Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Gorffennaf 2021

Cyhoeddwyd 15 September 2021

1. Prif ystadegau ar gyfer Gorffennaf 2021

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £255,535

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 8.0%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd -3.7%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 134.0

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Awst 2021 am 9.30am ddydd Mercher 20 Hydref 2021. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 8.0% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, i lawr o 13.1% ym Mehefin 2021. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.7% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin a Gorffennaf 2020).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 10.8% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021. Roedd y twf blynyddol isaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 2.2% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) ar gyfer Gorffennaf 2021 y cafwyd mis llawer tawelach o ran gweithgarwch newydd yn y farchnad dai oherwydd bod y gwyliau Toll Stamp yn dechrau cael eu tynnu’n ôl yn raddol.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Asiantau Banc Lloegr ar gyfer 2021 Chwarter 2 fod y galw cryf am dai yn parhau ar draws y rhan fwyaf o’r DU a bod prinder eiddo i’w gwerthu wedi gwthio prisiau i fyny.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU ar gyfer Gorffennaf 2021, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 73,740. Mae hyn 4.2% yn uwch na flwyddyn yn ôl. Rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021, lleihaodd trafodion y DU gan 62.8% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, yn dilyn y lefel uchaf erioed o drafodion ym Mehefin 2021.

Dangosodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Gorffennaf 2021 mai nifer y morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tŷ (dangosydd rhoi benthyg yn y dyfodol) oedd 75,200, sydd i lawr o 80,300 ym Mehefin 2021.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 8.0% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021, i lawr o 13.1% ym Mehefin 2021.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021 yn yr Alban, lle cynyddodd prisiau tai gan 14.6%.

Yng Nghymru cynyddodd prisiau tai gan 11.6% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 7.0% yn y flwyddyn hyd at Orffennaf 2021.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 9.0% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £187,960 -4.0% 11.6%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2021) £153,449 2.9% 9.0%
Lloegr £270,973 -4.5% 7.0%
Yr Alban £177,166 2.0% 14.6%
De Ddwyrain Lloegr £354,278 -1.3% 8.8%
De Orllewin Lloegr £277,178 -5.8% 5.2%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £214,169 -5.5% 6.9%
Dwyrain Lloegr £312,076 -3.8% 6.8%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £220,759 -4.9% 8.5%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £144,935 -3.5% 10.8%
Gogledd Orllewin Lloegr £185,171 -7.6% 8.1%
Llundain £494,673 -2.0% 2.2%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £180,324 -6.8% 6.9%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 3.7% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021, o’i gymharu â chynnydd o 0.8% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Mehefin a Gorffennaf 2020). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 4.4% rhwng Mehefin a Gorffennaf 2021.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Gorffennaf 2021 Gorffennaf 2020 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £391,747 £359,581 8.9%
Tŷ pâr £245,218 £225,782 8.6%
Tŷ teras £207,267 £192,521 7.7%
Fflat neu fflat deulawr £218,829 £206,198 6.1%
Holl £255,535 £236,687 8.0%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Mai 2021 Mai 2020
Lloegr 26,733 30,798
Gogledd Iwerddon (gwerthiannau misol cyfartalog Chwarter 2 – 2021) 2,396 670
Yr Alban 8,379 3,336
Cymru 1,572 1,576

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2021, cynyddodd nifer y trafodion gan 2.3% yn Lloegr, 171.6% yn yr Alban, ac 13.7% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 335.0% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi cynyddu gan 115.0% yn Lloegr, 155.3% yn yr Alban, 141.2% yng Nghymru a 366.7% yng Ngogledd Iwerddon yn y flwyddyn hyd at Fai 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Mai

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mai 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Mai 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Mai 2021, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 25.5% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, bod nifer y trafodion yn y DU wedi cynyddu gan 122.0% yn y flwyddyn hyd at Fai 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Mai 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £329,801 0.3% 12.0%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £247,967 0.6% 9.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Gorffennaf 2021 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £214,237 -3.7% 7.7%
Cyn berchen-feddiannydd £297,324 -3.9% 8.3%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws cyllido Pris cyfartalog Gorffennaf 2021 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £242,901 -3.8% 8.1%
Morgais £266,285 -3.8% 7.9%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

David Lockett, Rheolwr Cynnyrch, Cofrestrfa Tir EM

Ebost david.lockett@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 0068317

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915