Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mai 2023

Cyhoeddwyd 19 July 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2023

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £285,861

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.9%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.0%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 149.9

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2023 am 9.30am ddydd Mercher 16 Awst 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

1.9% oedd y newid canrannol blynyddol ar gyfer prisiau tai cyfartalog yn y DU yn y 12 mis hyd at Fai 2023, o’i gymharu â 3.2% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2023.

£286,000 oedd pris tŷ cyfartalog yn y DU ym Mai 2023, sy’n £6,000 yn uwch na 12 mis yn ôl, ond £7,000 yn is na’r brig diweddar ym Medi 2022. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog dros y 12 mis i £304,000 (1.7%) yn Lloegr, i £213,000 yng Nghymru (1.8%), i £193,000 yn yr Alban (3.2%) ac i £172,000 yng Ngogledd Iwerddon (5.0%).

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, nid oedd llawer o newid ym mhrisiau tai cyfartalog yn y DU rhwng Ebrill 2023 a Mai 2023, ond cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.3% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Cafwyd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 4.0% yn y 12 mis hyd at Fai 2023. Dwyrain Lloegr oedd yr ardal gyda’r twf blynyddol lleiaf yn Lloegr, lle na fu llawer o newid yn y prisiau yn y 12 mis hyd at Fai 2023.

Nododd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Mai 2023 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod mwy o ymatebwyr i’r arolwg wedi gweld lleihad yn yr ymholiadau gan brynwyr nag sydd wedi gweld cynnydd yn yr ymholiadau gan brynwyr. Er bod hyn yn parhau i ddangos tuedd dawel yn y galw gan brynwyr, dangosodd darlleniad mis diwethaf fod cyfran fwy o ymatebwyr wedi nodi lleihad yn yr ymholiadau gan brynwyr y mis diwethaf, ac mae adroddiad y mis diweddaraf yn cynrychioli’r canlyniadau lleiaf negyddol dros y flwyddyn ddiwethaf. Ar lefel rhanbarth, dangosodd bron pob rhan o’r DU ddarlleniad llai negyddol ar gyfer ymholiadau gan brynwyr newydd o’i gymharu â dechrau’r flwyddyn.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2023 Chwarter 2 alw gwannach a chyflenwad cryfach na blwyddyn yn ôl, ac felly ein bod agosach at gael cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw. Arweiniodd hyn at brisiau mwy sefydlog o’i gymharu â’r misoedd diweddar.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mai 2023, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 80,020. Mae hyn 27.0% yn is na 12 mis yn ôl (Mai 2022). Rhwng Ebrill 2023 a Mai 2023, lleihaodd trafodion yn y DU gan 2.7% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mai 2023 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 50,500 ym Mai 2023, o 49,000 yn Ebrill 2023.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.9% yn y 12 mis hyd at Fai 2023, i lawr o 3.2% yn Ebrill 2023.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y 12 mis hyd at Fai 2023 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 3.2%.

Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 1.7% yn y 12 mis hyd at Fai 2023.

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau tai gan 1.8% yn y 12 mis hyd at Fai 2023.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 5.0% yn y 12 mis hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2023.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £213,374 0.6% 1.8%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2023) £172,005 -1.8% 5.0%
Lloegr £303,557 -0.4% 1.7%
Yr Alban £192,518 3.0% 3.2%
De Ddwyrain Lloegr £388,873 -0.9% 1.5%
De Orllewin Lloegr £323,765 -0.2% 1.0%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £247,242 0.3% 3.4%
Dwyrain Lloegr £345,710 -0.8% 0.0%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £248,166 0.5% 2.2%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £158,779 -1.0% 4.0%
Gogledd Orllewin Lloegr £211,790 -0.2% 2.7%
Llundain £525,629 -1.2% 0.8%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £204,588 -0.4% 1.2%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, nid oedd prisiau tai cyfartalog yn y DU wedi newid llawer rhwng Ebrill 2023 a Mai 2023. Roedd hyn i lawr o gynnydd o 1.3% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl (Ebrill 2022 a Mai 2022). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.4% rhwng Ebrill 2023 a Mai 2023.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mai 2023 Mai 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £449,975 £439,909 2.3%
Tŷ pâr £274,943 £271,168 1.4%
Tŷ teras £233,140 £229,475 1.6%
Fflat neu fflat deulawr £231,404 £226,275 2.3%
Holl £285,861 £280,433 1.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Gwlad Mawrth 2023 Mawrth 2022
Cymru 2,393 3,717
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2023) 1,427 1,953
Lloegr 39,785 65,344
Yr Alban 7,992 8,189

Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2023, lleihaodd nifer y trafodion gan 10.9% yn Lloegr, lleihaodd gan 0.6% yn yr Alban, a lleihaodd gan 8.0% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 21.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2023.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023, fod nifer y trafodion CThEF wedi lleihau gan 14.4% yn Lloegr, wedi lleihau gan 15.6% yng Nghymru, wedi lleihau gan 0.5% yn yr Alban, ac wedi lleihau gan 11.9% yng Ngogledd Iwerddon.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2019 i 2023 yn ôl gwlad: Mawrth

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2023 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2022 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2023, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 9.6%.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion CThEF yn y DU wedi lleihau gan 13.4% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2023.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2023 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £407,509 1.2% 18.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £276,765 -0.9% 3.0%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £238,092 0.2% 1.9%
Cyn berchen-feddiannydd £334,499 -0.2% 1.9%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Mai 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £270,767 0.1% 1.7%
Morgais £298,259 0.0% 2.0%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost aimee.north@ons

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk

Ffôn 0131 378 4991