Canllawiau

Cael a defnyddio labeli cod bar

Yr hyn mae'n rhaid i geidwaid gwartheg ei wneud â'r labeli cod bar sy’n cael eu hanfon gan Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP) a sut i gael rhagor os byddwch chi'n rhedeg allan.

Applies to England and Wales

Mae labeli cod bar yn cael eu hanfon atoch chi pan fyddwch chi’n cofrestru fel ceidwad gwartheg gyda GSGP. Maen nhw hefyd yn cael eu galw’n labeli cyfeiriad daliad.

Maen nhw’n caniatáu i GSGP adnabod eich rhif daliad (CPH) (tudalen gwe yn Saesneg) ac yn cynnwys eich enw a’ch cyfeiriad.

Ble i ddefnyddio labeli cod bar

Gludwch label yn yr adran ‘i’w gwblhau gan geidwad ar dderbyn pasbort’:

  • pan gewch chi basport gwartheg
  • pan fydd gwartheg yn symud i’ch daliad

Gludwch label cod bar yn yr adran ‘manylion y farwolaeth’ a dychwelwch y pasbort i GSGP pan fyddwch chi:

Os oes gennych chi basbortau hŷn tebyg i lyfr sieciau

Bydd angen ichi ludo label cod bar i mewn i gardiau symud.

Cael rhagor o labeli cod bar

Dim ond os ydych chi wedi cofrestru fel ceidwad gwartheg gyda GSGP y cewch chi ofyn am ragor o labeli cod bar.

Cysylltwch â GSGP i gael rhagor o labeli cod bar am ddim. Bydd angen ichi roi’ch rhif daliad (tudalen gwe yn Saesneg).

Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
Ffôn (Cymru): 0345 050 3456
Ffôn (Lloegr): 0345 050 1234
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8:30am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau
Ebost: bcmsenquiries@rpa.gov.uk

Os yw’n well gennych, gallwch anfon neges i GSGP yn eich cyfrif System Olrhain Gwartheg (SOG) Ar-lein (tudalen gwe yn Saesneg).

Beth arall mae’n rhaid ichi ei wneud

Mae yna reolau mae’n rhaid ichi eu dilyn a chamau mae’n rhaid ichi eu cymryd os ydych chi’n cadw gwartheg, buail neu fyfflos. Darllenwch y canllawiau ynghylch yr hyn mae’n rhaid ichi ei wneud wrth symud gwartheg a’r rheolau eraill ar gadw gwartheg.

Cyhoeddwyd ar 6 May 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 28 June 2023 + show all updates
  1. Added translation

  2. Clarified where to use barcode labels and what they’re used for. Added where to get more information on the rules and actions you must take if you keep cattle, bison or buffalo.

  3. This guidance has been updated to show it no longer applies to Scotland.

  4. Updated option for requesting barcodes using the automated service

  5. First published.