Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Mawrth 2022

Cyhoeddwyd 18 May 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2022

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £206,395

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 11.7%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 0.4%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 151.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2022 am 9.30am dydd Mercher 22 Mehefin 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 11.7% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022, i lawr o 14.5% yn Chwefror 2022. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU, sef 9.8% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.4% rhwng Chwefror a Mawrth 2022, o’i gymharu â chynnydd o 2.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror 2021 a Mawrth 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Chwefror a Mawrth 2022.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 29.9% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 37.0% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mro Morgannwg, gan godi 24.3% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022 i £313,000. Mewn cyferbyniad, Sir Ddinbych welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 7.9% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £193,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai sengl y twf blynyddol mwyaf, gan godi 14.5% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022 i £321,000. Gwelwyd y cynnydd blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 5.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022, i’r pris cyfartalog o £129,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 11.7% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2022, i lawr o 14.5% yn Chwefror 2022.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Mawrth 2022 Mawrth 2021 Gwahaniaeth
Abertawe £185,560 £166,612 11.4%
Blaenau Gwent £125,622 £104,879 19.8%
Bro Morgannwg £313,180 £251,871 24.3%
Caerdydd £248,958 £227,722 9.3%
Caerffili £174,261 £154,035 13.1%
Casnewydd £226,443 £202,690 11.7%
Castell-nedd Port Talbot £152,384 £130,879 16.4%
Ceredigion £247,001 £209,727 17.8%
Conwy £206,285 £182,080 13.3%
Gwynedd £208,395 £179,909 15.8%
Merthyr Tudful £145,269 £121,343 19.7%
Pen-y-bont ar Ogwr £190,691 £173,699 9.8%
Powys £243,443 £210,510 15.6%
Rhondda Cynon Taf £145,311 £130,503 11.3%
Sir Benfro £229,882 £199,970 15%
Sir Ddinbych £193,223 £179,024 7.9%
Sir Fynwy £342,225 £299,118 14.4%
Sir y Fflint £203,354 £183,970 10.5%
Sir Gaerfyrddin £200,873 £170,219 18%
Tor-faen £185,046 £164,179 12.7%
Wrecsam £198,184 £175,654 12.8%
Ynys Môn £227,506 £203,657 11.7%
Cymru £206,395 £184,807 11.7%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym Mawrth 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £342,000 oedd y pris cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £126,000 oedd y pris cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Mawrth 2022 Mawrth 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £320,539 £279,878 14.5%
Tŷ pâr £199,786 £178,224 12.1%
Tŷ teras £159,608 £144,838 10.2%
Fflat neu fflat deulawr £129,412 £123,056 5.2%
Holl £206,395 £184,807 11.7%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Ionawr 2022 Ionawr 2021
Abertawe 131 240
Blaenau Gwent 32 78
Bro Morgannwg 77 155
Caerdydd 186 375
Caerffili 91 154
Casnewydd 101 143
Castell-nedd Port Talbot 68 158
Ceredigion 43 94
Conwy 62 171
Gwynedd 95 132
Merthyr Tudful 25 48
Pen-y-bont ar Ogwr 90 135
Powys 70 135
Rhondda Cynon Taf 141 215
Sir Benfro 75 150
Sir Ddinbych 65 82
Sir Gaerfyrddin 124 185
Sir Fynwy 43 87
Sir y Fflint 113 143
Tor-faen 59 79
Wrecsam 83 139
Ynys Môn 46 75
Cymru 1,820 3,173

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2022, lleihaodd nifer y trafodion gan 29.9% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 2.3% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Ionawr 2018 3,170
Ionawr 2019 3,070
Ionawr 2020 3,171
Ionawr 2021 3,173
Ionawr 2022 1,820

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £304,116 7.6% 25.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £201,129 0.9% 13.3%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £177,167 0.4% 11.1%
Cyn berchen-feddiannydd £240,878 0.4% 12.4%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Mawrth 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £199,660 0.2% 11.1%
Morgais £210,314 0.5% 11.9%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Ionawr 2022
Cymru 4

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288