Canllawiau

Bristol Prison

Bristol Prison is a men’s prison in the Horfield area of Bristol.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â charchar Bryste

I ymweld â rhywun yng Ngharchar Bryste, rhaid i chi:

  • fod ar restr ymwelwyr y person hwnnw
  • bwcio eich ymweliad o leiaf 2 ddiwrnod gwaith ymlaen llaw
  • cael yr ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Rhaid i o leiaf un ymwelydd fod yn 18 oed neu’n hŷn ar bob ymweliad.

Gall carcharorion sydd ar remánd gael hyd at 3 ymweliad yr wythnos. Gall carcharorion sydd wedi cael eu dyfarnu’n euog (wedi’u dedfrydu neu’n aros i gael eu dedfrydu) gael hyd at 3 ymweliad y mis.

Cysylltwch â Charchar Bryste os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych chi dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Garchar Bryste
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

Gallwch drefnu eich ymweliad ar-lein neu dros y ffôn.

Rhif ffôn 0300 060 6510

Gwybodaeth am gost galwadau

Mae modd bwcio dros y ffôn:

  • O ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 3pm

Mae modd trefnu ymweliadau ar ddiwrnodau penodol ar gyfer:

  • y brif boblogaeth
  • carcharorion agored i niwed

Ffoniwch y rhif i gael gwybod pa bryd mae’r ymweliadau hyn.

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Llun, dim ymweliadau
  • Dydd Mawrth, rhwng 2pm a 4pm
  • Dydd Mercher, rhwng 2pm a 4pm
  • Dydd Iau, dim ymweliadau
  • Dydd Gwener, rhwng 2pm a 4pm
  • Dydd Sadwrn, rhwng 2pm a 4pm
  • Dydd Sul, rhwng 2pm a 4pm

Sut i drefnu ymweliadau swyddogol

I drefnu ymweliad swyddogol, gallwch:

Mae rhywun yn monitro’r llinell ffôn a’r blwch e-bost o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 8am a 5pm (heblaw am wyliau banc).

Gwybodaeth am gost galwadau

Ceisiwch drefnu ymweliadau ymlaen llawn mor gynnar â phosib. Wrth wneud cais, rhowch enw a rhif y carcharor (lle bo hynny’n bosibl). Gallwch wneud cais am sawl dyddiad ac amser o’ch dewis. Rydym yn argymell yn gryf eich bod yn rhoi o leiaf wythnos o rybudd.

Amseroedd ymweld swyddogol dros fideo:

  • Dydd Llun i Ddydd Sadwrn, rhwng 9am a hanner dydd a 2pm i 4pm
  • dim ymweliadau ar wyliau banc

Amseroedd ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:

  • Dydd Llun i Ddydd Gwener, rhwng 9am a hanner dydd a 2pm i 4pm
  • dim ymweliadau ar wyliau banc

Cyrraedd Carchar Bryste

Dod o hyd i Garchar Bryste ar fap

Y gorsafoedd rheilffordd agosaf yw Bryste Temple Meads a Bryste Parkway, lle gallwch gysylltu â gwasanaethau bws lleol. Mae’r holl fysiau sydd wedi’u rhifo rhwng 70 a 79 yn pasio’r carchar ac mae modd eu dal o’r orsaf fysiau ganolog.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Os byddwch yn dod mewn car, bydd angen i chi barcio ar y ffyrdd lleol gan nad oes lle parcio i ymwelwyr yn y carchar. Mae lle parcio ar gyfer deiliaid Bathodyn Glas ar y brif ffordd gyferbyn â mynedfa’r carchar.

Dod i Mewn i Garchar Bryste

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID ar gyfer pob ymwelydd.

Bydd angen i bob ymwelydd, gan gynnwys plant, gael archwiliad ‘patio i lawr’. Mae’n bosibl y bydd cŵn diogelwch yn eich arogli hefyd.

Dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Efallai y cewch eich troi i ffwrdd os ydych yn gwisgo eitemau fel dillad sy’n dangos gormod o gnawd neu ddillad gyda sloganau sarhaus. Holwch yn y ganolfan ymwelwyr os oes gennych chi gwestiynau am wisg briodol.

Caniateir i bob grŵp o ymwelwyr ddod â dim mwy na £50 i brynu bwyd a diod o’r bar bwyd yn y neuadd ymweld.

Mae rheolau llym ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Garchar Bryste. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych ar ôl. Mae loceri ar gael yn y ganolfan ymwelwyr. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Bydd swyddog yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cyfleusterau ymweld

Mae yna ganolfan ymwelwyr sy’n cael ei gynnal gan Ymddiriedolaeth Cyngor a Gofal Carchardai (PACT). Gall teulu a ffrindiau ymlacio, prynu rhywbeth i’w fwyta neu yfed, a chael cyngor a chymorth gan y staff.

Mae ar agor o hanner dydd ar ddiwrnodau ymweld.

Ffôn: 0117 924 4866
Gwybodaeth am gost galwadau

Mae’r neuadd ymweld yn cynnwys man chwarae i blant a chownter bwyd.

Mynediad i bobl anabl

Mae lifft grisiau ar gael i bobl sydd ag anghenion symudedd. Os nad ydych chi’n gallu defnyddio lifft grisiau, ffoniwch y llinell ymweliadau er mwyn i ni wneud trefniadau eraill.

Diwrnodau teulu

Mae diwrnodau teulu yn cael eu cynnal yn CEF Bryste gan wasanaethau cymorth i deuluoedd Pact, ac mae’r rhain yn cael eu trefnu ar wahanol adegau drwy gydol y flwyddyn galendr.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yng Ngharchar Bryste

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yng Ngharchar Bryste.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho’r ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Darllenwch fwy am sut mae’r ap Prison Video yn gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan bob carcharor ffôn yn eu celloedd y gallan nhw ei ddefnyddio ar unrhyw adeg. Nid yw’r ffonau’n derbyn galwadau sy’n dod i mewn, felly bydd yn rhaid i’r carcharor eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddyn nhw brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallan nhw ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon ar ôl iddyn nhw gyrraedd, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallan nhw ffonio.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yng Ngharchar Bryste drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Efallai y byddwch hefyd yn gallu atodi lluniau a derbyn ymatebion, yn dibynnu ar y rheolau yng Ngharchar Bryste.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu llythyr ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod rhif y carcharor, cysylltwch â Charchar Bryste.

Bydd pob llythyr drwy’r post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Bellach, allwch chi ddim anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych yn gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Gall ffrindiau a theulu gyflwyno’r eitemau canlynol cyn ymweld:

  • dillad isaf, sanau a dillad llys (crysau, trowsusau, esgidiau, teis a siacedi)
  • llyfrau (dim llyfrau posau na chylchgronau)

Mae hefyd yn bosibl anfon yr eitemau hyn a mathau eraill o ddillad ac esgidiau drwy’r post. Ar gyfer hyn, bydd angen taleb eiddo arnoch y mae’n rhaid i’r carcharor wneud cais amdani a’i hanfon atoch drwy’r post. Rhowch y daleb ar eich parsel cyn ei hanfon i mewn.

Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr archeb. Byddan nhw’n cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion. Ar gyfer dillad llys, dylech ganiatáu o leiaf 5 diwrnod i’r parsel gael ei archwilio a chyrraedd y carcharor.

Gwrthodir unrhyw barseli heb daleb eiddo neu rai sy’n edrych fel pe bai rhywun wedi ymyrryd â nhw.

Gall carcharorion brynu amrywiaeth o eitemau iddyn nhw eu hunain o’r ffreutur a thrwy system gatalog.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallan nhw archebu llyfrau gan siopau cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o siopau cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau llyfrgell ac addysg mewn carchardai, Atodiad A.

Cysylltwch â Charchar Bryste am ragor o wybodaeth am roddion a pharseli.

Bywyd yng Ngharchar Bryste

Mae Carchar Bryste wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel a chefnogol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob unigolyn yng Ngharchar Bryste hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud os ydych chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan y llinell gymorth ar gyfer teuluoedd carcharorion, Prisoners’ Families Helpline.

Gall carcharorion hefyd gael eu hyfforddi gan y Samariaid i fod yn ‘wrandawyr’ i helpu i gefnogi pobl sy’n mynd drwy gyfnodau anodd.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Carchar Bryste am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. (Mewn rhai amgylchiadau, gellir gwneud galwad ar ei ran.) Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen nhw’n cyrraedd.

Byddan nhw hefyd yn cael cyfle i siarad â rhywun i weld sut maen nhw’n teimlo ac i holi am unrhyw anghenion iechyd a lles sydd ganddyn nhw ar y pryd.

Os oes gan y carcharor arian parod pan fydd yn cyrraedd, bydd yn cael cyfle i brynu eitemau o’r ffreutur ac ychwanegu arian at ei gyfrif ffôn.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Carchar Bryste yn cael sesiwn gynefino sy’n para tua wythnos. Byddan nhw’n cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd

Byddan nhw hefyd yn cael sesiwn gynefino yn y gampfa er mwyn gallu defnyddio cyfleusterau’r gampfa yn ddiogel.

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae tua 500 o garcharorion yng Ngharchar Bryste ar draws 5 adain. Mae gan un adain gelloedd unigol tra bod y gweddill yn cael eu rhannu.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at amrywiaeth o gyfleoedd gwaith, hyfforddiant ac addysg. Mae’r cyrsiau’n cynnwys:

  • mathemateg
  • Saesneg
  • paratoi ar gyfer gwaith
  • coginio
  • glanhau ymarferol
  • CSCS
  • mecaneg beiciau
  • mentora cymheiriaid
  • ffyrdd iachach o fyw
  • rheoli traffig
  • peintio ac addurno
  • Dug Caeredin
  • stoiciaeth

Cynhelir gweithdai sgiliau cyflogadwyedd bob mis i roi cymorth gyda CVs, ceisiadau am swyddi a sgiliau cyfweld.

Gall carcharorion hefyd gael cymorth a chefnogaeth ar faterion fel iechyd a llesiant, camddefnyddio sylweddau, tai, dyled, a pherthynas â’r teulu i’w paratoi ar gyfer eu rhyddhau.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Gwybodaeth am linellau cymorth a chyngor ar gyfer teulu a ffrindiau.

I gysylltu â’r Pennaeth Darpariaeth i Deuluoedd yn CEF Bryste, anfonwch e-bost at: SocialVisits.bristol@justice.gov.uk

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 0117 372 3100 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 0117 372 3382 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor. Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Bristol.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Bristol mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Bristol

Llywodraethwr: Amanda Corrigan
Ffôn: 0117 372 3100
Gwybodaeth am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP Bristol
19 Cambridge Road
Bristol
BS7 8PS

Gweler y map

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Ionawr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 2 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Education and work courses updated.

  2. How to book family and friends visits section updated.

  3. Updated booking information for official video and official face to face visits.

  4. Governor updated to, Amanda Corrigan.

  5. Prisoner voicemail service removed as a contact option.

  6. Updated times for social visits on Fridays.

  7. Updated family and friends visits booking line opening times to, Monday to Friday, 10am to 3pm.

  8. Opening hours updated for visits booking telephone line.

  9. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  10. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  11. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  12. Update to rules for sending in money and gifts.

  13. Prison moved into National Stage 3 framework and is now preparing to open visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  14. Updated prison info

  15. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  16. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  17. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  18. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  19. Updated information about secure video calls.

  20. Visit information update

  21. First published.

Argraffu'r dudalen hon