Ystadegau Gwladol

Crynodeb o Fynegai Prisiau Tai y DU: Chwefror 2022

Cyhoeddwyd 13 April 2022

1. Prif ystadegau ar gyfer Chwefror 2022

Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £276,755

Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 10.9%

Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.5%

Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 145.2

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Cyhoeddir Mynegai Prisiau Tai y DU Mawrth 2022 am 9.30am ddydd Mercher 18 Mai 2022. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai y DU gan 10.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, i fyny o 10.2% yn Ionawr 2022. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Ionawr a Chwefror 2022, i fyny o leihad o 0.04% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr a Chwefror 2021).

Roedd y twf cryfaf mewn prisiau tai yng Nghymru lle cynyddodd prisiau gan 14.2% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022. Roedd y twf blynyddol lleiaf yn Llundain, lle cynyddodd prisiau gan 8.1% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022.

Adroddodd Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Chwefror 2022 Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) fod gwerthiannau tai wedi cryfhau yn Chwefror ynghyd â chynnydd yn nifer yr ymholiadau gan brynwyr newydd, er gwaethaf penderfyniad Banc Lloegr i gynyddu cyfraddau llog.

Adroddodd crynodeb o amodau busnes Chwarter 1 2022 Banc Lloegr fod galw yn y farchnad dai wedi parhau’n gryf, yn enwedig ymysg prynwyr am y tro cyntaf, ac yn fwy na’r cyflenwad eiddo sydd ar gael. Ynghyd â chyflenwad cyfyngedig o dai a adeiledir o’r newydd, mae hyn wedi arwain at chwyddiant uchel mewn prisiau tai mewn rhai ardaloedd.

Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Chwefror 2022, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, fod y nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl sy’n werth £40,000 neu fwy yn 112,240. Mae hyn 20.8% yn is na flwyddyn yn ôl (Chwefror 2021). Rhwng Ionawr a Chwefror 2022, cynyddodd trafodion y DU gan 4.4% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol.

Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Chwefror 2022 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, dangosydd benthyca yn y dyfodol, wedi lleihau ychydig i 71,000 yn Chwefror 2022, i lawr o 73,800 yn Rhagfyr 2021. Mae hyn yn parhau’n uwch na’r cyfartaledd 12 mis cyn y pandemig hyd at Chwefror 2020 o 66,700.

3. Newidiadau mewn prisiau

3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol

Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 5 mlynedd diwethaf

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 10.9% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022, i fyny o 10.2% yn Ionawr 2022.

Ar lefel gwlad, cofnodwyd y twf blynyddol mwyaf mewn prisiau tai yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022 yng Nghymru, lle cynyddodd prisiau tai gan 14.2%.

Yn yr Alban cynyddodd prisiau tai gan 11.7% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022.

Yn Lloegr cynyddodd prisiau tai gan 10.7% yn y flwyddyn hyd at Chwefror 2022.

Yng Ngogledd Iwerddon cynyddodd prisiau tai gan 7.9% dros y flwyddyn hyd at Chwarter 4 (Hydref i Ragfyr) 2021.

3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth Pris Newid misol Newid blynyddol
Cymru £205,114 -0.7% 14.2%
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2021) £159,151 0.1% 7.9%
Lloegr £295,888 0.9% 10.7%
Yr Alban £180,822 -1.7% 11.7%
De Ddwyrain Lloegr £380,528 -0.3% 12.0%
De Orllewin Lloegr £312,697 1.2% 12.5%
Dwyrain Canolbarth Lloegr £235,993 -0.4% 10.9%
Dwyrain Lloegr £345,652 1.3% 12.5%
Gorllewin Canolbarth Lloegr £237,757 0.3% 10.0%
Gogledd Ddwyrain Lloegr £152,551 1.2% 9.4%
Gogledd Orllewin Lloegr £203,538 1.6% 10.2%
Llundain £529,882 2.2% 8.1%
Swydd Gaerefrog a’r Humber £198,599 1.2% 9.5%

Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.5% rhwng Ionawr 2022 a Chwefror 2022, i lawr o 0.04% yn ystod yr un cyfnod flwyddyn yn gynharach (Ionawr 2021 a Chwefror 2021). Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y DU gan 0.8% rhwng Ionawr 2022 a Chwefror 2022.

Sylwer: Mae ffigur Gogledd Iwerddon yn cynrychioli newid o 3 mis ac ni ellir ei gymharu â’r rhanbarthau neu’r gwledydd eraill.

3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo

Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo

Math o eiddo Chwefror 2022 Chwefror 2021 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £438,523 £383,236 14.4%
Tŷ pâr £265,915 £238,733 11.4%
Tŷ teras £222,930 £204,543 9.0%
Fflat neu fflat deulawr £228,003 £210,953 8.1%
Holl £276,755 £249,586 10.9%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hwy. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen mwy o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad

Gwlad Rhagfyr 2021 Rhagfyr 2020
Lloegr 33,759 85,705
Gogledd Iwerddon (Chwarter 4 - 2021) 2,050 2,826
Yr Alban 8,814 11,148
Cymru 2,183 4,929

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2021, lleihaodd nifer y trafodion gan 52.5% yn Lloegr, lleihaodd gan 18.1% yn yr Alban, a lleihaodd gan 47.3% yng Nghymru. Lleihaodd nifer y trafodion yng Ngogledd Iwerddon gan 16.9% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 4 2021.

Mae [Ystadegau Trafodion Eiddo y DU](https://www.gov.uk/government/statistics/monthly-property-transactions-completed-in-the-uk-with-value-40000-or-above} a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 17.1% yn Lloegr, 19.1% yn yr Alban, 16.6% yng Ngogledd Iwerddon, a 15.5% yng Nghymru yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021.

4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf

Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2017 i 2021 yn ôl gwlad: Rhagfyr

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Rhagfyr 2021 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer Rhagfyr 2020 â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer Rhagfyr 2021, lleihaodd nifer y trafodion yn y DU gan 47.1% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EM (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion yn y DU wedi lleihau gan 17.2% yn y flwyddyn hyd at Ragfyr 2021.

5. Statws eiddo ar gyfer y DU

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen mwy o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hwy i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd

Statws eiddo Pris cyfartalog Rhagfyr 2021 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £352,909 -0.8% 19.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £266,669 0.9% 8.6%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr ar gyfer Prydain Fawr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd

Math o brynwr Pris cyfartalog Chwefror 2022 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £230,593 0.6% 10.1%
Cyn berchen-feddiannydd £324,691 0.5% 11.9%

7. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr

Arian parod a morgais

Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.

Statws ariannu Pris cyfartalog Chwefror 2022 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £262,793 0.5% 10.7%
Morgais £288,949 0.6% 11.1%

8. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

9. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Gofrestrfa Tir EM, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Cysylltu

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EM

Ebost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288

Ceri Lewis, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol

Ebost ceri.lewis@ons.gov.uk

Ffôn 01633 456400

Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon

Ebost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk

Ffôn 028 90 336035

Rachael Fairley, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban

Ebost rachael.fairley@ros.gov.uk

Ffôn 07919 570915