Ystadegau Gwladol

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Chwefror 2023

Cyhoeddwyd 19 April 2023

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2023

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £215,343

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 6.4%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.6%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 158.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2022 am 9.30am ddydd Mercher 24 Mai 2023. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 6.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023. Roedd hyn i fyny o 5.7% yn y 12 mis hyd at Ionawr 2023 ac yn gyflymach na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU, sef 5.5% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.6% rhwng Ionawr 2023 a Chwefror 2023, o’i gymharu â gostyngiad o 1.2% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.2% rhwng Ionawr 2023 a Chwefror 2023.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 29.0% yng Nghymru a chan 30.5% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd 21 awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023. Gwelwyd y newid canrannol blynyddol mwyaf yn Sir Gaerfyrddin, gan godi 14.8% i £214,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023. Mewn cyferbyniad, Gwynedd welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 1.3% i £201,000 yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023.

Yng Nghymru, dangosodd tai sengl y chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan godi 7.6% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023 i £335,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan godi 2.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023, i’r pris cyfartalog o £135,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghrymu, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 6.4% yn y 12 mis hyd at Chwefror 2023, i fyny o 5.7% yn Ionawr 2023.

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Chwefror 2023 Chwefror 2022 Gwahaniaeth
Abertawe £189,418 £184,057 2.9%
Blaenau Gwent £137,240 £122,940 11.6%
Bro Morgannwg £313,772 £290,963 7.8%
Caerdydd £266,159 £247,852 7.4%
Caerffili £184,153 £174,269 5.7%
Casnewydd £243,492 £221,942 9.7%
Castell-nedd Port Talbot £165,853 £152,036 9.1%
Ceredigion £260,366 £246,229 5.7%
Conwy £214,757 £207,529 3.5%
Gwynedd £201,298 £203,961 -1.3%
Merthyr Tudful £157,848 £140,428 12.4%
Pen-y-bont ar Ogwr £204,956 £189,733 8%
Powys £251,937 £233,060 8.1%
Rhondda Cynon Taf £159,064 £146,006 8.9%
Sir Benfro £241,813 £230,926 4.7%
Sir Ddinbych £205,171 £193,640 6%
Sir Fynwy £364,643 £328,340 11.1%
Sir y Fflint £219,884 £201,656 9%
Sir Gaerfyrddin £213,785 £186,151 14.8%
Torfaen £202,470 £185,228 9.3%
Wrecsam £204,093 £194,712 4.8%
Ynys Môn £244,381 £226,849 7.7%
Cymru £215,343 £202,482 6.4%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Chwefror 2023, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £365,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Blaenau Gwent, lle mai £137,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Chwefror 2023 Chwefror 2022 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £334,546 £310,989 7.6%
Tŷ pâr £207,857 £195,882 6.1%
Tŷ teras £167,081 £157,282 6.2%
Fflat neu fflat deulawr £134,557 £131,396 2.4%
Holl £215,343 £202,482 6.4%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol

Awdurdodau lleol Rhagfyr 2022 Rhagfyr 2021
Abertawe 197 335
Blaenau Gwent 61 102
Bro Morgannwg 144 185
Caerdydd 328 513
Caerffili 181 216
Casnewydd 130 197
Castell-nedd Port Talbot 142 163
Ceredigion 57 84
Conwy 111 205
Gwynedd 127 162
Merthyr Tudful 70 74
Pen-y-bont ar Ogwr 147 186
Powys 96 160
Rhondda Cynon Taf 231 327
Sir Benfro 108 182
Sir Ddinbych 94 93
Sir Gaerfyrddin 175 252
Sir Fynwy 72 119
Sir y Fflint 120 189
Tor-faen 58 110
Wrecsam 102 165
Ynys Môn 66 103
Cymru 2,817 4,122

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2022 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2021 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2022, cynyddodd nifer y trafodion gan 29.0% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 10.3% yng Nghymru yn y 12 mis hyd at Ragfyr 2022.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Rhagfyr 2018 4,255
Rhagfyr 2019 4,089
Rhagfyr 2020 4,929
Rhagfyr 2021 4,122
Rhagfyr 2022 2,817

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2022 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £331,623 0.5% 28.8%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £216,528 0.6% 9.2%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2023 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £184,529 -0.9% 5.9%
Cyn berchen-feddiannydd £251,872 -0.3% 6.8%

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Chwefror 2023 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £207,789 -0.6% 5.6%
Morgais £219,694 -0.6% 6.7%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Rhagfyr 2022
Cymru 6

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288