Canllawiau

Gwneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Dysgwch sut i wneud cais am esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Pwy sy’n esempt rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm

Mae yna wahanol resymau pam y gallech gael esemptiad rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm. Er enghraifft, gallech gael esemptiad os ydych wedi’ch cau allan o’r byd digidol.

Os ydych chi’n esempt, ni fydd angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ond bydd yn rhaid i chi barhau i roi gwybod am eich incwm a’ch enillion mewn Ffurflen Dreth Hunanasesiad fel arfer.

Os nad ydych wedi’ch esemptio’n awtomatig, mae angen i chi wneud cais am esemptiad drwy gysylltu â CThEF. Gallwch ddefnyddio’r arweiniad hwn i wneud cais am y canlynol:

  • esemptiad dros dro hyd at o leiaf mis Ebrill 2027
  • esemptiad ar sail eich bod wedi’ch cau allan o’r byd digidol, a all fod yn esemptiad parhaol yn dibynnu ar eich amgylchiadau

Cyn i chi wneud cais, dylech ystyried eich amgylchiadau a dysgu a allwch chi gael esemptiad rhag Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Pwy all wneud cais

Gallwch chi wneud cais am esemptiad eich hun. 

Gallwch hefyd wneud cais am esemptiad ar ran rhywun arall os ydych yn un o’r canlynol:

  • asiant awdurdodedig
  • ffrind neu aelod o’r teulu, gydag awdurdodiad y person dan sylw

Os oes gennych chi asiant, ffrind neu aelod o’r teulu sy’n gwneud cais ar eich rhan, bydd yr esemptiad yn dal i fod ar sail eich sefyllfa bersonol chi.

Os bydd eich asiant yn defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu i gadw cofnodion digidol a’u cyflwyno i CThEF, bydd yn gallu bodloni’r gofynion o ran Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm ar eich rhan. 

Dylech siarad â’ch asiant am hyn, oherwydd efallai na fydd angen i chi wneud cais am esemptiad ar sail eich bod wedi’ch cau allan o’r byd digidol.

Os ydych yn gweithredu ar ran rhywun arall

Os ydych chi’n asiant, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol: 

Os ydych chi’n ffrind neu’n aelod o’r teulu, mae angen awdurdodiad arnoch, gan y person rydych chi’n gwneud cais ar ei ran, cyn i chi wneud cais. Gall hyn fod yn un o’r canlynol:

  • drwy ysgrifennu at CThEF i ofyn am awdurdodiad — bydd angen i chi gynnwys llofnod y person rydych chi’n gweithredu ar ei ran
  • drwy ffonio CThEF — bydd angen i’r person rydych chi’n gweithredu ar ei ran fod yno i roi awdurdodiad llafar

Dylech chi roi’r awdurdodiad hwn drwy ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y dudalen Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy.

Cyn i chi wneud cais ar ran rhywun arall, dylech wneud yn siŵr eich bod chi’n deall amgylchiadau’r person yn llwyr.

Pryd i wneud cais

Dylech wneud cais cyn bod angen i chi, neu’r person rydych chi’n gwneud cais ar ei ran, ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os ydych chi’n gwneud cais am esemptiad oherwydd eich bod yn credu eich bod wedi’ch cau allan o’r byd digidol, dylech wneud cais am esemptiad yn seiliedig ar pryd y bydd angen i chi ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Os oes angen i chi ddefnyddio Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm o:

  • 6 Ebrill 2026 — gallwch wneud cais nawr
  • 6 Ebrill 2027 — dylech chi wneud cais o haf 2026 ymlaen
  • 6 Ebrill 2028 — dylech chi wneud cais o haf 2027 ymlaen

Os ydych eisoes wedi cofrestru a bod eich amgylchiadau chi wedi newid, dylech wneud cais a pharhau i ddefnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm wrth i chi aros i glywed gennym.

Os ydych chi wedi cofrestru’n wirfoddol a’ch bod chi’n credu eich bod chi wedi dod yn esempt, dysgwch beth i’w wneud os bydd eich amgylchiadau’n newid drwy ddarllen Defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm.

Beth sydd ei angen arnoch chi

Mae beth sydd ei angen arnoch chi er mwyn gwneud cais am esemptiad yn dibynnu p’un a ydych chi’n gwneud cais ar eich rhan chi eich hun neu ar ran rhywun arall.

Os ydych o’r farn eich bod yn gymwys i gael mwy nag un esemptiad, dylech gyflwyno un cais sy’n esbonio pam mae pob esemptiad yn berthnasol.

Gwneud cais i chi eich hun

Bydd angen: 

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich enw a’ch cyfeiriad
  • i chi egluro pam rydych o’r farn y dylech fod wedi’ch esemptio rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol i ategu’ch cais

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i wneud penderfyniad ynghylch eich cais. 

Os ydych yn gwneud cais am esemptiad ar sail eich bod wedi’ch cau allan o’r byd digidol, mae hefyd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • manylion ynghylch sut rydych chi’n cyflwyno Ffurflenni Treth ar hyn o bryd (gan gynnwys a oes rhywun arall yn eich helpu chi gyda hyn) 
  • y rheswm dros gredu eich bod chi wedi’ch cau allan o’r byd digidol, gan gynnwys unrhyw wybodaeth i ategu’ch cais
  • a oes gennych chi asiant (er enghraifft, cyfrifydd) a beth bydd yr asiant yn ei wneud
  • unrhyw anghenion ychwanegol sydd gennych fel y gallwn roi’r cymorth cywir i chi

Gwneud cais ar ran rhywun arall

Os ydych chi’n gwneud cais am esemptiad ar ran rhywun arall, bydd angen i chi ddarparu manylion y person hwnnw. Dylech sicrhau eich bod chi’n deall ei amgylchiadau’n llwyr.

I wneud cais ar ei ran, bydd angen: 

  • i chi roi gwybod i ni sut rydych chi’n adnabod yr ymgeisydd (er enghraifft, a ydych chi’n asiant neu’n gynrychiolydd personol iddo) 
  • ei rif Yswiriant Gwladol 
  • ei enw a’i gyfeiriad 
  • i chi egluro pam rydych o’r farn y dylai’r ymgeisydd fod wedi’i esemptio rhag y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm, gan gynnwys unrhyw wybodaeth ychwanegol i ategu ei gais

Mae’n bosibl y byddwn yn gofyn am wybodaeth ychwanegol i wneud penderfyniad ynghylch eich cais. 

Os ydych chi’n gwneud cais, ar ran rhywun arall, am esemptiad ar sail ei fod wedi’i gau allan o’r byd digidol, bydd hefyd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • manylion ynghylch sut y mae’n cyflwyno Ffurflenni Treth ar hyn o bryd (gan gynnwys a oes rhywun arall yn ei helpu gyda hyn) 
  • a oes ganddo asiant (er enghraifft, cyfrifydd) a beth bydd yr asiant yn ei wneud 
  • unrhyw anghenion ychwanegol sydd ganddo fel y gallwn ni roi’r cymorth cywir iddo

Sut i wneud cais

I wneud cais am esemptiad i chi eich hun, neu ar ran rhywun arall, bydd yn rhaid i chi naill ai ffonio neu ysgrifennu at CThEF gan ddefnyddio’r manylion cyswllt ar y dudalen Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy.

Dylai asiantau sy’n gwneud cais ar ran rhywun arall ddefnyddio’r un manylion cyswllt, sef Treth Incwm, Hunanasesiad a mwy.

Os byddwch yn ysgrifennu atom, dylech ddefnyddio un o’r teitlau canlynol fel pwnc eich llythyr: 

  • ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — wedi cau allan o’r byd digidol: cais’ os ydych chi’n gwneud cais am esemptiad ar gyfer y rheiny sydd wedi’u cau allan o’r byd digidol
  • ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — cais am esemptiad’ os ydych chi’n gwneud cais am unrhyw fath arall o esemptiad

Os oes cyflwr iechyd neu amgylchiadau personol yn ei gwneud hi’n anodd cysylltu â ni, gallwch ddysgu sut i gael help gan CThEF os oes angen cymorth ychwanegol arnoch chi.

Ar ôl i chi wneud cais

Nod CThEF fydd ymateb cyn pen 28 diwrnod calendr ar ôl cael eich cais. Efallai y bydd hi’n cymryd mwy o amser os bydd angen i chi roi rhagor o wybodaeth i ni.

Dylech ddarllen am y camau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — bydd hyn yn eich helpu i baratoi ar gyfer cofrestru a’i ddefnyddio, os na fydd eich cais yn cael ei dderbyn.

Wrth i ni adolygu’ch cais, efallai y byddwn ni’n gwneud y canlynol: 

  • gwirio’r wybodaeth rydych chi wedi’i rhoi er mwyn cadarnhau ei bod hi’n gywir
  • gofyn i chi am ragor o wybodaeth, os oes angen rhagor arnon ni 

Byddwn ni wedyn yn anfon llythyr atoch chi yn cadarnhau a ydyn ni wedi derbyn eich cais am esemptiad neu beidio, a beth bydd angen i chi ei wneud nesaf.

Os cewch benderfyniad cyn 1 Ebrill 2026, bydd hwn yn dod i rym yn gyfreithiol o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Bydd y llythyr yn egluro’r math o esemptiad sydd dan sylw, a pha mor hir y bydd yn para. Os yw’ch esemptiad yn un dros dro, bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm a’i ddefnyddio ar ôl i’r esemptiad ddod i ben, a hynny os yw’ch incwm cymhwysol dros y trothwy perthnasol.

Os ydych chi’n anghytuno â’r penderfyniad

Os na fydd eich cais yn cael ei dderbyn, bydd eich llythyr o benderfyniad yn esbonio pam a sut gallwch apelio.

Mae pryd y bydd yn rhaid i chi apelio yn dibynnu ar ba bryd rydych chi’n cael llythyr o benderfyniad.

Os cewch benderfyniad cyn 1 Ebrill 2026

Bydd yn rhaid i chi apelio erbyn 30 Ebrill 2026.

Byddwn yn dechrau adolygu’r apeliadau hyn o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Os cewch benderfyniad ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026

Gallwch chi apelio hyd at 30 diwrnod ar ôl y dyddiad sydd ar y llythyr.

Os bydd angen arnoch ragor o amser i apelio:

Mae angen i chi anfon eich apêl yn ysgrifenedig a gwneud y canlynol: 

  • defnyddio’r teitl ‘Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm — wedi cau allan o’r byd digidol: apêl’ ar gyfer apêl mewn perthynas ag esemptiad ar gyfer y rheiny sydd wedi’u cau allan o’r byd digidol
  • defnyddio’r teitl ‘Troi Treth yn Ddigidol — apêl o ran esemptiad’ ar gyfer unrhyw fath arall o esemptiad
  • anfon yr apêl i’r cyfeiriad a nodir ar eich llythyr o benderfyniad, a chynnwys unrhyw wybodaeth newydd yr hoffech i ni ei hystyried 

Os nad ydych wedi gwneud hyn eisoes, dylech ddarllen am y camau ar gyfer Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm i’ch helpu i baratoi ar gyfer cofrestru a defnyddio’r cynllun, os na fydd eich apêl yn cael ei derbyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Ionawr 2026

Argraffu'r dudalen hon