Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mai 2022

Cyhoeddwyd 20 July 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Mai 2022

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £283,496

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 12.8%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.2%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 148.7

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mehefin 2022 am 9.30am dydd Mercher 17 Awst 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 12.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, i fyny o 11.9% yn Ebrill 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Ebrill a Mai 2022, i fyny o gynnydd o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill a Mai 2021).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Ne Orllewin Lloegr lle cynyddodd prisiau gan 16.9% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 8.2% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022.

Dangosodd canlyniadau Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Mai 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod dirywiad cymedrol yn y galw gan brynwyr yn ystod Mai gyda diwedd wyth mis olynol o ddarlleniadau cadarnhaol ymlaen llaw.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2022 Chwarter 2 fod cynnydd cymedrol yn yr eiddo sydd ar gael i’w gwerthu ar draws y DU a bod chwyddiant prisiau tai yn dechrau cymedroli mewn rhai ardaloedd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mai 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 109,210. Mae hyn 5.1% yn is na flwyddyn yn ôl (Mai 2021). Rhwng Ebrill a Mai 2022, cynyddodd trafodion yn y DU gan 1.3% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mai 2022 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu i 66,2000 ym Mai 2022, o 66,100 yn Ebrill 2022. Mae hyn ychydig yn is na’r cyfartaledd 12 mis cyn y pandemig hyd at Chwefror 2020 o 66,700.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 12.8% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022, i fyny o 11.9% yn Ebrill 2022.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fai 2022 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 14.4%.

Yn yr Alban, cynyddodd prisiau tai gan 11.2% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022.

Yn Lloegr, cynyddodd prisiau tai gan 13.1% yn y flwyddyn hyd at Fai 2022.

Yng Ngogledd Iwerddon, cynyddodd prisiau tai gan 10.4% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2022.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £212,414 0.9% 14.4%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2022) £164,590 3.4% 10.4%
Lloegr £302,278 1.3% 13.1%
Yr Alban £187,517 1.1% 11.2%
De Ddwyrain Lloegr £388,531 1.4% 13.5%
De Orllewin Lloegr £323,418 1.0% 16.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £244,060 1.9% 15.2%
Dwyrain Lloegr £353,574 2.6% 14.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £247,162 2.2% 14.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £153,592 -0.1% 9.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £205,783 -0.2% 11.5%
Llundain £526,183 0.2% 8.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £204,835 2.1% 12.6%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.2% rhwng Ebrill 2022 a Mai 2022, i fyny o 0.4% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ebrill 2021 a Mai 2021).

Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.9% rhwng Ebrill 2022 a Mai 2022.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mai 2022 Mai 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £444,562 £386,982 14.9%
Tŷ pâr £273,591 £240,848 13.6%
Tŷ teras £232,665 £205,877 13.0%
Fflat neu fflat deulawr £228,492 £210,902 8.3%
Holl £283,496 £251,286 12.8%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mawrth 2022 Mawrth 2021
Lloegr 44,650 115,873
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2022) 1,812 2,505
Yr Alban 8,041 12,248
Cymru 2,600 5,040

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 44.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 32.8% yn yr Alban a lleihaodd gan 26.0% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 19.3% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022 fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 38.1% yn Lloegr, 32.5% yn yr Alban, 30.5% yng Ngogledd Iwerddon a 23.7% yng Nghymru.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2018 i 2022 yn ôl gwlad: Mawrth

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mawrth 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2022, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 41.7% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 37.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 22.5% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mawrth 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £402,933 5.2% 26.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £270,063 0.4% 8.4%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Mai 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £236,783 1.5% 12.5%
Cyn berchen-feddiannydd £331,579 1.1% 13.4%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Mai 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £268,731 1.1% 12.6%
Morgais £295,980 1.3% 13.1%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915