Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2025
Cyhoeddwyd 17 Medi 2025
Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2025
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £270,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 2.8%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.3%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 103.4
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai’r DU yn cael ei gyhoeddi ar gyfer Awst 2025 am 9:30yb ar ddydd Mercher 22 Hydref 2025. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
Ar 20 Awst 2025, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, sy’n lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
2. Datganiad economaidd
Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn 2.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.6% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2025.
£270,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yng Ngorffennaf 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £8,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025 yn Lloegr i £292,000 (2.7%), cynyddodd yng Nghymru i £209,000 (2.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £192,000 (3.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2025 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (5.5%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Mehefin 2025 a Gorffennaf 2025, o’i gymharu â chynnydd o 1.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Mehefin 2025 a Gorffennaf 2025.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 7.9% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025. Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 0.7% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025.
Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Gorffennaf 2025 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod y galw gan brynwyr a mesurau gwerthu y cytunwyd arnynt wedi symud yn ôl i diriogaeth negyddol, tra bod prisiau tai wedi gostwng ychydig ar y lefel genedlaethol.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Gorffennaf 2025, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion ar eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 96,000. Mae hyn 4.3% yn uwch na 12 mis yn ôl (Gorffennaf 2024). Rhwng Mehefin 2025 a Gorffennaf 2025, cynyddodd trafodion y DU gan 1.1% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Mehefin 2025 a Gorffennaf 2025, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 6.2% yn Lloegr, wedi cynyddu gan 6.7% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 4.5% yng Nghymru ac wedi lleihau gan 4.7% yng Ngogledd Iwerddon.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Gorffennaf 2025 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol, wedi cynyddu gan 800 i 65,400 yng Ngorffennaf.
Adroddodd Crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr 2025 – Chwarter 2, er bod prynwyr yn cymryd mwy o amser i wneud penderfyniad i brynu, mae’n ymddangos bod y galw’n sefydlogi ac mae prisiau tai yn tyfu gan ddigidau canol-sengl yn nhermau canrannol. Yr eithriad yw Llundain a de Lloegr lle mae’r farchnad yn parhau’n ddigalon, mae’r galw yn wan ac mae rhywfaint o dystiolaeth o brisiau’n gostwng.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 4 blynedd diwethaf
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Roedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU yn 2.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025, i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 3.6% yn y 12 mis hyd at Fehefin 2025.
£270,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yng Ngorffennaf 2025 (amcangyfrif dros dro), sy’n £8,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2025 yn Lloegr i £292,000 (2.7%), cynyddodd yng Nghymru i £209,000 (2.0%) a chynyddodd yn yr Alban i £192,000 (3.3%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2025 i £185,000 yng Ngogledd Iwerddon (5.5%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Cymru | £209,178 | -0.4% | 2.0% |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2025) | £185,108 | 0.3% | 5.5% |
Lloegr | £291,852 | 0.3% | 2.7% |
Yr Alban | £192,050 | 0.5% | 3.3% |
De Ddwyrain Lloegr | £381,764 | -0.4% | 1.2% |
De Orllewin Lloegr | £306,148 | 1.4% | 1.4% |
Dwyrain Canolbarth Lloegr | £239,830 | 0.4% | 2.8% |
Dwyrain Lloegr | £337,650 | -0.1% | 2.1% |
Gorllewin Canolbarth Lloegr | £247,763 | 0.3% | 3.3% |
Gogledd Ddwyrain Lloegr | £163,684 | 0.0% | 7.9% |
Gogledd Orllewin Lloegr | £213,266 | 0.4% | 4.8% |
Llundain | £561,587 | 0.0% | 0.7% |
Swydd Gaerefrog a Humber | £205,656 | 0.7% | 3.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Mehefin 2025 a Gorffennaf 2025, o’i gymharu â chynnydd o 1.1% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.7% rhwng Mehefin 2025 a Gorffennaf 2025.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
Math o eiddo | Gorffennaf 2025 | Gorffennaf 2024 | Gwahaniaeth |
---|---|---|---|
Tŷ sengl | £440,309 | £425,199 | 3.6% |
Tŷ pâr | £272,456 | £262,908 | 3.6% |
Tŷ teras | £226,794 | £220,655 | 2.8% |
Fflat neu fflat deulawr | £197,037 | £195,740 | 0.7% |
Holl | £269,735 | £262,479 | 2.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Yn 2024, dychwelodd Cofrestrfa Tir EF yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol, ond yn gwella o hyd. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag yn hanesyddol a dylent nodi’r ansicrwydd uwch ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU o Awst 2025; mae rhagor o fanylion ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
4.1 Nifer y gwerthiannau
Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Gorffennaf 2025 yn seiliedig ar oddeutu 38,000 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 7,000 ar gyfer yr Alban, a 2,100 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 47% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Gorffennaf 2025, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
Mae rhagor o wybodaeth am ffynonellau data, polisi diwygiadau, dulliau ac ansawdd ar gael yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol
Gwlad | Mai 2025 | Mai 2024 |
---|---|---|
Lloegr | 32,404 | 59,419 |
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2025) | 1,498 | 1,838 |
Yr Alban | 8,840 | 9,125 |
Cymru | 2,119 | 3,145 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2024 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mawrth 2025, cynyddodd nifer y trafodion gan 81.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 20.4% yn yr Alban, a chynyddodd gan 54.1% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 20.6% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 1 2025.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 104.2% yn Lloegr, wedi lleihau gan 1.0% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 22.6% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 53.4% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2021 i 2025 yn ôl gwlad: Mai
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mawrth 2025 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2024 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mawrth 2025, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 53.8%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF ar gyfer y DU wedi cynyddu gan 89.9% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2025.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
Statws eiddo | Pris cyfartalog Mai 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Tai a adeiledir o’r newydd | £350,787 | -4.0% | 7.8% |
Eiddo presennol a ailwerthwyd | £260,607 | 1.3% | 2.1% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
Math o brynwr | Pris cyfartalog Gorffennaf 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Prynwr am y tro cyntaf | £228,233 | 0.3% | 2.9% |
Cyn berchen-feddiannydd | £331,693 | 0.2% | 2.6% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
Statws cyllido | Pris cyfartalog Gorffennaf 2025 | Newid misol | Newid blynyddol |
---|---|---|---|
Arian parod | £256,908 | -0.2% | 2.3% |
Morgais | £279,203 | -0.3% | 3.0% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
7. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
9. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Aimee North, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
Ebost aimee.north@ons
Ffôn 01633 456400
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Anne MacDonald, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
Ebost anne.macDonald@ros.gov.uk
Ffôn 0131 378 4991