Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Rhagfyr 2020
Cyhoeddwyd 17 Chwefror 2021
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
1. Prif ystadegau ar gyfer Rhagfyr 2020
Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £184,195
Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 10.7%
y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.3%
y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 135.3
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ionawr 2021 am 9.30am ddydd Mercher 24 Mawrth 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 10.7% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020, i fyny o 6.9%, yn y flwyddyn hyd at Dachwedd 2020. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 8.5% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.3% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2020, o’i gymharu â gostyngiad o 1.2% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Tachwedd a Rhagfyr 2019). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 1.9% rhwng Tachwedd a Rhagfyr 2020.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 4.2% yng Nghymru o 3,880 i 3,717. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 5.6%, o 85,225 i 89,969, dros yr un cyfnod.
Yng Nghymru, dangosodd pob un o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn Rhagfyr 2020 o’i gymharu â Rhagfyr 2019. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mlaenau Gwent, gan godi 16.3% i £109,000 yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020. Mewn cyferbyniad, dangosodd Merthyr Tydfil y twf arafaf yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020, ar 0.2% gyda phrisiau tai cyfartalog yn £119,000.
O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 11.4% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020 i £144,000. Y newid blynyddol lleiaf o’r holl fathau o eiddo oedd ar gyfer fflatiau a fflatiau deulawr, gyda chynnydd o 8.0% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020 i £125,000.
Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.
3. Newid mewn prisiau
3.1 Newid mewn prisiau blynyddol
Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 10.7% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2020, i fyny o 6.9% yn Nhachwedd 2020.
Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru
Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.
Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.
Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.
Awdurdodau lleol | Rhagfyr 2020 | Rhagfyr 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Abertawe | £165,705 | £153,192 | 8.2% |
Blaenau Gwent | £108,526 | £93,288 | 16.3% |
Bro Morgannwg | £237,570 | £227,587 | 4.4% |
Caerdydd | £227,553 | £213,554 | 6.6% |
Caerffili | £149,060 | £139,876 | 6.6% |
Casnewydd | £200,042 | £184,530 | 8.4% |
Castell-nedd Port Talbot | £141,949 | £124,982 | 13.6% |
Ceredigion | £199,562 | £186,784 | 6.8% |
Conwy | £192,371 | £174,400 | 10.3% |
Gwynedd | £174,834 | £165,117 | 5.9% |
Merthyr Tudful | £118,924 | £118,653 | 0.2% |
Pen-y-bont ar Ogwr | £167,309 | £158,698 | 5.4% |
Powys | £206,656 | £188,779 | 9.5% |
Rhondda Cynon Taf | £129,016 | £120,094 | 7.4% |
Sir Benfro | £198,344 | £181,071 | 9.5% |
Sir Ddinbych | £167,575 | £163,525 | 2.5% |
Sir Fynwy | £296,435 | £274,034 | 8.2% |
Sir y Fflint | £191,848 | £171,180 | 12.1% |
Sir Gaerfyrddin | £166,430 | £153,669 | 8.3% |
Tor-faen | £172,486 | £149,285 | 15.5% |
Wrecsam | £166,692 | £157,298 | 6% |
Ynys Môn | £202,313 | £184,679 | 9.5% |
Cymru | £184,195 | £166,433 | 10.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Rhagfyr 2020, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £296,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £109,000 oedd y pris cyfartalog.
3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo
Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru
Math o eiddo | Rhagfyr 2020 | Rhagfyr 2019 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £278,109 | £250,719 | 10.9% |
Tŷ pâr | £177,623 | £161,024 | 10.3% |
Tŷ teras | £144,124 | £129,382 | 11.4% |
Fflat neu fflat deulawr | £125,186 | £115,908 | 8.0% |
Holl | £184,195 | £166,433 | 10.7% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol
Awdurdodau lleol | Hydref 2020 | Hydref 2019 |
---|---|---|
Abertawe | 250 | 287 |
Blaenau Gwent | 86 | 76 |
Bro Morgannwg | 183 | 238 |
Caerdydd | 399 | 528 |
Caerffili | 179 | 239 |
Casnewydd | 149 | 213 |
Castell-nedd Port Talbot | 191 | 163 |
Ceredigion | 108 | 91 |
Conwy | 163 | 191 |
Gwynedd | 129 | 164 |
Merthyr Tudful | 58 | 93 |
Pen-y-bont ar Ogwr | 237 | 234 |
Powys | 163 | 149 |
Rhondda Cynon Taf | 281 | 320 |
Sir Benfro | 143 | 190 |
Sir Ddinbych | 149 | 138 |
Sir Gaerfyrddin | 254 | 267 |
Sir Fynwy | 94 | 120 |
Sir y Fflint | 161 | 211 |
Tor-faen | 104 | 121 |
Wrecsam | 144 | 151 |
Ynys Môn | 92 | 110 |
Cymru | 3,717 | 4,294 |
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Hydref 2020 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Hydref 2019 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Hydref 2020, lleihaodd nifer y trafodion gan 4.2% yng Nghymru.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 4.3% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Hydref 2020.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4.2 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf
Newid rhwng y siart a’r tabl
Dyddiad | Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru |
---|---|
Hydref 2016 | 3,957 |
Hydref 2017 | 4,471 |
Hydref 2018 | 4,387 |
Hydref 2019 | 4,294 |
Hydref 2020 | 3,717 |
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
5. Statws eiddo
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru
Statws eiddo | Pris cyfartalog Hydref 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £236,096 | 1.7% | 7.3% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £173,807 | 3.4% | 6.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru
Math o brynwr | Pris cyfartalog Rhagfyr 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £159,106 | 2.6% | 10.5% |
Cyn berchen-feddiannydd | £213,417 | 1.9% | 10.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido
Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru
Statws cyllido | Pris cyfartalog Rhagfyr 2020 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £178,870 | 2.0% | 10.2% |
Morgais | £187,378 | 2.4% | 11.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Nifer y gwerthiannau adfeddiannu
Gwlad | Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Hydref 2020 |
---|---|
Cymru | 33 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn
0300 0068317