Canllawiau

Brinsford

Mae Brinsford yn garchar ac yn sefydliad troseddwyr ifanc (YOI) yn Featherstone, ger Wolverhampton, ar gyfer dynion rhwng 18 a 21 oed.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Bwcio a chynllunio eich ymweliad â Brinsford

I ymweld â rhywun yn Brinsford, rhaid i chi:

  • fod ar restr ymwelwyr yr unigolyn hwnnw
  • bwcio eich ymweliad o leiaf 2 ddiwrnod ymlaen llaw
  • bod â’r ID gofynnol gyda chi pan fyddwch yn mynd

Mae modd trefnu 28 diwrnod ymlaen llaw i ymweld â’r rhan fwyaf o garcharorion, neu 14 diwrnod ymlaen llaw ar gyfer carcharorion sydd ar remánd. Rhaid i chi roi o leiaf 2 ddiwrnod o rybudd os ydych chi eisiau trefnu neu newid ymweliad.

Gall carcharorion gael hyd at 3 ymwelydd 10 oed neu hŷn ar y tro, a 3 phlentyn dan 10 oed ar gyfer unrhyw ymweliad.

Rhaid i blant 17 oed neu iau fod yng nghwmni oedolyn sydd ar restr ymwelwyr cymeradwy’r carcharor.

Efallai y bydd cyfyngiadau ar nifer yr ymweliadau y gall unigolyn eu cael. Gallwch wirio hyn gyda Brinsford.

Cysylltwch â Brinsford os oes gennych unrhyw gwestiynau am ymweld.

Help gyda chost eich ymweliad

Os ydych chi’n cael budd-daliadau penodol neu os oes gennych chi dystysgrif iechyd y GIG, efallai y gallwch gael cymorth gyda chostau eich ymweliad, gan gynnwys:

  • teithio i Brinsford
  • rhywle i aros dros nos
  • prydau bwyd

Sut i drefnu ymweliadau teulu a ffrindiau

I drefnu ymweliad gallwch:

Bydd y llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 10am a 3pm.
Dysgu mwy am gost galwadau

Amseroedd ymweld:

  • Dydd Llun, rhwng 2pm a 4pm
  • Dydd Mawrth, rhwng 2pm a 4pm
  • Dydd Iau, rhwng 2pm a 4pm
  • Dydd Sadwrn, rhwng 2pm a 4pm
  • Dydd Sul, rhwng 2pm a 4pm

Mae slotiau yn cael eu neilltuo i adain benodol bob dydd. Bydd hyn yn cael ei egluro pan fyddwch chi’n trefnu ymweliad.

Sut i drefnu ymweliadau swyddogol

Rhaid trefnu ymweliadau drwy gyfrif CJSM neu gyfrif e-bost proffesiynol. Bydd angen i chi ddangos prawf o bwy ydych chi i staff y carchar ar yr alwad cyn i’ch ymweliad ddechrau.

I drefnu ymweliad fideo swyddogol, e-bostiwch, omu.brinsford@justice.gov.uk

Amseroedd ymweld swyddogol drwy fideo:

  • Dydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 9am a 11:30am a 1:45pm a 4:30pm

I drefnu ymweliad wyneb yn wyneb swyddogol, gallwch:

Mae’r llinell ffôn ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 10am 3pm
Dysgu mwy am gost galwadau

Ymweliadau wyneb yn wyneb swyddogol:

  • Dydd Llun i ddydd Iau, rhwng 9am a 11:30am a 1:45pm a 4:30pm

Yr amser cyrraedd hwyraf yw awr cyn diwedd y sesiwn ymweld swyddogol.

Mae polisïau gwisg ac eitemau gwaharddedig priodol ar waith. Gallwch wirio’r manylion pan fyddwch yn trefnu ymweliad. Mae loceri personol ar gael i’w defnyddio, am ddim.

Cyrraedd Brinsford

Dod o hyd i Brinsford ar fap

Mae Brinsford tua 6 milltir o’r orsaf drenau agosaf, Wolverhampton. Mae bysiau lleol yn rhedeg o’r orsaf i Featherstone ond bydd angen i chi gerdded y filltir olaf i Brinsford. Dylai unrhyw ymwelwyr sy’n cyrraedd ar fws roi gwybod i’r ganolfan ymwelwyr ar y diwrnod rhag ofn y bydd oedi. Fel arall, gallwch gymryd tacsi.

I gynllunio eich taith ar drafnidiaeth gyhoeddus:

Os ydych chi’n teithio mewn car, defnyddiwch y cod post WV10 7PY yn eich system llywio â lloeren.

Mae maes parcio i ymwelwyr wrth ymyl y ganolfan ymwelwyr, sy’n cynnwys llefydd parcio i bobl anabl.

Mynd i mewn i Brinsford

Rhaid i bob ymwelydd, sy’n 16 oed neu’n hŷn, brofi pwy ydyn nhw cyn mynd i mewn i’r carchar. Darllenwch y rhestr o fathau derbyniol o ID ar gyfer pob ymwelydd.

Bydd pob ymwelydd yn cael chwiliad ‘patio i lawr’, gan gynnwys plant. Mae’n bosibl y bydd cŵn diogelwch yn eich arogli hefyd.

Mae yna reolaethau llym mewn lle ar yr hyn y gallwch ddod i mewn i Brinsford. Bydd yn rhaid i chi adael y rhan fwyaf o’r pethau sydd gennych gyda chi mewn locer neu gyda swyddogion diogelwch. Mae hyn yn cynnwys pramiau a seddi ceir.

Bydd staff yn y ganolfan ymwelwyr yn dweud wrthych beth yw’r rheolau ar ddechrau eich ymweliad. Os byddwch yn torri’r rheolau, neu os byddwch yn ymddwyn mewn ffordd annerbyniol, gallai eich ymweliad gael ei ganslo a gallech gael eich gwahardd rhag ymweld eto.

Cod gwisg

Dylai ymwelwyr wisgo’n briodol. Sylwch fod yr isod yn berthnasol i ymwelwyr o oedran ysgol uwchradd, beth bynnag fo’u rhywedd.

  • dim topiau na ffrogiau sy’n dangos rhigol y bronnau
  • dim topiau sy’n dangos y bol wrth eistedd a sefyll
  • rhaid i sgertiau, ffrogiau a throwsusau byr fod hyd pen-glin
  • dim siwtiau chwarae
  • dim jîns wedi’u rhwygo, trowsusau byr wedi’u rhwygo, legins wedi’u rhwygo, na throwsusau wedi’u rwygo
  • dim siacedi tu allan, cynheswyr corff na dillad â hwd. Rhaid rhoi pob côt, siaced a dillad â hwd mewn locer y tu allan i’r ystafell ymweld ar ôl cael archwiliad
  • ni fydd ymwelwyr sy’n gwisgo mwy nag un pâr o drowsus o unrhyw fath yn cael dod i mewn
  • dim gwisgo sbectol haul
  • dim hetiau o unrhyw fath, ac eithrio penwisgoedd crefyddol

Cyfleusterau ymweld

  • Mae yma ganolfan ymwelwyr sy’n cael ei rhedeg gan PACT. Bydd lluniaeth ysgafn ar gael i’w brynu yn ystod eich ymweliad.

Mae’r ganolfan yn agor o 12:30pm ymlaen ar ddiwrnodau ymweld.

Diwrnodau teulu

Rydyn ni’n cynnal 6 diwrnod teulu mewn blwyddyn. Gallwch ddarllen mwy yn strategaeth teulu Brinsford.

Cadw mewn cysylltiad â rhywun yn Brinsford

Mae sawl ffordd y gallwch gadw mewn cysylltiad â rhywun yn ystod eu hamser yn Brinsford.

Galwadau fideo diogel

I gael galwad fideo ddiogel gyda rhywun yn y carchar hwn, mae angen i chi wneud y canlynol:

  • Lawrlwytho ap Prison Video
  • Creu cyfrif
  • Cofrestru pob ymwelydd
  • Ychwanegu’r carcharor at eich rhestr cysylltiadau.

Sut i drefnu galwad fideo ddiogel

Dim ond carcharorion all wneud cais am alwadau fideo diogel yn y carchar hwn.

Byddwch yn cael hysbysiad os bydd carcharor wedi gofyn am alwad fideo gyda chi.

Darllenwch fwy am sut mae ap Prison Video yn gweithio

Galwadau ffôn

Mae gan garcharorion ffonau yn eu celloedd ond does dim modd iddyn nhw dderbyn galwadau ar y rhain, felly bydd yn rhaid iddyn nhw eich ffonio chi bob amser. Rhaid iddyn nhw brynu credydau ffôn i wneud hyn.

Gallant ffonio unrhyw un a enwir ar eu rhestr o ffrindiau a theulu. Bydd y staff diogelwch yn gwirio’r rhestr hon pan fyddan nhw’n cyrraedd am y tro cyntaf, felly gall gymryd ychydig ddyddiau cyn y gallan nhw ffonio.

Gallwch hefyd gyfnewid negeseuon llais gan ddefnyddio gwasanaeth negeseuon llais y carchar, Prison Voicemail.

Gall swyddogion wrando ar alwadau ffôn fel ffordd o atal troseddu a helpu i gadw pobl yn ddiogel.

E-bost

Gallwch anfon negeseuon e-bost at rywun yn Brinsford drwy ddefnyddio’r gwasanaeth E-bostio Carcharor.

Gallwch hefyd atodi lluniau a derbyn ymatebion.

Llythyrau

Gallwch ysgrifennu ar unrhyw adeg.

Dylech gynnwys enw a rhif y carcharor ar yr amlen.

Os nad ydych chi’n gwybod eu rhif carcharor, cysylltwch â Brinsford.

Bydd pob llythyr yn y post, ar wahân i lythyrau cyfreithiol, yn cael eu hagor a’u gwirio gan swyddogion.

Radio Cenedlaethol y Carchardai - Sioe i Deulu a Ffrindiau Ddewis y Caneuon

Mae Radio Cenedlaethol y Carchardai yn darlledu i holl gelloedd y carchardai ledled Cymru a Lloegr, 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gall teulu a ffrindiau gadw mewn cysylltiad gyda’u hanwyliaid yn y carchar trwy anfon ceisiadau am ganeuon, negeseuon ysgrifenedig neu recordiadau llais. Yna bydd y rhain yn cael eu darllen allan ar y radio neu’n cael eu chwarae yn ystod y sioeau wythnosol.

Gallwch anfon neges atom, a gwrando ar y sioeau yn nationalprisonradio.com

Anfon arian a rhoddion

Gallwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein cyflym ac am ddim i anfon arian at rywun yn y carchar.

Ni allwch bellach anfon arian drwy drosglwyddiad banc, siec, archeb bost nac anfon arian parod drwy’r post.

Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, efallai y gallwch wneud cais am eithriad - er enghraifft:

  • os nad ydych chi’n gallu defnyddio cyfrifiadur, ffôn clyfar na’r rhyngrwyd
  • os nad oes gennych chi gerdyn debyd

Bydd hyn yn caniatáu i chi anfon arian drwy’r post.

Rhoddion a pharseli

Mae pobl yn Brinsford yn cael rhestr o eitemau cymeradwy y gallant eu harchebu drwy system gatalog. Gallwch anfon arian atynt ar gyfer hyn.

Gall carcharorion hefyd wneud cais i’w dillad eu hunain gael eu hanfon atynt. Os ydych chi’n cael cais am ddillad wedi’i gymeradwyo, gallwch anfon dillad atom. Dylech gynnwys copi o’r cais a gymeradwywyd yn y parsel. Cofiwch gynnwys enw a rhif y carcharor ar y parsel hefyd.

Bydd pob parsel yn cael ei agor a’i wirio gan swyddogion.

Caniateir i ffrindiau a theuluoedd carcharorion anfon llyfrau’n uniongyrchol at eu hanwyliaid, neu gallant archebu llyfrau gan fanwerthwyr cymeradwy, sy’n gallu dod o hyd i’r llyfrau a’u hanfon ymlaen at garcharorion.

I weld y rhestr lawn o fanwerthwyr cymeradwy, gallwch ddarllen Gwasanaethau llyfrgell ac addysg mewn carchardai, Atodiad A.

Cysylltwch â Brinsford i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn sy’n cael ei ganiatáu.

Bywyd yn Brinsford

Mae Brinsford wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd diogel ac addysgol lle gall carcharorion ddysgu sgiliau newydd i’w helpu ar ôl cael eu rhyddhau.

Mae pob unigolyn yn cael ei gefnogi ar sail ei anghenion addysgol a phersonol penodol.

Diogelwch a diogelu

Mae gan bob unigolyn yn Brinsford hawl i deimlo’n ddiogel. Mae’r staff yn gyfrifol am eu diogelwch a’u lles bob amser.

I gael rhagor o wybodaeth am beth i’w wneud pan fyddwch chi’n poeni neu’n pryderu am rywun yn y carchar, ewch i wefan y llinell gymorth ar gyfer teuluoedd carcharorion, Prisoners’ Families Helpline.

Cyrraedd a’r noson gyntaf

Pan fydd rhywun yn cyrraedd Brinsford am y tro cyntaf, bydd yn gallu cysylltu ag aelod o’r teulu dros y ffôn. Gallai hyn fod yn eithaf hwyr gyda’r nos, yn dibynnu ar yr amser maen yn cyrraedd.

Bydd carcharorion newydd yn treulio eu noson gyntaf mewn canolfan noson gyntaf bwrpasol lle mae staff wedi’u hyfforddi’n benodol i gefnogi pobl drwy’r cyfnod pontio i fywyd yn y carchar. Byddant yn cael siarad â rhywun a fydd yn gweld sut maen nhw’n teimlo ac yn gofyn am unrhyw anghenion iechyd a lles sydd ganddynt bryd hynny.

Cynefino

Bydd pawb sy’n cyrraedd Brinsford yn cael sesiwn gynefino ar adain arbenigol sy’n para tridiau. Byddant yn cwrdd â gweithwyr proffesiynol a fydd yn eu helpu gyda’r canlynol:

  • iechyd a llesiant, gan gynnwys iechyd meddwl a rhywiol
  • unrhyw broblemau camddefnyddio sylweddau, gan gynnwys cyffuriau ac alcohol
  • datblygiad personol yn y ddalfa ac ar ôl rhyddhau, gan gynnwys sgiliau, addysg a hyfforddiant
  • mathau eraill o gymorth (a elwir weithiau’n ‘ymyriadau’), fel rheoli emosiynau anodd a rhaglenni ymddygiad troseddol
  • gwybodaeth am fywyd bob dydd yn Brinsford a sut i wneud y gorau o’u hamser yno

Mae pawb hefyd yn cael gwybod am y rheolau, diogelwch tân, a sut mae pethau fel galwadau ac ymweliadau yn gweithio.

Llety

Mae gan Brinsford le i 577 o garcharorion ar draws 6 uned.

Mae’r rhain yn cynnwys uned dyddiau cynnar yn y ddalfa, byw heb sylweddau dan gymhelliant a 4 prif uned breswyl. (Mae gan gelloedd byw heb sylweddau dan gymhelliant gawodydd yn y celloedd.)

Mae gan garcharorion fynediad at gampfa, neuadd chwaraeon a chaeau awyr agored a gallant gymryd rhan mewn rhaglen amrywiol o weithgareddau addysg a gwaith.

Mae gan Brinsford hefyd dîm caplaniaeth aml-ffydd amrywiol sy’n darparu cymorth i garcharorion.

Mae carcharorion a staff yn gweithio gyda’i gilydd i wneud yn siŵr bod pawb yn Brinsford yn gofalu am ei gilydd a’u hamgylchedd. Mae lefelau glendid a hylendid yn bwysig.

Mae gan Brinsford gyngor carcharorion. Mae cynrychiolwyr yn mynychu cyfarfodydd rheolaidd ac yn rhannu gwybodaeth â charcharorion eraill. Gallant hefyd godi materion ar eu rhan.

Addysg a gwaith

Mae gan garcharorion fynediad at addysg a hyfforddiant, sy’n cael ei ddarparu gan NOVUS. Mae amrywiaeth o gyrsiau academaidd a galwedigaethol yn cael eu darparu, yn seiliedig ar anghenion ein carcharorion.

Mae Brinsford yn cynnig amrywiaeth eang o weithgareddau a rolau gwaith sy’n seiliedig ar ddatblygiad personol a sgiliau cyflogadwyedd. Mae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • dyletswyddau domestig
  • dyletswyddau glanhau
  • cegin
  • campfa
  • capel
  • llyfrgell
  • gerddi
  • partïon peintio
  • cyngor gyrfaoedd
  • peintio ac addurno
  • coginio
  • glanhau diwydiannol
  • cerddoriaeth
  • gwasanaethau adeiladu
  • addysg gorfforol
  • pacio diwydiannol
  • arlwyo

Fel partner allweddol gyda’r siambr fasnach leol, mae Brinsford yn asesu prosiectau lleol yn barhaus er mwyn ehangu cyfleoedd cyflogaeth.

Mae Brinsford hefyd yn rhedeg nifer o raglenni ymddygiad troseddol achrededig.

Rhyddhau dros dro

Efallai y bydd carcharorion Brinsford yn gymwys i gael eu rhyddhau ar drwydded dros dro (ROTL). Mae hyn yn cael ei asesu ar ffactorau ac amgylchiadau unigol. Mae modd rhyddhau carcharorion ar drwydded dros dro i’w paratoi ar gyfer cyflogaeth ac ar gyfer cael eu rhyddhau. Gall llwyddiant rhyddhau carcharorion ar drwydded dros dro arwain at fanteision eraill, fel ymweliadau cartref dros y penwythnos.

Mae Brinsford hefyd yn gweithredu’r cynllun rhyddhau’n gynnar, Cyrffyw Cyfyngu i’r Cartref (HDC). Bydd carcharorion sy’n gymwys ar gyfer Cyrffyw Cyfyngu i’r Cartref yn cael gwybod pryd y gallant wneud cais am hyn. Bydd cymeradwyo carcharor ar gyfer Cyrffyw Cyfyngu i’r Cartref yn seiliedig ar bethau fel ymddygiad, cyrraedd targedau’r cynllun dedfrydu a bod â chartref addas i fynd iddo. Os nad oes gan garcharorion gartref addas i fynd iddo, gallant wneud cais i gael eu rhyddhau’n gynnar o hyd gan ddefnyddio llety sy’n cael ei ddarparu gan ein partneriaid BASS.

Cefnogaeth i deulu a ffrindiau

Gwybodaeth am gyngor a llinellau cymorth ar gyfer teulu a ffrindiau.

Gallwch ddarllen strategaeth teulu Brinsford i weld sut rydyn ni’n helpu carcharorion i feithrin perthnasoedd cadarnhaol â’u hanwyliaid.

Cefnogaeth yn Brinsford

Mae’r ganolfan ymwelwyr yn Brinsford yn cael ei rhedeg gan PACT. Mae staff profiadol, wedi’u hyfforddi, ar gael yn ystod sesiynau ymweld i helpu teuluoedd. Byddant hefyd yn rhoi gwybodaeth i bobl am yr amrywiaeth o wasanaethau cymorth sydd ar gael yn y gymuned leol.

Mae’r tîm yn cynnwys gweithiwr penodedig i ymgysylltu â theuluoedd a gweithiwr cefnogi plant sydd â rolau penodol. Mae’r rolau hyn yn cynnwys gweithgarwch plant a chymorth cymunedol, yn ogystal â chymorth i garcharorion i adfer perthnasoedd teuluol anodd neu sydd wedi’u difrodi.

Cysylltwch neu holwch yn y ganolfan ymwelwyr am ragor o wybodaeth.

Ffôn: 01902 533 540
Dysgu mwy am gost galwadau

Pryderon, problemau a chwynion

Mewn argyfwng

Ffoniwch 01902 533 450 os ydych chi’n meddwl bod carcharor mewn perygl uniongyrchol o niwed. Gofynnwch am y Swyddog Dydd ac egluro bod eich pryder yn un brys.

Categori cyswllt Rhif ffôn Gwybodaeth ychwanegol
Dim brys 01902 533 565 Ffoniwch y rhif hwn os oes gennych chi bryderon difrifol am ddiogelwch neu lesiant carcharor ond nad yw’r pryderon yn peryglu bywyd, neu gallwch lenwi ffurflen gyswllt dalfa fwy diogel ar wefan Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion.
Llinell Gymorth Gonestrwydd Staff 0800 917 6877
(peiriant ateb 24 awr)
Gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw. Os ydych chi’n poeni bod carcharor yn cael ei fwlio gan aelod o staff, gallwch ddefnyddio’r rhif hwn. Gan fod y llinell hon yn cael ei rheoli ar wahân i’r carchar, gallwch ffonio’r rhif hwn yn ddienw.
Llinell Gymorth Teuluoedd Carcharorion 0808 808 2003 Gall y Llinell Gymorth i Deuluoedd Carcharorion ddarparu cymorth, cyngor ac arweiniad cyfrinachol.
Cyswllt Digroeso gan Garcharor 0300 060 6699 Os yw carcharor yn cysylltu â chi a’ch bod am iddo roi’r gorau i wneud hyn, gallwch ddefnyddio’r Gwasanaeth Cyswllt Digroeso gan Garcharor.

Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer atal cyswllt gan garcharor, anfon e-bost at unwantedprisonercontact@justice.gov.uk neu gysylltu dros y ffôn.

Dysgu mwy am gost galwadau

Problemau a chwynion

Os oes gennych chi broblem arall, cysylltwch â Brinsford.

Adroddiadau arolygu

Mae Gwasanaeth Carchardai a Phrawf EF yn cyhoeddi cynlluniau gweithredu ar gyfer Brinsford mewn ymateb i arolygiadau annibynnol.

Cysylltu â Brinsford

Llywodraethwr: Darren Hudson
Ffôn (24 awr): 01902 533 450

Dysgu mwy am gost galwadau

Cyfeiriad

HMP/YOI Brinsford
New Road
Featherstone
Wolverhampton
WV10 7PY

Gweler y map

Helpwch ni i wella’r dudalen hon. Rhowch eich adborth i ni yn yr arolwg 2 funud hwn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 5 Mai 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 Ebrill 2026 show all updates
  1. Updated booking information for official visits (added email booking for face to face visits).

  2. Added link to Brinsford families and significant others strategy.

  3. Governor details and official visits information updated.

  4. Updated booking details for legal visits.

  5. Details added for National Prison Radio's Family and Friends request show.

  6. Updated family and friends visits booking line opening times to, Monday to Friday, 10am to 3pm.

  7. Dress code and visiting facilities updated.

  8. Entering the prison, visiting facilities and family days updated.

  9. Opening hours updated for visits booking telephone line.

  10. Updated visiting guidance based on 1 April COVID rule changes

  11. Added link to new safer custody information under Security and safeguarding.

  12. Updated visiting information: Testing for visitors aged 12 and over.

  13. Updated physical contact guidance

  14. Revised visiting times for family, friends and significant others.

  15. New visiting times and booking information added.

  16. Prison has resumed visits for family, friends and significant others. We will update this page with specific visiting information as soon as possible.

  17. Update visit info

  18. Updated visiting information in line with new local restriction tiers.

  19. Updated visiting information in line with new local restriction tiers

  20. Updated visiting information in line with new local restriction tiers

  21. Updated visiting information in line with new national restrictions in England.

  22. Updated visiting information in line with coronavirus restrictions.

  23. Added confirmation of secure video calls made available at this prison.

  24. Updated: HMP Brinsford visiting times and visiting procedure changes in line with coronavirus restrictions.

  25. Updated governor name

  26. First published.

Argraffu'r dudalen hon