Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Medi 2021
Cyhoeddwyd 17 Tachwedd 2021
1. Prif ystadegau ar gyfer Medi 2021
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £269,945
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 11.8%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.5%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 141.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Hydref 2021 am 9.30am ddydd Mercher 15 Rhagfyr 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
2. Datganiad economaidd
Cynyddodd prisiau tai y DU gan 11.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021, i fyny o 10.2% yn Awst 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.5% rhwng Awst a Medi 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst a Medi 2020).
Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Orllewin Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 16.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 2.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.
Mae Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Hydref 2021 yn dangos bod y galw gan brynwyr wedi cynyddu ryw ychydig. Mae diffyg cyflenwad yn golygu bod dewis cyfyngedig gan brynwyr, a hwn yw’r ffactor allweddol o hyd yn y twf cryf mewn prisiau tai.
Adroddodd crynodeb o amodau busnes Banc Lloegr 2021 Chwarter 3 fod y galw cryf am dai ar draws y rhan fwyaf o’r DU a phrinder eiddo i’w gwerthu yn parhau, a bod hyn wedi gwthio prisiau i fyny.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Medi 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 160,950. Mae hyn 68.4% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Awst a Medi 2021 cynyddodd trafodion y DU gan 67.5% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, yn dilyn y lefel uchaf erioed o drafodion ym Mehefin 2021, a’r lleihad dilynol yng Ngorffennaf.
Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Medi 2021 mai’r ffigwr o ran morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol) oedd 72,600, sydd i lawr o 74,200 yn Awst 2021.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 11.8% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021, i fyny o 10.2% yn Awst 2021.
Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 15.4%.
Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 12.3% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.
Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 11.5% yn y flwyddyn hyd at Fedi 2021.
Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 10.7% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 3 (Gorffennaf i Fedi) 2021.
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Cymru | £196,216 | 2.5% | 15.4% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 3 – 2021) | £159,109 | 3.0% | 10.7% |
| Lloegr | £287,895 | 2.9% | 11.5% |
| Yr Alban | £180,334 | -0.4% | 12.3% |
| De Ddwyrain Lloegr | £370,886 | 3.0% | 11.7% |
| De Orllewin Lloegr | £301,327 | 4.0% | 11.7% |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £231,318 | 4.9% | 14.7% |
| Dwyrain Lloegr | £327,982 | 1.7% | 9.3% |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £231,501 | 3.1% | 11.7% |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £152,776 | 3.8% | 13.3% |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £203,661 | 5.3% | 16.8% |
| Llundain | £507,253 | -2.9% | 2.8% |
| Swydd Gaerefrog a’r Humber | £192,354 | 4.0% | 11.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.5% rhwng Awst a Medi 2021, o’i gymharu â chynnydd o 1.1% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Awst a Medi 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.6% rhwng Awst a Medi 2021.
Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Medi 2021 | Medi 2020 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £419,714 | £368,665 | 13.8% |
| Tŷ pâr | £258,757 | £230,230 | 12.4% |
| Tŷ teras | £221,773 | £196,787 | 12.7% |
| Fflat neu fflat deulawr | £222,462 | £208,846 | 6.5% |
| Holl | £269,945 | £241,541 | 11.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.
Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
| Gwlad | Gorffennaf 2021 | Gorffennaf 2020 |
|---|---|---|
| Lloegr | 14,215 | 54,524 |
| Gogledd Iwerddon (gwerthiannau misol cyfartalog Chwarter 3 – 2021) | 2,510 | 1,766 |
| Yr Alban | 10,667 | 5,300 |
| Cymru | 1,008 | 2,391 |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Gorffennaf 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 69.1% yn Lloegr, cynyddodd gan 114.1% yn yr Alban a lleihaodd gan 51.6% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 62.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 3 2021.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 7.7% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 106.2% yn yr Alban, gan 50.8% yng Nghymru a chan 45.3% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Gorffennaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Gorffennaf 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Gorffennaf 2021, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 48.0% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 3.1% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Gorffennaf 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £337,608 | 2.7% | 14.9% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £248,163 | -4.6% | 6.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Medi 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £225,607 | 2.7% | 11.3% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £315,362 | 2.4% | 12.2% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Medi 2021 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £256,140 | 2.7% | 11.5% |
| Morgais | £281,673 | 2.5% | 11.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
8. Dosbarthiadau trafodion tai
Rhwng Ebrill a Mehefin 2021, cafwyd 231,366 o werthiannau eiddo.
Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:
- Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,251 o eiddo
- Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,315 o eiddo
- Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – prynwyd 12,615 o eiddo
- yr Alban oedd £75,000 i £99,999 – prynwyd 3,133 o eiddo
Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 2 (Ebrill i Mehefin) 2021 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.
Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.
Trafodion tai Lloegr
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 17 |
| £25,000 i £49,999 | 690 |
| £50,000 i £74,999 | 3212 |
| £75,000 i £99,999 | 6077 |
| £100,000 i £124,999 | 8000 |
| £125,000 i £149,999 | 11116 |
| £150,000 i £174,999 | 12615 |
| £175,000 i £199,999 | 12457 |
| £200,000 i £224,999 | 11406 |
| £225,000 i £249,999 | 11779 |
| £250,000 i £274,999 | 11420 |
| £275,000 i £299,999 | 10795 |
| £300,000 i £324,999 | 9484 |
| £325,000 i £349,999 | 8766 |
| £350,000 i £374,999 | 7988 |
| £375,000 i £399,999 | 7204 |
| £400,000 i £424,999 | 6074 |
| £425,000 i £449,999 | 5487 |
| £450,000 i £474,999 | 4918 |
| £475,000 i £499,999 | 4438 |
| £500,000 i £524,999 | 3381 |
| £525,000 i £549,999 | 3141 |
| £550,000 i £574,999 | 2704 |
| £575,000 i £599,999 | 2409 |
| £600,000 i £624,999 | 2166 |
| £625,000 i £649,999 | 1885 |
| £650,000 i £674,999 | 1698 |
| £675,000 i £699,999 | 1523 |
| £700,000 i £724,999 | 1294 |
| £725,000 i £749,999 | 1109 |
| £750,000 i £774,999 | 1065 |
| £775,000 i £799,999 | 945 |
| £800,000 i £824,999 | 833 |
| £825,000 i £849,999 | 713 |
| £850,000 i £874,999 | 705 |
| £875,000 i £899,999 | 584 |
| £900,000 i £924,999 | 508 |
| £925,000 i £949,999 | 430 |
| £950,000 i £974,999 | 438 |
| £975,000 i £999,999 | 373 |
| £1,000,000 i £1,249,999 | 2069 |
| £1,250,000 i £1,499,999 | 1251 |
| £1,500,000 i £1,749,999 | 654 |
| £1,750,000 i £1,999,999 | 355 |
| £2,000,000 i £4,999,999 | 810 |
| £5,000,000 i £9,999,999 | 77 |
| Mwy na £10,000,000 | 16 |
Trafodion tai Gogledd Iwerddon
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 1 |
| £25,000 i £49,999 | 49 |
| £50,000 i £74,999 | 475 |
| £75,000 i £99,999 | 950 |
| £100,000 i £124,999 | 931 |
| £125,000 i £149,999 | 1315 |
| £150,000 i £174,999 | 1052 |
| £175,000 i £199,999 | 695 |
| £200,000 i £224,999 | 431 |
| £225,000 i £249,999 | 353 |
| £250,000 i £274,999 | 277 |
| £275,000 i £299,999 | 274 |
| £300,000 i £324,999 | 181 |
| £325,000 i £349,999 | 156 |
| £350,000 i £374,999 | 106 |
| £375,000 i £399,999 | 110 |
| £400,000 i £424,999 | 67 |
| £425,000 i £449,999 | 51 |
| £450,000 i £474,999 | 47 |
| £475,000 i £499,999 | 49 |
| Mwy na £500,000 | 185 |
Trafodion tai yr Alban
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 123 |
| £25,000 i £49,999 | 845 |
| £50,000 i £74,999 | 2159 |
| £75,000 i £99,999 | 3133 |
| £100,000 i £124,999 | 2864 |
| £125,000 i £149,999 | 3019 |
| £150,000 i £174,999 | 2588 |
| £175,000 i £199,999 | 2281 |
| £200,000 i £224,999 | 1779 |
| £225,000 i £249,999 | 1563 |
| £250,000 i £274,999 | 1230 |
| £275,000 i £299,999 | 1037 |
| £300,000 i £324,999 | 805 |
| £325,000 i £349,999 | 648 |
| £350,000 i £374,999 | 460 |
| £375,000 i £399,999 | 400 |
| £400,000 i £424,999 | 310 |
| £425,000 i £449,999 | 229 |
| £450,000 i £474,999 | 203 |
| £475,000 i £499,999 | 178 |
| £500,000 i £524,999 | 129 |
| £525,000 i £549,999 | 113 |
| £550,000 i £574,999 | 75 |
| £575,000 i £599,999 | 78 |
| £600,000 i £624,999 | 57 |
| £625,000 i £649,999 | 47 |
| £650,000 i £674,999 | 39 |
| £675,000 i £699,999 | 38 |
| £700,000 i £724,999 | 28 |
| £725,000 i £749,999 | 20 |
| £750,000 i £774,999 | 24 |
| £775,000 i £799,999 | 21 |
| £800,000 i £824,999 | 16 |
| £825,000 i £849,999 | 9 |
| £850,000 i £874,999 | 12 |
| £875,000 i £899,999 | 18 |
| £900,000 i £924,999 | 14 |
| £925,000 i £949,999 | 6 |
| £950,000 i £974,999 | 6 |
| £975,000 i £999,999 | 11 |
| £1,000,000 i £1,249,999 | 51 |
| £1,250,000 i £1,499,999 | 16 |
| £1,500,000 i £1,749,999 | 13 |
| £1,750,000 i £1,999,999 | 3 |
| £2,000,000 i £4,999,999 | 4 |
| £5,000,000 i £9,999,999 | 0 |
| Mwy na £10,000,000 | 0 |
Trafodion tai Cymru
| Band prisiau | Trafodion tai |
|---|---|
| Llai na £25,000 | 0 |
| £25,000 i £49,999 | 39 |
| £50,000 i £74,999 | 312 |
| £75,000 i £99,999 | 765 |
| £100,000 i £124,999 | 1055 |
| £125,000 i £149,999 | 1251 |
| £150,000 i £174,999 | 1137 |
| £175,000 i £199,999 | 998 |
| £200,000 i £224,999 | 737 |
| £225,000 i £249,999 | 684 |
| £250,000 i £274,999 | 548 |
| £275,000 i £299,999 | 510 |
| £300,000 i £324,999 | 352 |
| £325,000 i £349,999 | 284 |
| £350,000 i £374,999 | 211 |
| £375,000 i £399,999 | 187 |
| £400,000 i £424,999 | 118 |
| £425,000 i £449,999 | 138 |
| £450,000 i £474,999 | 95 |
| £475,000 i £499,999 | 78 |
| £500,000 i £524,999 | 51 |
| £525,000 i £549,999 | 36 |
| £550,000 i £574,999 | 37 |
| £575,000 i £599,999 | 36 |
| £600,000 i £624,999 | 30 |
| £625,000 i £649,999 | 25 |
| £650,000 i £674,999 | 18 |
| £675,000 i £699,999 | 15 |
| £700,000 i £724,999 | 16 |
| £725,000 i £749,999 | 6 |
| £750,000 i £774,999 | 9 |
| £775,000 i £799,999 | 10 |
| £800,000 i £824,999 | 2 |
| £825,000 i £849,999 | 7 |
| £850,000 i £874,999 | 5 |
| £875,000 i £899,999 | 1 |
| £900,000 i £924,999 | 4 |
| £925,000 i £949,999 | 2 |
| £950,000 i £974,999 | 3 |
| £975,000 i £999,999 | 3 |
| £1,000,000 i £1,249,999 | 11 |
| £1,250,000 i £1,499,999 | 1 |
| £1,500,000 i £1,749,999 | 2 |
| £1,750,000 i £1,999,999 | 0 |
| £2,000,000 i £4,999,999 | 1 |
| £5,000,000 i £9,999,999 | 0 |
| Mwy na £10,000,000 | 0 |
9. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
10. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
11. Cysylltu
David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM
Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 0068317
Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk
Ffôn 07919 570915