Ystadegau swyddogol achrededig

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Mawrth 2021

Cyhoeddwyd 19 May 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Mawrth 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £256,405

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.2%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 1.8%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 134.5

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2021 am 9.30am ddydd Mercher 16 Mehefin 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 10.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, i fyny o 9.2% yn Chwefror 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.8% rhwng Chwefror a Mawrth 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror a Mawrth 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yn Swydd Gaerefrog a’r Humber lle cynyddodd prisiau gan 14.0% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 3.7% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021.

Mae Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ym Mawrth 2021 yn dangos bod gweithgarwch y farchnad gwerthu tai wedi cynyddu’n sylweddol dros y mis, gyda dangosyddion ar gyfer ymholiadau, gwerthiannau a chyfarwyddiadau newydd i gyd yn gwella’n amlwg, yn dilyn estyn y gwyliau toll stamp a llacio cyfyngiadau’r cyfnod clo yn raddol.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes 2021 Chwarter 1 Asiantau Banc Lloegr fod cysylltiadau yn dweud bod y rhagolygon ar gyfer y farchnad dai wedi gwella, gyda gweithgarwch wedi ei gynnal gan estyn y gwyliau treth ar gyfer trafodion eiddo a’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws. Mynegodd asiantau tai bryder am brinder eiddo sydd ar werth gan ddweud fod prynwyr i’w gweld yn llai sensitif o ran prisiau nag arfer.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Mawrth 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 190,980. Mae hyn 102.4% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Chwefror a Mawrth 2021, cynyddodd trafodion gan 32.2% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Mawrth 2021 mai nifer y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai (dangosydd ar gyfer rhoi benthyg yn y dyfodol) ym Mawrth 2021 oedd 82,700.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021, i fyny o 9.2% yn Chwefror 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 11.0%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 10.6% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 10.2% yn y flwyddyn hyd at Fawrth 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 6.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 1 (Ionawr i Fawrth) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £185,431 3.1% 11.0%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2021) £149,178 1.1% 6.0%
Lloegr £274,615 1.7% 10.2%
Yr Alban £166,566 2.8% 10.6%
De Ddwyrain Lloegr £348,615 0.9% 7.9%
De Orllewin Lloegr £287,650 2.6% 10.9%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £219,950 1.9% 12.4%
Dwyrain Lloegr £315,059 1.2% 9.4%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £220,982 1.8% 10.7%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £145,893 3.0% 13.7%
Gogledd Orllewin Lloegr £187,924 1.2% 12.8%
Llundain £500,310 1.0% 3.7%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £188,575 3.4% 14.0%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 1.8% rhwng Chwefror a Mawrth 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.9% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Chwefror a Mawrth 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 2.1% rhwng Chwefror a Mawrth 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Mawrth 2021 Mawrth 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £395,202 £353,711 11.7%
Tŷ pâr £244,814 £221,427 10.6%
Tŷ teras £211,277 £188,734 11.9%
Fflat neu fflat deulawr £214,365 £204,144 5.0%
Holl £256,405 £232,684 10.2%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Ionawr 2021 Ionawr 2020
Lloegr 53,323 56,603
Gogledd Iwerddon (Chwarter 1 – 2021) 2,244 1,788
Yr Alban 7,562 7,022
Cymru 2,597 3,171

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 5.7% yn Lloegr a chan 10.2% yn yr Alban, a lleihaodd gan 11.0% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 41.8% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 17.8% yn Lloegr, 10.8% yn yr Alban, 0.5% yng Nghymru ac 19.4% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Ionawr

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Ionawr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Ionawr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Ionawr 2021, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 6.3% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 16.4% yn y flwyddyn hyd at Ionawr 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Ionawr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £302,956 0.4% 2.9%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £247,471 0.2% 8.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Mawrth 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £214,452 1.6% 9.5%
Cyn berchen-feddiannydd £299,590 2.2% 11.1%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Mawrth 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £244,199 2.0% 10.4%
Morgais £267,336 1.9% 10.3%

8. Dosbarthiadau trafodion tai

Rhwng Hydref a Rhagfyr 2020, cafwyd 271,107 o werthiannau eiddo.

Yr amrediad pris mwyaf poblogaidd ar gyfer:

  • Cymru oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,624 o eiddo
  • Gogledd Iwerddon oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 1,322 o eiddo
  • Lloegr oedd £150,000 i £174,999 – prynwyd 15,369 o eiddo
  • yr Alban oedd £125,000 i £149,999 – prynwyd 3,802 o eiddo

Mae’r siartiau isod yn dangos dosbarthiad trafodion tai ar gyfer Chwarter 4 (Hydref i Rhagfyr) 2020 ar gyfer gwledydd y DU. Mae’r data wedi ei gyflwyno mewn bandiau o £25,000 hyd at £1 miliwn, wedi ei ddilyn gan fandiau mwy hyd at a dros £10 miliwn.

Yn unol â pholisi diwygiadau Mynegai Prisiau Tai y DU, bydd nifer y trafodion yn cynyddu wrth i ragor o ddata gael ei gynnwys yn y mynegai, a fyddai hefyd yn effeithio ar y dosbarthiadau a gyflwynir yn y dadansoddiad hwn.

Trafodion tai Lloegr

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 44
£25,000 i £49,999 982
£50,000 i £74,999 4,291
£75,000 i £99,999 8,147
£100,000 i £124,999 10,389
£125,000 i £149,999 13,871
£150,000 i £174,999 15,369
£175,000 i £199,999 15,114
£200,000 i £224,999 13,545
£225,000 i £249,999 13,937
£250,000 i £274,999 12,642
£275,000 i £299,999 11,803
£300,000 i £324,999 10,589
£325,000 i £349,999 9,750
£350,000 i £374,999 8,406
£375,000 i £399,999 7,794
£400,000 i £424,999 6,353
£425,000 i £449,999 5,950
£450,000 i £474,999 5,058
£475,000 i £499,999 4,875
£500,000 i £524,999 3,643
£525,000 i £549,999 3,293
£550,000 i £574,999 3,075
£575,000 i £599,999 2,810
£600,000 i £624,999 2,223
£625,000 i £649,999 2,074
£650,000 i £674,999 1,833
£675,000 i £699,999 1,643
£700,000 i £724,999 1,388
£725,000 i £749,999 1,256
£750,000 i £774,999 1,210
£775,000 i £799,999 999
£800,000 i £824,999 772
£825,000 i £849,999 793
£850,000 i £874,999 759
£875,000 i £899,999 656
£900,000 i £924,999 546
£925,000 i £949,999 480
£950,000 i £974,999 476
£975,000 i £999,999 410
£1,000,000 i £1,249,999 2,257
£1,250,000 i £1,499,999 1,316
£1,500,000 i £1,749,999 653
£1,750,000 i £1,999,999 415
£2,000,000 i £4,999,999 807
£5,000,000 i £9,999,999 78
Mwy na £10,000,000 13

Trafodion tai Gogledd Iwerddon

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 148
£25,000 i £49,999 1,050
£50,000 i £74,999 2,661
£75,000 i £99,999 3,739
£100,000 i £124,999 3,526
£125,000 i £149,999 3,802
£150,000 i £174,999 3,597
£175,000 i £199,999 3,258
£200,000 i £224,999 2,573
£225,000 i £249,999 2,472
£250,000 i £274,999 1,946
£275,000 i £299,999 1,517
£300,000 i £324,999 1,127
£325,000 i £349,999 882
£350,000 i £374,999 754
£375,000 i £399,999 572
£400,000 i £424,999 442
£425,000 i £449,999 320
£450,000 i £474,999 274
£475,000 i £499,999 252
£500,000 i £524,999 194
£525,000 i £549,999 149
£550,000 i £574,999 124
£575,000 i £599,999 99
£600,000 i £624,999 100
£625,000 i £649,999 73
£650,000 i £674,999 64
£675,000 i £699,999 55
£700,000 i £724,999 51
£725,000 i £749,999 29
£750,000 i £774,999 36
£775,000 i £799,999 33
£800,000 i £824,999 25
£825,000 i £849,999 21
£850,000 i £874,999 23
£875,000 i £899,999 13
£900,000 i £924,999 11
£925,000 i £949,999 14
£950,000 i £974,999 13
£975,000 i £999,999 10
£1,000,000 i £1,249,999 63
£1,250,000 i £1,499,999 35
£1,500,000 i £1,749,999 13
£1,750,000 i £1,999,999 7
£2,000,000 i £4,999,999 10

Trafodion tai yr Alban

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 16
£25,000 i £49,999 161
£50,000 i £74,999 688
£75,000 i £99,999 1,018
£100,000 i £124,999 1,054
£125,000 i £149,999 1,322
£150,000 i £174,999 1,070
£175,000 i £199,999 690
£200,000 i £224,999 440
£225,000 i £249,999 411
£250,000 i £274,999 283
£275,000 i £299,999 236
£300,000 i £324,999 146
£325,000 i £349,999 116
£350,000 i £374,999 92
£375,000 i £399,999 62
£400,000 i £424,999 46
£425,000 i £449,999 35
£450,000 i £474,999 24
£475,000 i £499,999 31
Mwy na £500,000 122

Trafodion tai Cymru

Band prisiau Trafodion tai
Llai na £25,000 1
£25,000 i £49,999 65
£50,000 i £74,999 438
£75,000 i £99,999 1,009
£100,000 i £124,999 1,304
£125,000 i £149,999 1,624
£150,000 i £174,999 1,468
£175,000 i £199,999 1,144
£200,000 i £224,999 886
£225,000 i £249,999 874
£250,000 i £274,999 687
£275,000 i £299,999 572
£300,000 i £324,999 343
£325,000 i £349,999 352
£350,000 i £374,999 277
£375,000 i £399,999 221
£400,000 i £424,999 142
£425,000 i £449,999 127
£450,000 i £474,999 90
£475,000 i £499,999 90
£500,000 i £524,999 49
£525,000 i £549,999 44
£550,000 i £574,999 52
£575,000 i £599,999 34
£600,000 i £624,999 28
£625,000 i £649,999 26
£650,000 i £674,999 22
£675,000 i £699,999 20
£700,000 i £724,999 11
£725,000 i £749,999 15
£750,000 i £774,999 8
£775,000 i £799,999 8
£800,000 i £824,999 11
£825,000 i £849,999 3
£850,000 i £874,999 3
£875,000 i £899,999 2
£900,000 i £924,999 5
£925,000 i £949,999 1
£950,000 i £974,999 2
£975,000 i £999,999 5
£1,000,000 i £1,249,999 11
£1,250,000 i £1,499,999 5
£1,500,000 i £1,749,999 1

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost
david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn
0300 0068317

Natalie Jones, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost
natalie.jones@ons.gov.uk

Ffôn
01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost
ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn
028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost
rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn
07919 570915