Canllawiau

Gwirio a ydy’r dreth ar eich slip cyflog yn gywir

Sut i wirio a ydych wedi talu’r swm cywir o dreth, os nad yw’ch cyflog yr hyn yr oeddech yn ei ddisgwyl.

I gyfrifo faint o Dreth Incwm sydd angen i chi ei dalu, mae’ch cyflogwr yn defnyddio’ch cod treth.

Mae’ch cod treth yn gyfuniad o rifau a llythrennau sy’n benodol i’ch incwm a’ch amgylchiadau. Os bydd eich cod treth yn newid, mae’n bosibl y bydd eich treth yn wahanol.

Mae’ch cyflogwr yn cymryd y dreth o’ch cyflog ac yn ei rhoi i CThEF. Dyma ffordd o dalu treth o’r enw TWE (Talu Wrth Ennill).

Adolygu’ch slip cyflog

Bob tro y cewch eich talu, dylech gael slip cyflog gan eich cyflogwr yn dangos: 

  • eich cod treth 

  • eich cyflog ‘gros’ — y cyfanswm cyn tynnu didyniadau

  • unrhyw ‘didyniadau’ — arian sy’n cael ei dynnu oddi ar eich cyflog, er enghraifft treth, cyfraniadau Yswiriant Gwladol, cyfraniadau pensiwn neu fenthyciadau myfyrwyr 

  • eich cyflog ‘net’ — y swm a gewch, ar ôl i’r didyniadau gael eu tynnu

Bydd angen eich cod treth, swm y dreth rydych wedi’i dalu a’ch cyflog gros arnoch i wirio a yw’r dreth yn gywir.

Cymharu’ch cod treth

I ddarganfod a yw’r dreth yn gywir, mae angen i chi wirio a yw’r cod treth ar eich slip cyflog yn cyd-fynd â’r un sydd gan CThEF ar eich cyfer.

  1. Dewch o hyd i’ch cod treth yn y gwasanaeth gwirio’ch Treth Incwm neu’r ap CThEF.

  2. Cymharwch y cod treth yn y gwasanaeth ar-lein neu’r ap â’r cod treth ar eich slip cyflog.

Os yw’r codau treth yn wahanol, siaradwch â’ch cyflogwr.

Os yw’r codau treth yr un peth, darganfyddwch beth yw ystyr eich cod treth.

Dysgu beth mae’ch cod treth yn ei olygu

Bydd angen i chi ddarganfod a yw’r cod treth a roddwyd i chi yn addas ar gyfer eich incwm a’ch amgylchiadau. I ddarganfod beth mae’ch cod treth yn ei olygu gallwch naill ai:

Os nad yw’r cod treth yn cyd-fynd â’ch amgylchiadau, mae’n bosibl eich bod ar y cod treth anghywir. Dysgwch beth i’w wneud os ydych yn meddwl bod eich cod treth yn anghywir.

Os yw’r cod treth yn cyd-fynd â’ch amgylchiadau, mae’n debygol o fod yn gywir — gwiriwch faint o dreth y dylech fod yn ei thalu.

Gwiriwch faint o dreth y dylech fod yn ei thalu

Mae angen i chi wirio a yw’ch cod treth wedi cael ei ddefnyddio i gyfrifo’ch treth yn gywir.

  1. Nodwch y cyflog gros a’r cod treth o’ch slip cyflog yn yr offeryn amcangyfrif eich treth ar gyfer y flwyddyn gyfredol (yn agor tudalen Saesneg).

  2. Cymharwch y canlyniad â’r dreth ar eich slip cyflog.

Os ydyn nhw’r un peth, mae’n debyg bod y dreth ar eich slip cyflog yn gywir. 

Os yw’r dreth ar eich slip cyflog yn wahanol, siaradwch â’ch cyflogwr.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 16 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 18 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Explained how to compare the tax code in HMRC's online service or app to the tax code on your payslip. Added information on using the estimate your tax for the current year tool to check how much tax you should be paying. Information about paperless tax code updates and using online services has been removed because it duplicates content from other guidance.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon