Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Gorffennaf 2022

Cyhoeddwyd 14 September 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2022

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £219,951

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 17.6%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd 2.8%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 161.6

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2022 am 9.30am dydd Mercher 19 Hydref 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai Cymru gan 17.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022, i fyny o 9.1% ym Mehefin 2022. Roedd prisiau tai Cymru yn tyfu’n gyflymach na chyfradd flynyddol y DU sef 15.5% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.8% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2022, o’i gymharu â lleihad o 4.7% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin 2021 a Gorffennaf 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 2.9% rhwng Mehefin 2022 a Gorffennaf 2022.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 48.3% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 34.5% dros yr un cyfnod.

Yng Nghymru, dangosodd pob awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022. Gwelwyd y twf cryfaf ym Mlaenau Gwent, gan godi 20.0% i £132,000 yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022. Mewn cyferbyniad, Caerdydd welodd y newid blynyddol lleiaf, gyda chynnydd o 8.3% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022, a’r pris tŷ cyfartalog oedd £256,000.

O’r holl fathau o eiddo, dangosodd tai teras y twf blynyddol mwyaf, gan godi 18.4% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022 i £173,000. Gwelwyd y cynnydd blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 10.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022, i’r pris cyfartalog o £136,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 17.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2022, i fyny o 9.1% ym Mehefin 2022.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Gorffennaf 2022 Gorffennaf 2021 Gwahaniaeth
Abertawe £194,750 £174,138 11.8%
Blaenau Gwent £132,156 £110,101 20%
Bro Morgannwg £306,294 £260,260 17.7%
Caerdydd £256,116 £236,383 8.3%
Caerffili £186,215 £163,935 13.6%
Casnewydd £233,711 £204,060 14.5%
Castell-nedd Port Talbot £163,369 £140,372 16.4%
Ceredigion £247,781 £220,411 12.4%
Conwy £220,491 £192,596 14.5%
Gwynedd £211,247 £187,732 12.5%
Merthyr Tudful £152,500 £127,334 19.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £205,549 £182,124 12.9%
Powys £239,700 £215,868 11%
Rhondda Cynon Taf £159,240 £139,129 14.5%
Sir Benfro £248,675 £209,996 18.4%
Sir Ddinbych £200,390 £180,492 11%
Sir Fynwy £350,853 £304,163 15.4%
Sir y Fflint £213,694 £188,213 13.5%
Sir Gaerfyrddin £201,526 £179,807 12.1%
Tor-faen £197,812 £175,191 12.9%
Wrecsam £207,803 £179,375 15.8%
Ynys Môn £240,191 £211,730 13.4%
Cymru £219,951 £187,050 17.6%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Ym mis Gorffennaf 2022, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £351,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £132,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Gorffennaf 2022 Gorffennaf 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £335,993 £284,282 18.2%
Tŷ pâr £213,446 £180,973 17.9%
Tŷ teras £172,702 £145,908 18.4%
Fflat neu fflat deulawr £136,472 £123,794 10.2%
Holl £219,951 £187,050 17.6%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Awdurdodau lleol Mai 2022 Mai 2021
Abertawe 185 224
Blaenau Gwent 51 82
Bro Morgannwg 103 181
Caerdydd 230 402
Caerffili 151 233
Casnewydd 119 173
Castell-nedd Port Talbot 111 139
Ceredigion 47 92
Conwy 109 187
Gwynedd 93 125
Merthyr Tudful 42 68
Pen-y-bont ar Ogwr 95 200
Powys 76 134
Rhondda Cynon Taf 223 293
Sir Benfro 79 170
Sir Ddinbych 77 105
Sir Gaerfyrddin 141 238
Sir Fynwy 57 117
Sir y Fflint 126 174
Tor-faen 75 99
Wrecsam 91 129
Ynys Môn 50 79
Cymru 2,331 3,644

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2022 yn cynyddu wrth i fwy o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 48.3% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 4.0% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Fai 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Mai 2018 3,799
Mai 2019 3,854
Mai 2020 1,576
Mai 2021 3,644
Mai 2022 2,331

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £308,649 1.4% 25.5%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £206,808 0.1% 13.5%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £189,576 2.4% 17.3%
Cyn berchen-feddiannydd £255,693 3.1% 18.0%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws ariannu Pris cyfartalog Gorffennaf 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £212,623 2.7% 16.9%
Morgais £224,217 2.8% 17.9%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Mai 2022
Cymru 5

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288