich blwyddyn gyfeirio. Dylech ychwanegu hyn at eich trosiant o unrhyw fusnesau eraill.

Os oes gennych incwm Lloyd’s

Os oes gennych incwm Lloyd’s yn ogystal ag incwm o fusnes arall, dylech ddefnyddio’r trosiant o’r busnes arall.

Os mai dim ond incwm Lloyds’s sydd gennych yn 2018 i 2019 a 2019 i 2020 cysylltwch â ni.

Sut mae’ch trosiant yn effeithio ar swm eich grant

Pan fyddwch yn cyflwyno’ch hawliad, bydd y gwasanaeth ar-lein yn gofyn i chi am eich ffigurau trosiant ac yn eu cymharu ar eich rhan. Yna bydd y gwasanaeth hawlio yn rhoi gwybod i chi a allwch hawlio swm uwch neu is y grant.

Os yw’ch trosiant wedi gostwng 30% neu fwy

Bydd eich grant yn:

  • cael ei gyfrifo ar 80% o elw masnachu cyfartalog 3 mis
  • cael ei gyfyngu i £7,500

Os yw’ch trosiant wedi gostwng llai na 30%

Bydd eich grant yn:

  • cael ei gyfrifo ar 30% o elw masnachu cyfartalog 3 mis
  • cael ei gyfyngu i £2,850

Enghreifftiau

Mae enghreifftiau ar gyfer:

  • pan fyddwch yn cael y grant uwch

  • pan fyddwch yn cael y grant is

  • os nad oedd 2019 i 2020 yn flwyddyn arferol i’ch busnes

  • os oes gennych fwy nag un busnes

  • os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 12 mis

  • os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy’n fyrrach na 12 mis oherwydd i chi newid eich dyddiad cyfrifyddu

  • os ydych yn aelod o bartneriaeth a bod gennych fusnes arall hefyd

Pan fyddwch yn cael y grant uwch

Os oes gennych gyfanswm trosiant o:

  • £20,000 ar gyfer 2019 i 2020
  • £10,000 ar gyfer Ebrill 2020 i Ebrill 2021

Mae’ch trosiant ar gyfer Ebrill 2020 i Ebrill 2021 wedi gostwng 50% o’i gymharu â 2019 i 2020.

Byddwch yn cael swm uwch y grant sy’n werth 80% o elw masnachu cyfartalog 3 mis oherwydd bod eich trosiant i lawr 30% neu fwy.

Pan fyddwch yn cael y grant is

Os oes gennych gyfanswm trosiant o:

  • £20,000 ar gyfer 2019 i 2020
  • £16,000 ar gyfer Ebrill 2020 i Ebrill 2021

Mae’ch trosiant ar gyfer Ebrill 2020 i Ebrill 2021 wedi gostwng 20% o’i gymharu â 2019 i 2020. Byddwch yn cael swm is y grant sy’n werth 30% o elw masnachu cyfartalog 3 mis oherwydd bod eich trosiant wedi gostwng llai na 30%.

Os nad oedd 2019 i 2020 yn flwyddyn arferol i’ch busnes

Cawsoch drosiant is na’r arfer yn 2019 i 2020 oherwydd cyfnod hir o salwch. Cawsoch flwyddyn arferol o fasnachu yn 2018 i 2019 felly gallwch ddefnyddio 2018 i 2019 fel eich blwyddyn gyfeirio.

Blwyddyn Trosiant Gostyngiad o’i gymharu â 2020 i 2021
2018 i 2019 £36,000 75%
2019 i 2020 £12,000 25%
2020 i 2021 £9,000 Amh

Eich trosiant ar gyfer:

  • 2018 i 2019 oedd £36,000
  • 2020 i 2021 oedd £9,000

Mae trosiant eich busnes wedi gostwng 75% wrth gymharu trosiant o £36,000 rhwng 2018 a 2019 gyda throsiant o £9,000 rhwng 2020 a 2021.

Yn yr enghraifft hon, bydd gennych hawl i’r grant uwch gan fod eich trosiant wedi gostwng 75%.

Os oes gennych fwy nag un busnes

Eich trosiant yn 2019 i 2020 ar gyfer:

  • busnes A oedd £30,000
  • busnes B oedd £20,000

Adiwch nhw at ei gilydd am drosiant cyfun o £50,000. Cymharwch hyn â’ch trosiant cyfun o £25,000 yn 2020 i 2021, mae’ch trosiant wedi gostwng 50%.

Blwyddyn Trosiant Busnes A Trosiant Busnes B Cyfanswm y trosiant Gostyngiad o’i gymharu â 2020 i 2021
2019 i 2020 £30,000 £20,000 £50,000 50%
2020 i 2021 £20,000 £5,000 £25,000 Amh

Yn yr enghraifft hon, mae gennych hawl i hawlio’r grant uwch trwy gymharu trosiant 2020 i 2021 â 2019 i 2020 oherwydd bod cyfanswm eich trosiant wedi gostwng 50%.

Os yw’ch cyfnod cyfrifyddu yn hirach na 12 mis

Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu 15 mis a’ch bod wedi datgan trosiant o £45,000 ar eich Ffurflen Dreth 2019 i 2020. I gael eich trosiant 12 mis ar gyfer 2019 i 2020, gallwch wneud y canlynol:

  1. Rhannu’ch ffigur 15 mis â 15 i gael eich trosiant am 1 mis.

  2. Lluosi hyn â 12.

Blwyddyn Trosiant 15 mis Trosiant 1 mis Cyfanswm y trosiant am 12 mis
2019 i 2020 £45,000 £3,000 £36,000

Os nad yw’r dull yn yr enghraifft hon yn cynhyrchu canlyniad teg i chi, gallwch ddefnyddio dull rhesymol arall.

Os oes gennych gyfnod cyfrifyddu sy’n fyrrach na 12 mis oherwydd i chi newid eich dyddiad cyfrifyddu

Os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych gyfnod cyfrifyddu 8 mis a throsiant datganedig o £16,000 ar eich Ffurflen Dreth 2019 i 2020
  • cawsoch gyfnod cyfrifyddu 12 mis yn 2018 i 2019 a gwnaethoch ddatgan trosiant o £24,000

I gael eich trosiant 12 mis ar gyfer 2019 i 2020 byddai angen i chi wneud y canlynol:

  1. Cyfrifo 4-mis o drosiant o’ch Ffurflen Dreth 2018 i 2019 trwy rannu â 12 a lluosi â 4.

  2. Ychwanegu hyn at y trosiant 8 mis yn eich Ffurflen Dreth 2019 i 2020.

Blwyddyn Trosiant 8 mis Trosiant 4 mis (o 2018 i 2019) Cyfanswm y trosiant am 12 mis
2019 i 2020 £16,000 £8,000 £24,000

Os ydych yn aelod o bartneriaeth a bod hefyd gennych fusnes arall

Os yw’r canlynol yn wir:

  • rydych yn defnyddio 2019 i 2020 fel eich blwyddyn gyfeirio
  • rydych yn aelod o bartneriaeth ac wedi cymryd cyfran o 5% o’r elw yn 2019 i 2020
  • mae gennych fusnes arall fel unig fasnachwr

Mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Defnyddio’r un ganran, (yn yr enghraifft hon 5%) o’ch cyfran o’r elw yn 2019 i 2020 i gyfrifo’ch cyfran o drosiant y bartneriaeth yn y flwyddyn gyfeirio a 2020 i 2021.

  2. Adio’r rhain at eich trosiant unig fasnachwr yn y ddwy flynedd i gael cyfanswm y ffigurau trosiant.

Blwyddyn Cyfanswm trosiant y bartneriaeth Trosiant unig fasnachwr
2019 i 2020 £10,000 £20,000
2020 i 2021 £8,000 £5,000
Blwyddyn Cyfran 5% o drosiant y bartneriaeth Trosiant unig fasnachwr Cyfanswm trosiant
2019 i 2020 £500 £20,000 £20,500
2020 i 2021 £400 £5,000 £5,400

Byddwch yn defnyddio £20,500 ar gyfer 2019 i 2020 a £5,400 ar gyfer 2020 i 2021.

Cael help i gyfrifo’ch trosiant

Gallwch wylio fideos a chofrestru ar gyfer gweminarau rhad ac am ddim er mwyn dysgu rhagor am sut i gyfrifo’ch trosiant busnes.

Cysylltu â CThEM

Rydym yn derbyn nifer fawr iawn o alwadau ar hyn o bryd. Mae cysylltu â CThEM yn ddiangen yn peryglu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn ystod y cyfnod heriol hwn.

Gallwch gysylltu â CThEM os nad oes modd i chi gael yr help sydd ei angen arnoch ar-lein.

Cyhoeddwyd ar 6 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 August 2021 + show all updates
  1. New guidance for subcontractors under the Construction Industry Scheme added to sections 'How to work out your April 2020 to April 2021 turnover' and 'Find a previous year’s turnover to use as a reference year'. Edited 'If you're a member of a partnership' section under 'How to work out your April 2020 to April 2021 turnover' - if you joined a partnership between April 2020 and April 2021, you'll need to work out your percentage share of the partnership’s turnover.

  2. Guidance about working out your turnover for the fifth SEISS grant if you are a member of a partnership has been updated.

  3. Introduction edited to explain that you’ll need to tell HMRC about your turnover if you traded in 2019 to 2020 as well as any of the other tax years listed. The section 'How to work out your April 2020 to April 2021 turnover' has been updated with examples of start dates you can use.

  4. First published.