Skip to main content
Ystadegau swyddogol achrededig

Mynegai Prisiau Tai y DU: adroddiad Cymru: Ebrill 2026

Cyhoeddwyd 17 Mehefin 2026

1. Prif ystadegau ar gyfer Ebrill 2026

Pris eiddo cyfartalog yng Nghymru oedd £212,000

Y newid mewn prisiau blynyddol eiddo ar gyfer Cymru oedd 3.5%

y newid mewn prisiau misol eiddo ar gyfer Cymru oedd -0.3%

y ffigur mynegai ar gyfer Cymru (Ionawr 2015 = 100) oedd 105.3

Mae’r amcangyfrifon ar gyfer y misoedd mwyaf diweddar yn debygol o gael eu diweddaru wrth i ragor o ddata gael ei ymgorffori. Darllenwch y polisïau diwygiadau.

Dyddiad cyhoeddi nesaf Mynegai Prisiau Tai y DU

Bydd Mynegai Prisiau Tai y DU Ebrill 2026 yn cael ei gyhoeddi am 9.30am ddydd Mercher 17 Mehefin 2026. Gweler y calendr dyddiadau rhyddhau am ragor o wybodaeth.

2. Datganiad economaidd

Cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 3.5% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026, i £213,000 (amcangyfrif dros dro). Roedd hyn i fyny o 2.8% (amcangyfrif diwygiedig) yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026 ac yn is na’r chwyddiant blynyddol mewn prisiau tai cyfartalog y DU o 3.8% (amcangyfrif dros dro) yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026.

Ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, gostyngodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Mawrth 2026 ac Ebrill 2026, o’i gymharu â gostyngiad o 0.9% yn ystod yr un cyfnod 12 mis yn ôl.

Ar sail wedi ei haddasu’n dymhorol, cynyddodd prisiau tai cyfartalog yng Nghymru gan 0.3% rhwng Mawrth 2026 ac Ebrill 2026.

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 5.6% yng Nghymru a lleihaodd gan 4.6% yn y DU.

Yng Nghymru, dangosodd 17 o’r 22 ardal awdurdod lleol gynnydd mewn prisiau tai cyfartalog yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026. Caerffili welodd y newid canrannol blynyddol mwyaf, gan godi 10.5% i £200,000 yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026. Mewn cyferbyniad, Merthyr Tudful welodd y newid canrannol blynyddol lleiaf, gan leihau 3.8% i £139,000 yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026.

Yng Nghymru, tai teras oedd â’r chwyddiant blynyddol mwyaf o’r holl fathau o eiddo, gan gynyddu 5.6% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026, i’r pris cyfartalog o £171,000. Gwelwyd y chwyddiant blynyddol lleiaf mewn fflatiau a fflatiau deulawr, gan leihau 1.5% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026, i’r pris cyfartalog o £128,000.

Yn yr un modd â dangosyddion eraill yn y farchnad dai, sy’n newid o fis i fis fel arfer, mae’n bwysig peidio â rhoi gormod o bwys ar y set o ddata prisiau tai ar gyfer un mis arbennig.

3. Newid mewn prisiau

3.1 Newid mewn prisiau blynyddol

Newid mewn prisiau blynyddol ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf

Yng Nghymru, cynyddodd prisiau cyfartalog gan 3.5% yn y 12 mis hyd at Ebrill 2026 (amcangyfrif dros dro), i fyny o 2.8% yn y 12 mis hyd at Fawrth 2026 (amcangyfrif diwygiedig).

Newid mewn prisiau blynyddol yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Gall nifer isel o drafodion gwerthu mewn rhai awdurdodau lleol arwain at ansefydlogrwydd yn y gyfres.

Er ein bod yn ceisio darparu ar gyfer yr ansefydlogrwydd hwn, gall y newid mewn prisiau yn y lefelau lleol hyn gael ei ddylanwadu gan y math o eiddo a nifer yr eiddo a werthir mewn unrhyw gyfnod penodol.

Dylid dadansoddi ardaloedd daearyddol gyda nifer isel o drafodion gwerthu yng nghyd-destun eu tueddiadau mwy hirdymor yn hytrach na chanolbwyntio ar symudiadau misol.

Awdurdodau lleol Ebrill 2026 Ebrill 2025 Gwahaniaeth
Abertawe £206,254 £203,344 1.4%
Blaenau Gwent £142,421 £131,921 8%
Bro Morgannwg £293,277 £286,153 2.5%
Caerdydd £271,166 £266,338 1.8%
Caerffili £200,000 £181,029 10.5%
Casnewydd £230,320 £217,744 5.8%
Castell-nedd Port Talbot £156,817 £157,789 -0.6%
Ceredigion £244,182 £228,384 6.9%
Conwy £218,112 £210,072 3.8%
Gwynedd £199,444 £195,232 2.2%
Merthyr Tudful £139,322 £144,765 -3.8%
Pen-y-bont ar Ogwr £205,150 £203,922 0.6%
Powys £223,319 £228,543 -2.3%
Rhondda Cynon Taf £165,745 £153,792 7.8%
Sir Benfro £213,910 £219,049 -2.3%
Sir Ddinbych £199,864 £195,322 2.3%
Sir Fynwy £322,377 £331,488 -2.7%
Sir y Fflint £214,009 £208,054 2.9%
Sir Gaerfyrddin £196,784 £187,306 5.1%
Torfaen £201,797 £193,026 4.5%
Wrecsam £209,457 £202,186 3.6%
Ynys Môn £241,717 £227,896 6.1%
Cymru £212,489 £205,275 3.5%

Prisiau cyfartalog yn ôl awdurdod lleol ar gyfer Cymru

Yn Ebrill 2026, yr ardal ddrutaf i brynu eiddo oedd Sir Fynwy, lle mai £322,000 oedd pris tŷ cyfartalog. Mewn cyferbyniad, yr ardal rataf i brynu eiddo oedd Merthyr Tudful, lle mai £139,000 oedd pris tŷ cyfartalog.

3.2 Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo

Newid mewn prisiau cyfartalog yn ôl math o eiddo ar gyfer Cymru

Math o eiddo Ebrill 2026 Ebrill 2025 Gwahaniaeth
Tŷ sengl £331,833 £326,528 1.6%
Tŷ pâr £211,662 £204,395 3.6%
Tŷ teras £170,851 £161,844 5.6%
Fflat neu fflat deulawr £127,703 £125,874 1.5%
Holl £212,489 £205,275 3.5%

4. Nifer y gwerthiannau

Mae’r amser rhwng gwerthu eiddo a chofrestru’r wybodaeth hon yn amrywio. Fel arfer, mae’n cymryd rhwng 2 wythnos a 2 fis ond gall gymryd yn hirach. Nid yw ffigurau’r gwerthiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad. Bydd trafodion cyhoeddedig ar gyfer y misoedd diwethaf yn cynyddu wrth i drafodion cofrestredig hwyrach gael eu cynnwys yn y mynegai.

Mae data ar nifer y gwerthiannau hefyd ar gael yn ôl statws eiddo (adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli) a statws cyllido (arian parod a morgais) yn ein tablau data y gellir eu llwytho i lawr. Mae trafodion sy’n ymwneud â chreu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Darllenwch Diwygiadau i ddata Mynegai Prisiau Tai y DU am ragor o wybodaeth.

4.1 Nifer y gwerthiannau yn ôl awdurdod lleol

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru yn ôl awdurdod lleol

Gan gymharu’r amcangyfrif dros dro o drafodion ar gyfer y mis cyfredol â’r amcangyfrif dros dro ar gyfer y mis cyfatebol yn y flwyddyn flaenorol.

Awdurdodau lleol Chwefror 2026 Chwefror 2025
Abertawe 156 249
Blaenau Gwent 36 63
Bro Morgannwg 124 135
Caerdydd 241 355
Caerffili 96 156
Casnewydd 110 200
Castell-nedd Port Talbot 100 145
Ceredigion 44 67
Conwy 116 170
Gwynedd 91 134
Merthyr Tudful 25 52
Pen-y-bont ar Ogwr 121 162
Powys 69 125
Rhondda Cynon Taf 161 235
Sir Benfro 96 153
Sir Ddinbych 92 97
Sir Gaerfyrddin 130 173
Sir Fynwy 79 90
Sir y Fflint 96 152
Torfaen 52 67
Wrecsam 81 126
Ynys Môn 44 73
Cymru 2,160 3,179

Sylwer: Mae’r golofn ‘Gwahaniaeth’ wedi cael ei symud ymaith o’r tabl hwn oherwydd nid yw data’r mis diweddaraf yn gyflawn eto.

Sylwer: Bydd nifer y trafodion eiddo ar gyfer Chwefror 2026 yn cynyddu wrth i ragor o drafodion gael eu cynnwys yn y mynegai. Gweler ein Polisi Diwygiadau am ragor o wybodaeth.

Gan gymharu’r amcangyfrifon dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Ebrill 2025 â’r amcangyfrif dros dro o drafodion Mynegai Prisiau Tai y DU ar gyfer Chwefror 2026, cynyddodd nifer y trafodion gan 5.6% yng Nghymru.

Mae Ystadegau Trafodion Eiddo y DU a gyhoeddir gan Gyllid a Thollau EF (sy’n wahanol eu cwmpas ond yn fwy cyflawn ar gyfer y cyfnod hwn) yn adrodd, ar sail heb ei haddasu’n dymhorol, yn y 12 mis hyd at Chwefror 2026, fod nifer y trafodion Cyllid a Thollau EF wedi cynyddu gan 0.8% yng Nghymru.

4.2 Nifer y gwerthiannau

Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru dros y 5 mlynedd diwethaf


Newid rhwng y siart a’r tabl

Dyddiad Nifer y gwerthiannau ar gyfer Cymru
Chwefror 2022 3,746
Chwefror 2023 2,679
Chwefror 2024 2,541
Chwefror 2025 3,179
Chwefror 2026 2,160

5. Statws eiddo

Mae trafodion sy’n cynnwys creu cofrestr newydd, megis adeiladau newydd, yn fwy cymhleth ac felly mae angen rhagor o amser i’w prosesu. Mae hyn yn golygu y gallant gymryd yn hirach i ymddangos yn y cofrestri tir. Nid yw nifer y trafodion adeiladau newydd ar gyfer y 2 fis diweddaraf ar lefel ddibynadwy ar gyfer adrodd ar y dadansoddiad rhwng adeiladau newydd ac eiddo sy’n bodoli a ailwerthwyd, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Tai a adeiledir o’r newydd ac eiddo presennol a ailwerthwyd ar gyfer Cymru

Statws eiddo Pris cyfartalog Chwefror 2026 Newid misol Newid blynyddol
Tai a adeiledir o’r newydd £338,622 6.6% 8.3%
Eiddo presennol a ailwerthwyd £208,869 0.5% 2.7%

Sylwer: er datganiad Hydref 2017, gwnaed newidiadau i’n model amcangyfrif wrth gyfrifo ein hamcangyfrif dros dro. Mae gwybodaeth bellach ac effaith y newid hwn i’w gweld yn y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

6. Statws y prynwr

Prynwr am y tro cyntaf a chyn berchen-feddiannydd ar gyfer Cymru

Math o brynwr Pris cyfartalog Ebrill 2026 Newid misol Newid blynyddol
Prynwr am y tro cyntaf £182,812 -0.3% 4.2%
Cyn berchen-feddiannydd £253,537 -0.2% 2.7%

Rydym wedi canfod gwall yng nghyfrifiad prisiau prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn Ionawr 2026. Rydym yn cynghori bod yn ofalus wrth gymharu dadansoddiadau ar gyfer prynwyr am y tro cyntaf a chyn-berchen-feddianwyr cyn ac ar ôl amcangyfrifon Ionawr 2026.

7. Statws cyllido

Dangosydd arian parod a morgais ar gyfer Cymru

Statws cyllido Pris cyfartalog Ebrill 2026 Newid misol Newid blynyddol
Arian parod £211,573 -0.3% 3.2%
Morgais £212,959 -0.3% 3.7%

8. Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Oherwydd bod cyfnod o 2 wythnos i 2 fis rhwng cwblhau a chofrestru gwerthiannau, nid yw ffigurau nifer yr adfeddiannau ar gyfer y 2 fis diweddaraf yn gyflawn eto, felly nid ydynt wedi eu cynnwys yn yr adroddiad.

Nifer y gwerthiannau adfeddiannu

Gwlad Nifer y gwerthiannau adfeddiannu Chwefror 2026
Cymru 6

9. Cyrchu’r data

Mae modd llwytho’r data i lawr fel ffeiliau CSV neu ei gyrchu gyda’n teclyn Mynegai Prisiau Tai y DU.

Diwygiadau data

Gallwch weld unrhyw ddiwygiadau i ddata a gyhoeddwyd yn flaenorol yn y lawrlwythiadau data neu cewch wybod rhagor am ddiwygiadau yn ein cyfarwyddyd Am Fynegai Prisiau Tai y DU.

10. Mynegai Prisiau Tai y DU

Mae Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei gyfrifo gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol a Gwasanaethau Tir ac Eiddo Gogledd Iwerddon. Darllenwch ragor am y fethodoleg a ddefnyddir i greu Mynegai Prisiau Tai y DU i greu Mynegai Prisiau Tai y DU.

Mae data ar gyfer Mynegai Prisiau Tai y DU yn cael ei ddarparu gan Cofrestrfa Tir EF, Cofrestri’r Alban, Gwasanaethau Tir ac Eiddo/Asiantaeth Ystadegau ac Ymchwil Gogledd Iwerddon ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Darllenwch ragor am Fynegai Prisiau Tai y DU.

11. Cyswllt ar gyfer ymholiadau’n ymwneud â Chymru

Eileen Morrison, Arweinydd Tîm Gwasanaethau Data, Cofrestrfa Tir EF

E-bost eileen.morrison@landregistry.gov.uk

Ffôn 0300 006 5288