Mynegai Prisiau Tai y DU: Awst 2026
Cyhoeddwyd 21 Hydref 2026
1. Prif ystadegau ar gyfer Awst 2026
Pris eiddo cyfartalog yn y DU oedd £273,000
Y newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.9%
Y newid mewn prisiau misol ar gyfer eiddo yn y DU oedd 0.3%
Y ffigur mynegai misol (Ionawr 2015 = 100) ar gyfer y DU oedd 104.6
Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU.
Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU
Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Medi 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 18 Tachwedd 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.
Yn natganiad Medi 2024, adolygwyd amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU o Ionawr 2022 ymlaen trwy ddefnyddio data prisiau a broseswyd y tu allan i gyfnod adolygu arferol Mynegai Prisiau Tai y DU, sef 12 mis. Yn natganiad Hydref 2024, dychwelodd Mynegai Prisiau Tai y DU i’r cyfnod adolygu arferol o 12 mis. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag arfer, a dylent nodi’r ansicrwydd sylweddol uwch ynghylch prisiau adeiladau newydd.
Cyn hyn, roedd gan Fynegai Prisiau Tai y DU gyfnod cyfeirio o Ionawr 2015. Yn natganiad Chwefror 2025, diweddarwyd cyfnod cyfeirio Mynegai Prisiau Tai y DU i Ionawr 2023, felly erbyn hyn, mae mynegeion Mynegai Prisiau Tai y DU yn adrodd bod Ionawr 2023 yn hafal i 100. Mae ailgyfeirio yn sicrhau bod Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu pris eiddo “cyfartalog” sy’n cael ei werthu ar hyn o bryd ac yn symud y gyfres lefel prisiau gyfan ar gyfer pob daearyddiaeth a dadansoddiad gan ganran gyson heb effeithio ar gyfraddau chwyddiant. Darllenwch ragor ar flog y Swyddfa Ystadegau Gwladol Cadw prisiau tai cyfartalog yn gyfoes a datganiad Mynegai Prisiau Tai y DU 19 Chwefror 2025.
Ar 20 Medi 2025, cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai ar gyfer Prydain Fawr, sy’n lleihau’r goramcangyfrif cychwynnol o amcangyfrifon eiddo a adeiledir o’r newydd mewn amcangyfrifon dros dro. Gan fod gwella’r dull hwn yn cynyddu cywirdeb ein hamcangyfrifon cychwynnol, rydym yn disgwyl i’r diwygiadau cyffredinol rhwng amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU dros dro (1af) a therfynol (13eg) fod yn llai wrth symud ymlaen. Mae rhagor o fanylion am y gwelliant i’r dull hwn ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF.
Yn ogystal â hyn, o 17 Rhagfyr 2025, mae’r gwaith i symud system gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU i blatfform newydd wedi golygu y gallwn gyflwyno gwelliant bach yn y ffordd rydym yn cysylltu’r setiau data a ddefnyddir wrth gynhyrchu Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae hyn yn golygu, ar gyfartaledd, bod gan y dull newydd wybodaeth fwy cadarn am briodoleddau eiddo, er enghraifft arwynebedd llawr a nifer yr ystafelloedd sy’n cael eu defnyddio yn y broses fodelu. Mae’r gwelliant hwn wedi arwain at rai diwygiadau bach yn ôl i fis Ionawr 2025.
Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
O 22 Ebrill 2026, rydym wedi cyflwyno’r un gwelliannau cysylltu hyn i’n prosesu blynyddol; yn ogystal, rydym wedi gwneud gwelliant bach i gyfrifo’r pwysau a ddefnyddir ar gyfer eiddo sydd â nodweddion ar goll yn y model atchweliad.
2. Datganiad economaidd
0.9% oedd chwyddiant blynyddol prisiau tai cyfartalog y DU (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Awst 2026. Roedd hyn i lawr o’r amcangyfrif diwygiedig o 1.2% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026.
Arafodd cyfradd flynyddol y DU am y pedwerydd mis yn olynol oherwydd bod twf prisiau yn wannach yn haf 2026 nag yr oedd yn yr un cyfnod y flwyddyn ddiwethaf, gyda’r arafu mewn cyfraddau blynyddol i’w weld ar draws Lloegr yn chwe o’r naw rhanbarth, gan ysgogi arafu pellach yng nghyfradd flynyddol y DU yn y cyfnod diweddaraf.
Cynyddodd prisiau cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Gorffennaf ac Awst 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl. Mae hyn yn cyfateb ag adroddiadau’r sector preifat, gan gynnwys Rightmove a Zoopla, sydd wedi gwneud adroddiadau tebyg o dwf prisiau araf ar ddiwedd haf 2026.
£273,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Awst 2026 (amcangyfrif dros dro), sy’n £2,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2026 yn Lloegr i £294,000 (0.4%), cynyddodd yng Nghymru i £216,000 (3.1%) a chynyddodd yn yr Alban i £198,000 (2.9%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2026 i £202,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.2%).
Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Gorffennaf 2026 ac Awst 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.2% rhwng Gorffennaf 2026 ac Awst 2026.
O ranbarthau Lloegr, roedd y chwyddiant prisiau tai blynyddol uchaf yng Ngogledd Ddwyrain Lloegr, lle cynyddodd prisiau gan 3.2% yn y 12 mis hyd at Awst 2026. Roedd hyn i lawr o 4.7% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026.
Llundain oedd y rhanbarth gyda’r chwyddiant blynyddol isaf yn Lloegr, lle gostyngodd prisiau gan 2.2% yn y 12 mis hyd at Awst 2026, i fyny o ostyngiad blynyddol o 3.2% yn y 12 mis hyd at Orffennaf 2026. Erbyn hyn mae’r pris cyfartalog yn Llundain £15,000 yn is na’r lefel uchaf diweddar yng Ngorffennaf 2025 (£569,000), ond £8,000 yn uwch na’r lefel isaf ddiweddar ym Mawrth 2026 (£546,000).
Yn Llundain, gostyngodd prisiau cyfartalog fflatiau gan 5.0% yn y 12 mis hyd at Awst 2026. Mewn cyferbyniad, cynyddodd prisiau cyfartalog ar gyfer cartrefi Llundain dros yr un cyfnod. Gan fod fflatiau yn cyfrif am hanner yr holl werthiannau eiddo yn Llundain o’i gymharu â thuag un rhan o bump ar draws Prydain Fawr, roedd y gostyngiad mewn prisiau fflatiau Llundain wedi ysgogi gostyngiad blynyddol yn Llundain yn gyffredinol o 2.2% yn y 12 mis hyd at Awst 2026.
Adroddodd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig (RICS) yn ei Arolwg o Farchnad Breswyl y DU Awst 2026 fod prisiau tai ar draws y DU yn parhau i ddangos graddfa gymedrol o bwysau ar i lawr, gyda Llundain yn parhau i ddangos cyfradd gyflymach o ostyngiad mewn prisiau na chyfartaledd y DU, tra bod Gogledd Orllewin Lloegr yn parhau i adrodd twf cymedrol mewn prisiau.
Dangosodd Ystadegau Trafodion Eiddo y DU Cyllid a Thollau EF ar gyfer Awst 2026, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, mai’r nifer amcangyfrifedig o drafodion eiddo preswyl gyda gwerth o £40,000 neu fwy oedd 95,000. Mae hyn 1.9% yn is na 12 mis yn ôl (Awst 2025). Rhwng Gorffennaf 2026 ac Awst 2026, lleihaodd trafodion y DU gan 1.5% ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol. Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol rhwng Gorffennaf 2026 ac Awst 2026, adroddodd Cyllid a Thollau EF fod nifer y trafodion wedi lleihau gan 9.8% yn Lloegr, 20.1% yn yr Alban, 8.8% yng Nghymru a 4.7% yng Ngogledd Iwerddon.
Adroddodd datganiad Arian a Chredyd Banc Lloegr Awst 2026 fod morgeisi a gymeradwywyd ar gyfer prynu tai, sy’n ddangosydd benthyca yn y dyfodol, wedi lleihau i 54,900 yn Awst, ond yn is na chyfartaledd o 60,100 dros y 6 mis blaenorol.
3. Newidiadau mewn prisiau
3.1 Newidiadau mewn prisiau blynyddol
Newidiadau mewn prisiau blynyddol ar gyfer y DU yn ôl gwlad dros y 4 blynedd diwethaf.
Llwytho data’r siart hon i lawr (CSV, 2KB)
Cynyddodd prisiau cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Gorffennaf ac Awst 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yn yr un cyfnod flwyddyn yn ôl. Mae hyn yn cyfateb ag adroddiadau’r sector preifat, gan gynnwys Rightmove a Zoopla, sydd wedi gwneud adroddiadau tebyg o dwf prisiau araf ar ddiwedd haf 2026.
£273,000 oedd pris tŷ cyfartalog y DU yn Awst 2026 (amcangyfrif dros dro), sy’n £2,000 yn uwch na 12 mis yn ôl. Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Awst 2026 yn Lloegr i £294,000 (0.4%), cynyddodd yng Nghymru i £216,000 (3.1%) a chynyddodd yn yr Alban i £198,000 (2.9%). Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 (Ebrill i Fehefin) 2026 i £202,000 yng Ngogledd Iwerddon (9.2%).
3.2 Pris cyfartalog yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
Pris, newid misol a newid blynyddol yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth
| Gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth | Pris | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Cymru | £216,363 | 1.0% | 3.1% |
| Gogledd Iwerddon (Chwarter 2 – 2026) | £202,487 | 2.1% | 9.2% |
| Lloegr | £293,525 | 0.2% | 0.4% |
| Yr Alban | £198,397 | 0.9% | 2.9% |
| De Ddwyrain Lloegr | £379,953 | -0.1% | -0.8% |
| De Orllewin Lloegr | £304,139 | 0.7% | 0.0% |
| Dwyrain Canolbarth Lloegr | £241,955 | 0.4% | 0.5% |
| Dwyrain Lloegr | £337,848 | 0.2% | 0.2% |
| Gorllewin Canolbarth Lloegr | £250,731 | 0.2% | 1.2% |
| Gogledd Ddwyrain Lloegr | £165,640 | -0.6% | 3.2% |
| Gogledd Orllewin Lloegr | £220,393 | 0.0% | 2.2% |
| Llundain | £554,430 | 0.7% | -2.2% |
| Swydd Gaerefrog a Humber | £209,266 | 0.2% | 1.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 64KB)
Newidiadau mewn prisiau yn ôl gwlad a rhanbarth swyddfa’r llywodraeth

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.3% rhwng Gorffennaf 2026 ac Awst 2026, o’i gymharu â chynnydd o 0.6% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl. Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog y DU gan 0.2% rhwng Gorffennaf 2026 ac Awst 2026.
3.3 Pris cyfartalog yn ôl math o eiddo
Pris misol cyfartalog yn ôl math o eiddo
| Math o eiddo | Awst 2026 | Awst 2025 | Gwahaniaeth |
|---|---|---|---|
| Tŷ sengl | £443,846 | £440,787 | 0.7% |
| Tŷ pâr | £278,675 | £273,059 | 2.1% |
| Tŷ teras | £232,505 | £228,355 | 1.8% |
| Fflat neu fflat deulawr | £194,148 | £197,382 | -1.6% |
| Holl | £273,037 | £270,575 | 0.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 67KB)
4. Nifer y gwerthiannau
Mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU yn adlewyrchu nifer y gwerthiannau a gafodd eu cofrestru hyd yma ar gyfer mis penodol ac nid ydynt yn adlewyrchu cyfanswm y gwerthiannau a ddigwyddodd yn ystod y mis hwnnw. Mae’n cymryd amser i’r gwerthiannau a ddigwyddodd gael eu cofrestru a’u prosesu i’w cynnwys yn niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU. Felly, mae niferoedd data Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer y 12 mis diweddaraf o ddata yn niferoedd data dros dro a gellir eu diwygio, yn unol â pholisi cyfnod diwygio Mynegai Prisiau Tai y DU. Ni ddylai defnyddwyr ddefnyddio niferoedd data dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU i ddod i gasgliadau ynghylch tueddiadau mewn gweithgarwch gwerthiannau.
Yn 2024, roedd Cofrestrfa Tir EF wedi dychwelyd yn llwyddiannus i brosesu dros 40% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer amcangyfrif cyntaf Mynegai Prisiau Tai y DU (y targed a bennwyd yn y cyfarwyddyd Ansawdd a Methodoleg Mynegai Prisiau Tai y DU. Mae amcangyfrifon nifer y gwerthiannau Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer cyfnodau cynharach ac eiddo a adeiledir o’r newydd yn parhau’n is na’r cyfartaleddau hanesyddol ond yn parhau i wella. Dylai defnyddwyr fod yn ymwybodol y gall diwygiadau fod yn fwy nag y buont yn hanesyddol a dylent nodi bod mwy o ansicrwydd ynghylch prisiau eiddo a adeiledir o’r newydd.
Cyflwynodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol welliant i ddull cyfrifo Mynegai Prisiau Tai y DU o Awst 2025; mae rhagor o fanylion ar gael yn adran 4.9 o ddogfen Am Fynegai Prisiau Tai y DU Cofrestrfa Tir EF. Bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn parhau i fonitro diwygiadau a nodi gwelliannau pellach posibl i ddulliau yn y dyfodol.
4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl gwlad
Mae amcangyfrifon dros dro Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Awst 2026 yn seiliedig ar oddeutu 40,100 o gofnodion ar gyfer Lloegr, 7,200 ar gyfer yr Alban, a 2,200 ar gyfer Cymru. Mae hyn yn cynrychioli 53% o’r amcangyfrif o werthiannau dros dro Cyllid a Thollau EF ar gyfer Awst 2026, fel y manylir yn ei gyhoeddiad Trafodion eiddo misol a gwblhawyd yn y DU gydag amcangyfrifon gwerth £40,000 neu fwy. Dros amser, bydd mwy o gofnodion ar gael ar gyfer cyfnodau diweddar, a fydd yn cael eu defnyddio i ddiwygio amcangyfrifon Mynegai Prisiau Tai y DU a nifer y gwerthiannau, yn unol â’r polisi diwygiadau a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Chofrestrfa Tir EF.
Mae amcangyfrifon gwerthiannau o Fynegai Prisiau Tai y DU yn wahanol i amcangyfrifon Cyllid a Thollau EF oherwydd ffynonellau data, maint y cyfnod diwygio a chwmpas gwahanol. Mae Adroddiad ansawdd Cyllid a Thollau EF yn nodi ei bod yn debygol y bydd gwallau yn ei ddata oherwydd gwallau adrodd neu allweddu, megis camddosbarthu rhwng trafodion preswyl a di-breswyl. Fodd bynnag, mae Cyllid a Thollau EF yn cymryd camau i leihau’r gwall mesur hwn. Rheswm arall posibl dros wahaniaethau yw bod trafodion eiddo preswyl, lle mae’r prynwr neu’r gwerthwr yn gorff corfforedig, yn gwmni neu’n fusnes, wedi eu heithrio o ddata Mynegai Prisiau Tai y DU, ond yn cael eu cynnwys yn nata Cyllid a Thollau EF.
| Gwlad | Mehefin 2026 | Mehefin 2025 |
|---|---|---|
| Lloegr | 41,973 | 61,624 |
| Gogledd Iwerddon | 1,775 | 1,640 |
| Yr Alban | 9,005 | 9,588 |
| Cymru | 2,406 | 3,603 |
Sylwer: Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y 12 mis diwygiedig.
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 1KB)
Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o nifer y trafodion ar gyfer Mehefin 2025 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 18.4% yn Lloegr, lleihaodd gan 4.4% yn yr Alban a chynyddodd gan 13.0% yng Nghymru. Cynyddodd nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU yng Ngogledd Iwerddon gan 18.5% yn y flwyddyn hyd at Chwarter 2 2026.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Fehefin 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 8.8% yn Lloegr, wedi lleihau gan 4.7% yn yr Alban, wedi cynyddu gan 2.9% yng Nghymru, ac wedi cynyddu gan 4.6% yng Ngogledd Iwerddon.
4.2 Nifer y gwerthiannau ar gyfer y DU dros y 5 mlynedd diwethaf
Nifer y gwerthiannau ar gyfer 2022 i 2026 yn ôl gwlad
Lawrlwytho data’r tabl hwn (CSV, 1KB)
Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Mehefin 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys ym Mynegai Prisiau Tai y DU. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.
Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2025 â’r amcangyfrif dros dro o nifer y trafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Mehefin 2026, cynyddodd nifer y trafodion yn y DU gan 13.8%.
Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, fod nifer y trafodion y DU wedi cynyddu gan 3.0% yn y 12 mis hyd at Mehefin 2026.
Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd
| Statws eiddo | Pris cyfartalog Mehefin 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Tai a adeiledir o’r newydd | £341,829 | -8.0% | 0.8% |
| Eiddo presennol a ailwerthwyd | £267,217 | 0.0% | 1.5% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 11KB)
Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn dulliau a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.
5. Statws eiddo ar gyfer y DU
Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws y prynwr.
| Math o brynwr | Pris cyfartalog Awst 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Prynwr am y tro cyntaf | £230,097 | 0.4% | 0.9% |
| Cyn berchen-feddiannydd | £336,228 | 0.3% | 0.8% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 4.7KB)
Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.
6. Statws cyllido ar gyfer Prydain Fawr
Arian parod a morgais
Ar gyfer Prydain Fawr yn unig – nid yw data Gogledd Iwerddon ar gael ar gyfer statws cyllido.
| Statws cyllido | Pris cyfartalog Awst 2026 | Newid misol | Newid blynyddol |
|---|---|---|---|
| Arian parod | £259,131 | 0.3% | 0.5% |
| Morgais | £282,126 | 0.3% | 0.9% |
Llwytho data’r tabl hwn i lawr (CSV, 5KB)
7. Cyrchu’r data
Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.
Diwygiadau data
Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein canllaw Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
8. Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU
Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.
Darllenwch ragor Am Fynegai Prisiau Tai y DU.
Un o’r prif ffactorau sy’n penderfynu prisiau tai yw nodweddion demograffig yr ardal lle y lleolir yr eiddo. Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn defnyddio’r dosbarthiad demograffig-gymdeithasol a elwir Acorn, yn y model atchweliad hedonig i fesur cyfoeth yr ardal.
Cyn 20 Rhagfyr 2023, cafodd trafodion eiddo ym Mhrydain Fawr eu heithrio o’r model atchweliad os oedd eu dosbarthiad Acorn ar goll. O gyhoeddiad 20 Rhagfyr 2023, mae’r eiddo hyn wedi eu cynnwys yn y model atchweliad o ddata Ionawr 2023 ymlaen, ond yn cael llai o bwysiad yn y cyfrifiadau, fel y disgrifir uchod. Mae’r gwelliant hwn yn y fethodoleg yn alinio sut mae trafodion gyda dosbarthiad Acorn coll yn cael eu defnyddio ym model Prydain Fawr a model Gogledd Iwerddon, gan gynyddu cydlyniant ar draws y DU a gwella ansawdd ystadegau Mynegai Prisiau Tai y DU.
9. Cysylltu
Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF
E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk
Ffôn 0300 006 5288
Ian Boreham, Pennaeth Mynegeion y Farchnad Dai, Swyddfa Ystadegau Gwladol
E-bost ian.boreham@ons.gov.uk
Ffôn 01633 456228
Ciara Cunningham, Ystadegydd ar gyfer Mynegai Prisiau Tai Gogledd Iwerddon
E-bost ciara.cunningham@finance-ni.gov.uk
Ffôn 028 90 336035
Garreth Jones, Rheolwr Tîm Data Tir ac Eiddo, Cofrestri’r Alban
E-bost Garreth.Jones@ros.gov.uk
Ffôn 0131 378 4114