Newid eich manylion cofrestru TAW
Dysgwch sut i wneud newidiadau i’ch manylion cofrestru TAW gan ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein neu ddefnyddio ffurflen VAT484.
Newid eich manylion
Gallwch nawr ddefnyddio’ch cyfrif TAW ar-lein i newid y manylion hyn:
- manylion cyswllt y busnes
- manylion banc — os ydych yn cofrestru newid o ran manylion banc partneriaeth, dylech hefyd lenwi ffurflen VAT 2 ‘Manylion partneriaeth’
- dyddiadau cau ar gyfer Ffurflenni TAW
I wneud hyn:
-
Mewngofnodwch i’ch cyfrif treth busnes.
-
Dewiswch ‘Your VAT account’ yna ‘Manage your VAT’.
-
Yna dewiswch ‘Your business details’ a byddwch yn gweld opsiwn i olygu pob maes.
Gallwch ddarllen rhagor o wybodaeth am newid eich manylion cofrestru TAW.
Newid enw’ch busnes
Os oes gennych Rif Cofrestru’r Cwmni (CRN) mae’n rhaid i chi ddweud wrth Dŷ’r Cwmnïau os yw enw’ch busnes wedi newid.
Byddwn yn cael gwybod am enw newydd eich busnes gan Dŷ’r Cwmnïau. Bydd i’w weld ar eich cyfrif treth busnes (BTA) cyn pen 15 diwrnod gwaith.
Os byddwch yn cymryd drosodd gyfrifoldebau TAW rhywun arall
Mae’n rhaid i chi ddefnyddio ffurflen VAT484 i roi gwybod i CThEF cyn pen 21 diwrnod os byddwch yn cymryd drosodd gyfrifoldebau TAW rhywun sydd wedi marw neu sy’n sâl ac nad yw’n gallu rheoli ei faterion ei hun.
Mae’n rhaid i chi gynnwys manylion dyddiad y farwolaeth neu’r dyddiad y dechreuodd y salwch.
Os na allwch newid eich manylion ar-lein
Os na allwch newid eich manylion ar-lein, gallwch ddefnyddio ffurflen VAT484 i wneud hynny.
Bydd ymatebion drwy’r post yn cymryd mwy o amser i’w prosesu na newid eich manylion ar-lein.
Mae angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwythwch y ffurflen
a’i chadw ar eich cyfrifiadur. -
Argraffwch a llenwch y ffurflen.
-
Anfonwch y ffurflen at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad ar y ffurflen.
Mae’n bosibl nad yw’r ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol — megis darllenydd sgrin.
Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio.
Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn Saesneg).
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 April 2024 + show all updates
-
Further information added to instruct users to also use form VAT 2 when registering a change in partnership bank details.
-
A new section has been added with information on changing your business name.
-
The page has been updated to explain how to use your VAT online account to make changes to your VAT registration.
-
Welsh translation added.
-
First published.