Skip to main content
Canllawiau

Gwneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol os ydych wedi cael llythyr gan CThEF.

I ddefnyddio’r gwasanaeth hwn, mae’n rhaid i chi fod wedi cael llythyr gan CThEF yn dweud wrthych fod eich trefniant cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol ar gyfer amser a dreuliwyd dramor wedi dod i ben.

Os ydych yn gwneud cais am y tro cyntaf neu ar ôl seibiant, defnyddiwch ffurflen CF83 i wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol.

Os ydych o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth, gallwch wirio rhagolwg o’ch Pensiwn y Wladwriaeth neu gysylltu â Chanolfan Pensiwn y Dyfodol i weld a fyddwch yn elwa o dalu cyfraniadau gwirfoddol.

Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth, neu os byddwch yn cyrraedd oedran Pensiwn y Wladwriaeth yn ystod y 6 mis nesaf, cysylltwch â’r Ganolfan Pensiynau Rhyngwladol (yn agor tudalen Saesneg). Byddant yn gwirio a oes gennych fwlch yn eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol ac yn rhoi gwybod i chi faint sydd angen i chi ei dalu.

Gwirio a allwch wneud cais

O 6 Ebrill 2026 ymlaen, ni fyddwch yn gallu talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gwirfoddol ar gyfer amser a dreuliwyd dramor.

Mae’n bosibl y gallwch dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor o flwyddyn dreth 2026 i 2027 ymlaen.

Mae’n rhaid i chi fodloni’r amodau canlynol:

  • gwnaethoch gais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer y blynyddoedd treth 2024 i 2025 neu 2025 i 2026 ar neu cyn 5 Ebrill 2026 

  • rydych yn talu neu wedi talu’r cyfraniadau Yswiriant Gwladol gwirfoddol y gwnaethoch gais amdanynt ar neu cyn 5 Ebrill 2027

  • mae’n rhaid i chi wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 ar gyfer blwyddyn dreth 2026 i 2027 ar neu cyn 5 Ebrill 2027

Ni fydd y rheolau hyn yn berthnasol pan fyddwch yn dychwelyd i fyw neu weithio yn y DU.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch i wneud cais:

Gwneud cais i dalu

Defnyddiwch y gwasanaeth ar-lein hwn i wneud cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol os yw CThEF wedi ysgrifennu i ddweud wrthych am wneud hynny.

Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Os ydym yn cymeradwyo eich cais i dalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 3 gwirfoddol ar gyfer cyfnodau dramor, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi a chadarnhau’r symiau a’r dyddiadau talu.

Gwiriwch pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach ynghylch talu cyfraniadau Yswiriant Gwladol a byw dramor, gallwch gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 14 Gorffennaf 2026

Argraffu'r dudalen hon