Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2022

Cyhoeddwyd 16 November 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2022

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £294,559

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 9.5%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.0%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 154.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2022 am 9.30am dydd Mercher 14 Rhagfyr 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Y gyfradd twf flynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU ar gyfer Medi 2022 oedd 9.5%, o’i chymharu ag 13.1% yn y flwyddyn hyd at Awst 2022, ac 15.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022. Roedd dau ffactor wedi achosi’r arafu yn y twf blynyddol y mis hwn:

  1. Parhaodd prisiau tai yn y DU yn ddigyfnewid rhwng Awst a Medi 2022.
  2. Cynyddodd prisiau tai yn y DU yn sylweddol ym Medi 2021, ar yr un pryd â’r newidiadau yn y Dreth Tir Toll Stamp.

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan swm llai rhwng Gorffennaf a Medi 2022 na’r un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’r effaith sylfaenol hon wedi arwain at arafu yn y twf blynyddol ers Gorffennaf 2022.

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan £3,200 rhwng Gorffennaf ac Awst 2022 a pharhau’n ddigyfnewid rhwng Awst a Medi 2022. Mewn cyferbyniad, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan £7,500 rhwng Gorffennaf ac Awst 2021, a chan £8,600 rhwng Awst a Medi 2021. Mae’n debygol bod prisiau tai cyfartalog wedi eu chwyddo ychydig ym Medi 2021 wrth i brynwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon ruthro i gwblhau prynu eiddo cyn y newidiadau i’r Dreth Tir Toll Stamp ar ddiwedd Medi 2021. Mae rhagor o wybodaeth am yr effaith a gafodd y newidiadau i drethi tir ar brisiau tai yn y DU yn 2021 i’w gweld yn natganiadau blaenorol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Arweiniodd y cynnydd graddol mewn prisiau yn 2022 at bris tŷ cyfartalog yn y DU yn cyrraedd ei lefelau uchaf erioed. Y pris tŷ cyfartalog yn y DU oedd £295,000 ym Medi 2022, sy’n £26,000 yn uwch na’r adeg hon y flwyddyn ddiwethaf, ac yn ddigyfnewid ers Awst 2022. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog dros y flwyddyn i £314,000 (9.6%) yn Lloegr, i £224,000 yng Nghymru (12.9%), i £192,000 yn yr Alban (7.3%) ac i £176,000 yng Ngogledd Iwerddon (10.7%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, parhaodd prisiau tai cyfartalog yn ddigyfnewid yn y DU rhwng Awst a Medi 2022, gyda newid o 0.0% yn y pris. Mae hyn i lawr o gynnydd o 3.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst a Medi 2021).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Ne Orllewin Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 11.9% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022. Roedd y twf blynyddol lleiaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 5.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Medi 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod ymholiadau gan brynwyr newydd wedi parhau i leihau am y pumed mis yn olynol, a bod cyflenwad ar y farchnad yn parhau i fod yn gyfyngedig.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2022 Chwarter 3 fod y galw am eiddo yn parhau i fod yn fwy na’r cyflenwad. Fodd bynnag, roedd darpar brynwyr tai yn fwy gofalus erbyn hyn oherwydd pryderon ynghylch y cynnydd mewn costau byw.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Medi 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 103,930. Mae hyn 36.8% yn is na flwyddyn yn ôl (Medi 2021). Rhwng Awst a Medi 2022, cynyddodd trafodion yn y DU gan 0.2% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Medi 2022 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi gostwng yn sylweddol i 66,800 ym Medi 2022, o 74,400 yn Awst 2022. Mae hyn yn is na’r cyfartaledd 6 mis o 67,200.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 9.5% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022, i lawr o 13.1% yn Awst 2022.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 12.9%.

Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 9.6% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 7.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2022.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2022.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £223,798 2.0% 12.9%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2022) £176,131 4.1% 10.7%
Lloegr £314,278 0.0% 9.6%
Yr Alban £191,941 -0.9% 7.3%
De Ddwyrain Lloegr £403,515 -0.2% 10.3%
De Orllewin Lloegr £336,583 0.3% 11.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £252,982 0.0% 11.3%
Dwyrain Lloegr £362,197 0.1% 10.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £253,864 -0.3% 10.1%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £163,768 0.3% 5.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £219,005 0.6% 9.1%
Llundain £544,113 -0.6% 6.9%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £212,593 0.0% 8.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, roedd prisiau tai cyfartalog yn y DU wedi parhau’n ddigyfnewid rhwng Awst 2022 a Medi 2022, o’i gymharu â chynnydd o 3.3% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst a Medi 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.1% rhwng Awst 2022 a Medi 2022.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Medi 2022 Medi 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £463,150 £415,681 11.4%
Tŷ pâr £286,654 £258,268 11.0%
Tŷ teras £241,880 £221,471 9.2%
Fflat neu fflat deulawr £232,987 £222,368 4.8%
Holl £294,559 £269,003 9.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Gorffennaf 2022 Gorffennaf 2021
Lloegr 51,838 46,709
Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 - 2022) 2,134 2,821
Yr Alban 9,349 10,991
Cymru 3,023 3,506

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 264.7% yn Lloegr, lleihaodd gan 12.4% yn yr Alban a chynyddodd gan 199.9% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 15.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 41.9% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 6.1% yng Nghymru, wedi lleihau gan 11.1% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 9.6% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Mehefin

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2022, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 133.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 31.4% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Gorffennaf 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £383,076 1.6% 18.4%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £284,611 2.0% 14.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Medi 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £245,350 0.1% 8.9%
Cyn berchen-feddiannydd £345,044 -0.1% 10.1%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Medi 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £278,324 -0.2% 8.5%
Morgais £307,711 0.1% 9.8%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Ebrill a Mehefin 2022, cafwyd 186,804 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,113 o eiddo

  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 911 o eiddo

  • Lloegr oedd £175,000 i £199,999 – prynwyd 10,198 o eiddo

  • Yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 2,520 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2022 ar gyfer gwledydd y DU. Cyflwynir data ar gyfer Prydain Fawr mewn bandiau o £25,000 hyd at £10 miliwn, ac yna band mwy am dros £10 miliwn. Cyflwynir data ar gyfer Gogledd Iwerddon mewn bandiau o £25,000 hyd at £500,000, ac yna band mwy am dros £500,000.

Yn unol â pholisi adolygu Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915